Neidio i'r cynnwys

Holl Waith Barddonol Goronwy Owen/Cywydd ateb i anerch Huw ap Huw

Oddi ar Wicidestun
Awdl y Gofuned Holl Waith Barddonol Goronwy Owen

gan Goronwy Owen


golygwyd gan Isaac Foulkes
Cywydd y Farf


CYWYDD

Ateb i anerch HUW AP HUW'r Bardd,[1] o Lwydiarth—Esgob, yn Mon, 1756.

DARLLENAIS Awdl dra llawn serch,
Wych enwog Fardd o'ch anerch;
A didawl eich mawl im' oedd,
Didawl a gormod ydoedd.

Ond gnawd[2] mawl bythawl lle bo,
Rhyddaf i'r gwr a'i haeddo;
Odidog, mi nid ydwyf,
Rhyw sâl un, rhy isel wyf
Duw a'm gwnaeth, da im' y gwnel,
Glân IESU, galon isel,
Ac ufudd fron, dirion Dad,
Ni oludd fy nwy alwad;
O farddwaith od wyf urddawl,
Poed i wau emynau mawl,
Emynau dâl am einioes,
Ac awen i'r Rhen a'i rhoes;
Gwae ddiles gywyddoliaeth,
Gwae fydd o'r awenydd waeth;
Dêg Ion, os gweinidog wyf,
Digwl[3]
 y gweinidogwyf;
Os mawredd yw coledd cail,<ref>Corlan<ref>

Bagad gofalon bugail;
Ateb a fydd, rhyw ddydd rhaid,
I'r Ion am lawer enaid,
I atebol nid diboen,
Od oes barch, dwys yw y boen;

Erglyw, a chymhorth, Arglwydd,
Fy mharchus arswydus swydd;
Cofier, ar ol pob cyfarch,
Nad i ddyn y perthyn parch;
Nid yw neb ddim ond o nawdd
Un dinam Ion a'i doniawdd;
Tra'n parcher trwy ein perchen,
O cheir parch, diolch i'r Pen;
Ein Perchen iawn y parcher,
Pa glod sy'n ormod i Ner?
Parched pob byw ei orchwyl,
Heb gellwair â'i air a wyl;
A dynion ei dy anedd,
A'i allawr, Ior mawr a'i medd;
Dyna'r parch oll a archaf,
Duw Ion a'i gwyr, dyna gaf;
Deled i'm Ior barch dilyth,
Ond na boed í undyn byth,
Nag eiddun mwy na goddef,
Tra pharcher ein Ner o Nef;
Gwae rodres gwyr rhy hydron,
Gwae leidr a eirch glod yr Ion,
Gocheler lle clywer clod,
Llaw'n taro llau, háint Herod.

Ond am Fon hardd, dirion, deg,
Gain dudwedd, fam Gwyndodeg,
Achos nid oes i ochi,
Wlad hael o 'madael â mi
Cerais fy ngwlad, geinwlad gu,
Cerais, ond ofer caru;
Dilys, Duw yw'n didolydd,
Mawl iddo, a fyno fydd;
Dyweded ef na'm didol,
Gair o Nef a'm gyr yn ol;
Disgwyl, a da y'm dysger,
Yn araf, a wnaf, fy Ner;

Da ddyfydd Duw i ddofion,
Disgwylied, na 'moded Mon;
Ac odid na cheiff gwedi,
Gan Ion, Lewis Mon a mi;
Neu ddeuwr awen ddiell,
I ganu gwawd ugain gwell.
Lewis Mon a Goronwy,
Ni bu waeth gynt hebddynt hwy;
A dilys na raid alaeth
I Fon, am ei meibion maeth;
Nac achos poen, nac ochi,
Na chwyn, tra parhaoch chwi;
Brodir gnawd ynddi brydydd,
Heb ganu ni bu, ni bydd.
Syllwch, feirdd, o Gaswallon
Law-hir, hyd ym Meilir Mon;[4]
Mae Gwalchmai[5] ertai eurlawr?
P'le mae Einion[6] o Fon fawr?
Mae Hywel ap Gwyddeles?[7]
Pen prydydd, lluydd a lles;
Pen milwr, pwy un moliant?
Enwog ŵr, ac un o gant,
lawn genaw Owen Gwynedd,[8]
Gwae'n gwlad a iu gweinio'i gledd.
Bwy unfraint â'r hen Benfras?[9]
Gwae fe fyw, ei lyw a las.
Mae'r Mab Cryg[10]. oedd fyg pan fu
Ab Gwilym[11] yn bygylu?
Dau gydgwys gymhwys gymhar,
Un wedd ag ychen yn âr.
Cafed yn Mon dduon ddau,
Un Robin[12] edlin odlau;
A Gronwy[13] gerddgar union,
Brydydd o Benmynydd Mon

Mae Alaw? Mae Caw? Mae cant?
Mae miloedd mwy eu moliant?
Pwy a rif dywod Llifon?
Pwy rydd i lawr wyr mawr Mon?
Awenyddol iawn oeddynt,
Yn gynar, medd Ceisar gynt.

Adroddwch, mae'r Derwyddon,
Urdd mawr, a fu'n harddu Mon!
I'r bedd yr aethant o'r byd,
Och alar, heb ddychwelyd!
Hapus yw Mon a'i hepil,
Ag o'r iawn had, gywrain hil.

Clywaf arial[14] i'm calon,
A'm gwythi, grym yni Mon;
Craffrym, fel cefnllif cref—ffrwd,
Uwch eigion, a'r fron yn frwd,
Gorthaw[15] donn, dig wrthyd wyf,
Llifiaint, distewch tra llefwyf;
Clyw, Fon, na bo goelion gau,
Nag anwir fyth o'm genau;
Gwiried Ion a egorwyf,

Dan Ner, canys dewin wyf:—
"Henffych well, Fon, dirion dir,
Hyfrydwch pob rhyw frodir;
Goludog, ac ail Eden

Dy sut, neu Baradwys hen
Gwiwddestl y'th gynysgaeddwyd,
Hoffder Duw Ner, a dyn wyd;
Mirain wyt ym mysg moroedd,
A'r dwr yn gan' twr it' oedd,
Eistedd ar orsedd eursail
Yr wyd, ac ni welir ail,
Ac euraid wyt bob goror,
Arglwyddes a meistres mor.
Gwrth y rhod trwod y traidd,

Ynysig unbenesaidd;
Nid oes hefyd, byd a'i barn,
Gydwedd yť, Ynys gadarn,
Am wychder, llawnder, a lles,
Mwnai 'mhob cwr o'th mynwes,
Dyffrynoedd, glynoedd, glanau,
Pob peth yn y toreth tau;
Bara a chaws, bir a chig,
Pysg, adar, pob pasgedig
Dy feichiog ddeiliog ddolydd
Ffrwythlon, megis Saron sydd,
A phrenau dy ddyffrynoedd,
Crwm lwyth, megis Carmel oedd.

"O! mor dirion, y Fon fau,
Dillad dy ddiadellau!
Cneifion dy ddâ gwynion gant,
Llydain, a'th hardd ddilladant;
Dawnus wyt, dien ei sail,
Prydferth heb neb ryw adfail,
A thudwedd bendith ydwyt,
Mawl dy Ner, aml ei dawn wyt;
Os ti a fawl nefawl Ner,
Dilys y'th felys foler;
Dawnol fydd pawb o'th dynion,
A gwynfyd 'y myd ym Mon!
Dy eglwyswyr, deg loywsaint,
A'th leygion yn sywion saint,
Cryfion yn ffrwythau crefydd,
Fyddant, a diffuant ffydd;
Yn lle malais trais traha,
Byddi'n llawn o bob dawn da,
Purffydd, a chariad perffaith,
Ffydd, yn lle cant mallchwant maith;
Yn lle aflwydd, tramgwydd trwch,
Digon o bob rhyw degwch;
Undeb, a phob rhyw iawnder,
Caru, gogoneddu Ner;

Dy enw fydd, da iawn fod,
Nef fechan y Naf uchod;
Rhifir di'n glodfawr hefyd
Ar gyhoedd, gan bobloedd byd;
Ac o ran maint braint a bri,
Rhyfeddod hir a fyddi.

"Bellach f'yspryd a ballawdd,
Mi'th archaf i Naf a'i nawdd,
Gwilia rhag ofergoelion,
Rhagrith, er fy mendith, Mon.
Poed yť hedd pan orweddwyf
Ym mron llawr estron lle'r wyf.
Gwae fi na chawn enwi nôd,
Ardd wen i orwedd ynod;
Pan ganer trwmp Ion gwiwnef,
Pan gasgler holl nifer nef,
Pan fo Mon a'i thirionwch,
O wres fflam yn eirias fflwch,
A'i thorog wythi arian,
A'i phlwm a'i dûr yn fflam dân!
Pa lês cael lloches o'r llaid?
Duw rano dŷ i'r enaid,
Gwiw ganaid, dŷ gogoniant
Ynghaer y ser, ynghôr Sant
Ac yno'n llafar ganu,
Eirian eu cerdd i'r Ion cu,
Poed Gwyr Mon, a Goronwy,
Heb allael ymadael mwy
Cyduned a llefed llu
Monwysion, Amen, IESU.

Nodiadau

[golygu]
  1. Y BARDD COCH. Boneddwr yn byw ar ei dir ei hun ydoedd, gerllaw Llanerchymedd. Heblaw ei fod yn fardd adnabyddus, cyfieithodd amryw draethodau o'r Saesneg. Yr oedd yn gyfaill mawr hefo'r Morysiaid, a thrwyddynt hwy daeth i gydnabyddlaeth a Goronwy. Bu farw yn 1776, yn 83 oed.
  2. Arfer.
  3. Dieuog.
  4. Meilir ab Gwalchmai
  5. Gwalchmai ab Meilir.
  6. Einion ap Gwalchmai
  7. Hywel ap Owen Gwynedd
  8. Tywysog Cymru
  9. Madog Benfras
  10. Gruffydd Gryg
  11. Dafydd ap Gwilym
  12. Robin Ddu o Fon.
  13. Goronwy Ddu o Fon
  14. Bywiogrwydd
  15. Cyndyn