Neidio i'r cynnwys

Holl Waith Barddonol Goronwy Owen/Cywydd i'r Awen

Oddi ar Wicidestun
Cywydd y Farf Holl Waith Barddonol Goronwy Owen

gan Goronwy Owen


golygwyd gan Isaac Foulkes
Epigram i'w dori ar gaead Blwch Tobacco


CYWYDD I'R AWEN.
Ar ddull HORAS, Lib, IV. Ode III.
Quem tu, Melpomene, &c., 1752.

O CHAI fachgen, wrth eni,
Wyd Awen dêg, dy wên di,
Ni bydd gawr na gwr mawrnerth,
Prydu a wna, Pa raid nerth?
Ni char ffull na churo ffest
Na chau dwrn, o chaid ornest
O b'ai'n, agwrdd benigamp
Ni chais glod gorfod y gamp;
Yn ei ddydd e ni ddiddawr
Gael parch am yru march mawr,
Ni chyrch drin[1] na byddinoedd,
Ni char nâd blaen—gad a bloedd,
Ni chaiff elw o ryfelwaith,
Na chlod wych hynod ychwaith,
Na choryn hardd, ddigardd[2] ddyn,
Draw i gil o droi gelyn
Mawl a gaiff am oleu gerdd,
A gwiw sein—gan gyson—gerdd,
Barddwawd[3] fel y gwnai beirddion
Defnyddfawr o Wlad fawr o Fon.

Cymru a rif ei phrif-feirdd,
Rhifid ym Mon burion beirdd,
Cyfran a gaf o'u cofrestr,

A'm cyfrif i'w rhif a'u rhestr;
Mawrair a gaf ym Meirion
Yn awr, a gair mawr Gwyr Mon;
Llaesodd, ar aball eisoes,
Cenfigen ei phen a ffoes.

O f'Awen dêg! fwyned wyt,
Di-odid, dawn Duw ydwyt,
Tydi roit, â diwair wên,
Lais eos i lysŵen!
Dedwydd o'th blegyd ydwyf,
Godidog ac enwog wyf,
Cair yn son am Oronwy
Llonfardd Mon, llawn fyrdd a mwy
Caf arwydd lle cyfeiriwyf,
Dengys llu â bys lle bwyf.

Diolch yt, Awen dawel,
Dedwydd wyf, deued a ddel;
Heb Awen, baich yw bywyd,
A'i rhodd yw rhyngu bodd byd.

Nodiadau

[golygu]
  1. Rhyfel.—"Yr hon a beris yr ha', a thrin rhwng Groeg a Throia."—DAFYDD AB GWILYM, i Elen.
  2. Digrwydr.
  3. Canmoliaeth—" Canaf it' a datganaf wawd,"—aralleiriad EDMWND PRYS o Salm cviii. 1