Neidio i'r cynnwys

Holl Waith Barddonol Goronwy Owen/Awdl y Gofuned

Oddi ar Wicidestun
Calendr y Carwr Holl Waith Barddonol Goronwy Owen

gan Goronwy Owen


golygwyd gan Isaac Foulkes
Cywydd ateb i anerch Huw ap Huw


AWDL Y GOFUNED,[1]

A ganwyd 1752, cyn gwybod pa beth oedd Awdl.

O CHAWN o'r nef y peth a grefwn,
Dyma archiad im' a erchwn,
Un rodd orwag ni ryddiriwn[2]—o ged,
Uniawn ofuned, hyn a fynwn.

Synhwyrfryd doeth, a chorph anfoethus,
Cael, o iawn iechyd, calon iachus;
A pheidio yno â ffwdanus—fyd
Direol, bawlyd, rhy helbulus.

Dychwel i'r wlad lle bu fy nhadau,
Bwrw enwog oes, heb ry nag eisiau,
Ym Mon araul, a man orau—yw hon,
Llawen ei dynion, a llawn doniau.

Rhent gymhedrol, Plwyf da 'i reolau,
Tŷ îs goleufryn, twysg o lyfrau;
A gwartheg res a buchesau—i'w trin
I'r hoyw wraig Elin[3] rywiog olau.

Gardd i minau, gorau ddymuniad,
A gwasgawdwydd o wiw gysgodiad;
Tra bwy'n darllain cain aceniad—beirddion.
Hil Derwyddon, hylaw adroddiad.


Ac uwch fy mhen, ym mysg canghenau,
Ber baradwysaidd lwysaidd leisiau,
Ednaint meinllais, adlais odlau—trydar
Mwyn adar cerddgar, lafar lefau.

A thra bo'r adar mân yn canu,
Na ddeno gwasgawd ddyn i gysgu,
Cydgais â'r côr meinllais manllu,—fy nghân,
Gwiw hoyw a diddan gyhydeddu.

Minau a'm deulanc mwyn i'm dilyn,
Gwrandawn ar awdl, arabawdl Robyn;
Gan dant Goronwy gywreinwyn,[4]—os daw
I ware dwylaw ar y delyn.

Deued i Sais yr hyn a geisio,
Dwfr hoff redwyllt ofer a ffrydio
Drwy nant, a chrisiant (a chroeso)—o chaf
Fon im', yn benaf, henwaf hono.

Ni wna farwyrain yn fawreiriog,
Gan goffau tlysau, gwyrthiau gwerthiog,
Tud,[5] myr,[6] mynydd, dolydd deiliog,―trysor
Yr India dramor, oror eurog.

Pab a gâr Rufain, gywrain gaerau;
l'aris i'r Ffrancon, dirion dyrau,
Llundain i Sais, lle nad oes eisiau—son
Am wychder dynion; Mon i minau.

Rhoed Duw im' adwedd iawnwedd yno,
A dihaint henaint na'm dihoeno,
A phlant celfyddgar a garo—eu hiaith,
A hardd awenwaith a'u hurdduno.

Nodiadau

[golygu]
  1. Dymuniad.
  2. Ddeisyfwn.
  3. Elin oedd enw ei wraig gyntaf
  4. Ei ddau ab,
  5. Rhandir
  6. Moroedd.