Neidio i'r cynnwys

Holl Waith Barddonol Goronwy Owen/Cywydd y Farf

Oddi ar Wicidestun
Cywydd ateb i anerch Huw ap Huw Holl Waith Barddonol Goronwy Owen

gan Goronwy Owen


golygwyd gan Isaac Foulkes
Cywydd i'r Awen


CYWYDD Y FARF.

1752.

CEFAIS gystudd i'm gruddiau,
Oer anaf oedd i'r ên fau;
Oerfyd a gair o arwfarf,
A dir boen o dori barf;
Mae goflew im' ac aflwydd,
A llwyni blew, llai na blwydd;
Crynwydd, fal eithin crinion
Yn fargod, da bod heb hon;
Trwsa'n difwyno traserch;
Athrywyn[1] mwynddyn a merch;
Mynych y ffromai meinwen
Wrth edrych ar wrych yr ên;
Difudd oedd ceisio'i dofi,
Ffei o hon, hwt! ffoi wna hi.
Caswaith (er daed cusan)
Ymdrin â merch â'm drain mân,
Briwio'i boch wrth ei llochi;
Och i'r rhawn! ac ni châr hi;
Ac aflwydd êl â'r goflew,
Sofl a blyg, ond ni syfl blew;
Cas gan feinwar ei charu
O waith y farf ddiffaith ddu.
Pwn ar ên, poen i wr yw,
Poenus i wyneb benyw;
Pleidwellt na laddai pladur,
Rhengau o nodwyddau dur
Dreiniach, fal pigau draenog,
Hyd ên ddu, fal danedd og;
Brasgawn, neu swp o brysgoed,
Picellau fal cangau coed;
Ffluwch[2] lednoeth, yn boeth y bo,
Gwyll hyllwedd, gwell ei heillio
Ag ellyn, neu lem gyllell,
Farf ddiffaith, ni bu waith well.

Ond gwell rhag y gyllell gerth,
Enyn gwalc yn wen goelcerth;
Mindrwch gwlltr gweindrwch gwandrwm,
Dyrnwr a'i try, dwrn hwyr trwm;
Ellyn a charn cadarn coch,
Hwswi bendrom sebondroch,
Tan fy marf, ar bob arfod,
Y rhydd ei hannedwydd nôd,
Briw cyfled â lled ei llafn,
Llun osgo llaw anysgafn;
O'm grudd y rhed y rhuddwaed,
Bydd lle craf wânaf[3] o waed,
Gwelid, o glust bwygilydd,
Ddau ben yr agen a rydd,
Hifio fy nghroen a'm poeni,
Llwyr flin yw ei min i mi.
O mynai Nef im' unwaith
En iach, heb na chrach na chraith,
Yn ddifrif rhown ddiofryd,
Holl hifwyr a barfwyr byd.
Rhown ddinidr[4] iawn eidduned,
Llw diau, myn creiriau cred,
Na fynwn i fau wyneb,
Un ellyn noeth, na llaw neb,
Medrusaidd im' ei drawswch,
A gwynfyd yw byd y bwch
Odid, filyn barfwyn bach,
Y gellid cael ei gallach,
A chywilydd, o choeliwch,
I ddyn na b'ai ddoniau bwch
Hortairs[5]
 na thybiai hurtyn
Ddawn ei Dduw'n addwyn i ddyn.
Croesaw y farf, wiwfarf, yt,
Cras orthwf, croesaw wrthyt,
Na fid digrif yn ddifarf,
Na'i fin heb lathen o farf.

Bid pawb oll i'w harfolli,[6]
Arfollaf a harddaf hi,
A dioddefaf dew ddufarf,
Rhag eillio, gribinio barf

Nodiadau

[golygu]
  1. Terfyn.
  2. Cudyn o wallt.
  3. Cynyrch ergyd pladur.
  4. Cynyrch ergyd pladur.
  5. Difriair.
  6. Croesawu.