Holl Waith Barddonol Goronwy Owen/Dau Englyn o Glod i'r Delyn
Gwedd
← Cywydd Marwnad Marged Morys | Holl Waith Barddonol Goronwy Owen gan Goronwy Owen golygwyd gan Isaac Foulkes |
Awdl Briodasgerdd i Elin Morys → |
DAU ENGLYN O GLOD I'R DELYN, 1755:
TELYN i bob dyn doniawl,—ddifaswedd,
Ydoedd fiwsig nefawl;
Telyn fwyn-gan ddiddanawl!
Llais Telyn a ddychryn ddiawl.
Nid oes hawl i ddiawl ar ddyn—mwyn cywraint,
Y mae'n curo'r gelyn;
Bwriwyd o Saul Yspryd syn,
Diawlaidd wrth ganu'r Delyn.