Neidio i'r cynnwys

Holl Waith Barddonol Goronwy Owen/Cywydd Marwnad Marged Morys

Oddi ar Wicidestun
Cywydd i'r Calan, 1755 Holl Waith Barddonol Goronwy Owen

gan Goronwy Owen


golygwyd gan Isaac Foulkes
Dau Englyn o Glod i'r Delyn


CYWYDD MARWNAD

MARGED MORYS,[1] Gwraig Morys-ap Rhisiart Morys, o Bentre Eirianell ym Mon, 1752.

MAWR alar, trwm oer wylaw,
A man drist sydd yn Mon draw,
Tristyd ac oerfryd garwfrwyn,[2]
Llwyr brudd, a chystudd a chwyn;

Tristaf man Pentre'rianell,
Ni fu gynt un a fa'i gwell,
Ni fu chwerwach tristach tro
I Fon, nag a fu yno.
Lle bu ddien lawenydd,
Ubain a dwys ochain sydd;
Digroyw lif, deigr wylofain,
Am Farged y rhed y rhai'n,
Didaw am Farged ydynt,
Marged law egored gynt;
B'd hapus haelionus law,
Ffrawddus[3] i fil ei phriddaw!
Rhy fawr san[4] ar Forys yw,
Oer adwyth i'w gwr ydyw;
Deuddyn un enaid oeddynt,
Dau ffyddlon, un galon gynt;
Mâd enaid! chwith am dani,
A phrudd hwn o'i phriddo hi,
Ac o'i herwydd dwg hiraeth
Ormod, ni fu weddwdod waeth!

Toliant[5] ar lawer teulu
Ar led, am Farged a fu,
Ymddifaid a gweiniaid gant
Ychenawg,[6] a achwynant
Faint eu harcholl, a'u colled,
Farw gwraig hael, lle bu cael ced.
Llawer cantorth o borthiant
Roe hon, lle b'ai lymion blant;
Can' hen a ddianghenodd,
I'r un ni bu nâg o rodd;
Gwiw rodd er mwyn goreudduw,
Gynes weinidoges Duw.

Gwraig ddigymar oedd Marged
I'w plith am ddigyrith ged,

A ched ddirwgnach ydoedd,
Parod, heb ei danod oedd.

Di ball yn ol ei gallu,
Rhwydd a chyfarwydd a fu,
Rhyfedd i'w chyrredd o chaid
Ing o unrhyw angenrhaid;
Rhoe wrth raid gyfraid i gant,
Esmwythai glwyfus methiant,[7]
Am gyngor Doctor nid aeth
Gweiniaid, na meddyginiaeth,
Dilys, lle b'ai raid eli,
Fe'i caid; nef i'w henaid hi.

Aed i nef a thangnefedd,
Llawenfyd hawddfyd a hedd;
Nid aeth mâd, wraig deimladwy
O'n plith a gadd fendith fwy
Bendith am ddiragrith rodd,
Hoff enaid! da y ffynodd;
Os oes rhinwedd ar weddi,
Ffynu wna mil o'i hil hi.

Pa lwysach hepil eisoes?
Ei theulu sy'n harddu'n hoes?
Tri mab doethion tirionhael,
Mawr ei chlod merch olau hael,
Trimab o ddoniau tramawr,
Doethfryd a chelfyddyd fawr;
LEWIS wiwddysg, lwys addwyn,
Athraw y gerdd fangaw fwyn,
Diwyd warcheidwad awen,
Orau gwaith, a Chymraeg wen.
RHISIART am gerdd ber hoywsain,
Hafal ni fedd Gwynedd gain;
Annhebyg tra bo'n hybarch

Y Beibl[8] na bydd iddo barch.
Allai fod (felly ei fam)
Deilen na nodai WILIAM?[9]
Chwiliai ef yr uchelion,
Y môr, a thir, am wyrth Ion;
Tradoeth pob brawd o'r tridyn,
Doeth, hyd y gall deall dyn;
Tri gwraidd frawd rhagorawl,
Haeddant, er na fynant fawl.
Da'r had—na newid eu rhyw,
D'wedant, ym Mon, nad ydyw
Cyneddfau, doniau dinam
ELIN, ei merch, lai na'i mam.

Da iawn fam! diau na fu
Hwnt haelach perchen teulu;
Rhy dda i'r byd ynfyd oedd,
Iawn i fod yn nef ydoedd;
Aeth i gartref nef a'i nawdd,
Duw IESU a'i dewisawdd;
Uniawn y farn a wna fo,
Duw Funer,[10] gwnaed a fyno.
Dewisaf, gan Naf, i ni
Oedd ddeisyf iddi oesi,
Hir oesi, cael hwyr wŷsiad
Adref i oleunef wlad.

Gwae 'r byd o'r enyd yr aeth!
Oer bryd oedd ar Brydyddiaeth;
Achles i wen awen oedd,
A nesaf i'r hen oesoedd,
Cynes i feirdd tra cenynt,
Oedd canu ffordd Gymru gynt,
Cael braint cân, o ddadanhudd,
A chler, er yn amser Nudd;
Boed heddwch a byd diddan

Byth it', ti a gerit gân;
Ac yna'n entrych gwiwnef,
Cydfydd â cherdd newydd nef;
Ni'th ludd cur, llafur na llid,
Da, yn Nuw, yw dy newid;
Newidio cân, (enaid cu!)
Monwysion am un IESU
Clywed llef y Côr nefawl,
Gwyn dy fyd! hyfryd dy hawl!
Lleisiau mowrgerth llesmeirgerdd
Côr y saint, cywraint eu cerdd,
Cu eu hodlau! cyhydlef,
Gwynion delynorion nef;
Canllef dwsmel tra melys,
Fal gwin ar bob ewin bys.

Dedwydd o enaid ydwyt,
Llaw Dduw a'n dycco lle'dd wyt.
A'n hanedd, da iawn hono,
Amen, yn nef wen a fo.[11]


Nodiadau

[golygu]
  1. Mam y brodyr enwog Lewis, Richard, a William Morys.
  2. Brwyn—athrist
  3. Dolurus
  4. Syn
  5. Tolliant
  6. Annghenog
  7. Yr oedd M. Morys yn llysieuwraig enwog
  8. Golygwr dau argraffiad o'r Bibl, 1746, a 1752.
  9. Llysieuwr digymhar
  10. Cynaliwr.
  11. Y mae y pedair llinell olaf hyn yn gerfiedig ar fedd M Morys.