Neidio i'r cynnwys

Holl Waith Barddonol Goronwy Owen/Calendr y Carwr

Oddi ar Wicidestun
Awdl Coffa gan Gutyn Peris Holl Waith Barddonol Goronwy Owen

gan Goronwy Owen


golygwyd gan Isaac Foulkes
Awdl y Gofuned


GWAITH BARDDONOL
GORONWY OWEN.

CALENDR Y CARWR,

Cynydd Serch, a gânt y Bardd ym Mhwllheli, ynghylch y flwyddyn 1743; ac a ddiwygiawdd ychydig arno 1753.

GWIR yw i mi garu merch,
Trosais hyd holl ffordd traserch;
Gwelais, o'r cwr bwygilydd,
Cyni a gresyni sydd.
Nwyfus fu'r galon afiach,
Ow! galon sal feddal fach!
Wyd glwyfus, nid â gleifwaith,[1]
Gwnaeth meinwen â gwen y gwaith;
Ow'r dòn anhoywfron hyfriw!
Ow, rydda'i llun, hardd ei lliw!
Teg yw dy wên, gangen gu,
Wyneb rhy dêg i wenu;
Gwenferch wyt, gwae fi ganfod
Dy rudd! a di fudd dy fod.
Mwynach a fych, fy meinwen,
Archaf i Dduw Naf, ddyn[2] wen;
Mwynach (pe Duw a'i mynai)
Neu fid it' o lendid lai.

Da, ddyn fain, y'th gywrainiwyd,
Hygar ei ffurf, hoywgorph wyd;
Adwyth fod it', ddyn wiwdeg,
Ogwydd i dwyll â gwedd dêg.
Odid y canfu adyn,
Chwidrach anwadalach dyn;
Seithug[3] a gefais wythwaith
Gan fain ei hael, gwael y gwaith;
Siomaist fi'r wythnos yma,
Nos Sadwrn ni chawn dwrn da,
Dyw Sul y deuais eilwaith,
Dydd Llun y bu'n dywydd llaith;
Dyw Mawrth, da ym' ei wrthod,
Dydd Mercher garw gur ac ôd,
Dydd Iau diau fu deg,
Och Wener! gwlaw ychwaneg.
Ail Sadwrn a fu swrn sych,
Oerwynt im' oedd, ddyn eurwych,
Rhew ydoedd a rhuadwynt,
O berfedd y gogledd gwynt.
Trwy gorph nos yr arhosais
(Dwl im') ac ni chlywn dy lais,
Cnithio'n[4] gras ar y glaswydr
A'm bys, gyd ag ystlys gwydr,
Llwyr egru llawer awgrym,
Disgwyl i'r ddôr egor ym';
Yno gelwais (â llais llwrf
Rhag cwn, a pheri cynhwrf)
"Mari fwyn, mawr yw fanwyd,
Oer ydyw, O clyw, o'th clwyd;
Mawr yw fy nghur, lafur lwyth,
Deffro gysgadur diffrwyth.
Galwad, ond heb ateb, oedd,
Mudan, fy nyn im' ydoedd.
Symudaw'n nes, a madws,
Cyrhaedd dôl dryntol y drws.

Codi'r glicied wichiedig,
Deffro porthor y ddôr ddig;
Gan ffyrnig wŷn uffernol
Colwyn,[5] o fewn, cilio'n f' ol.
O'r barth yn cyfarth y caid,
Ail agerdd tân o'i lygaid,
Chwyrn udaw, och! oer nadu
Yn ddidor, wrth y ddôr ddu.
Yno clywn swrth drymswrth dro
Goffrom, rhwng cwsg ac effro,
Bram uchel, ac ni chelaf,
Erthwch fal yr hwch ar haf,
A beichiaw, a'm bwbachai,
Ac anog ci heriog, hai!
Llemais, â mawr ffull,[6] ymaith
Yn brudd, wedi difudd daith,
Ac anferth gorgi nerthol,
Llwyd, yn ymysgwyd o'm ol;
Cyrhaedd trwyn y clogwyni,
Perthfryn lle na'm canlyn ci,
Bwriais gyrch hyd Abererch,
(Llan yw hon wrth Afon Erch),
Cerdded rhag ofn gweled gwyll
Grebach (na bo'nd ei grybwyll!)
Neu gael i 'mafael â mi
Goeg Yspryd drygiawg aspri,
Tori ar draws tir i'r dref,
Ar ddidro, cyrhaedd adref,
Wrthyf fy hun eiddunaws[7]
Yn frau, i wellhau rhag llaw
Cefais o'm serch ddyferchwys
Oer fraw, ac nid af ar frys,
I'w chyfarch, ond arch, nid af,
Diowryd yw a dorraf,
Af unwaith i Eifionydd,
Unwaith? un dengwaith yn 'dydd;

Oerchwith gaeth gyflwr erchyll!
Ai Af, ai Nag af a gyll?
Bwriadu'n un bryd a wnaf,
Ac â'r ffon y gorphenaf,[8]
Dodaf fy ffon unionwymp,
Ar flaen ei goflaen, hi gwymp,
Aed lle'r el, ni ddychwelaf,
Ar ol y dderwen yr af.

Nodiadau

[golygu]
  1. Archoll erfyn.
  2. "Dyn" a arferid gan yr hen Feirdd Cymreig am y ddau ryw.
  3. Siom.
  4. Cyffyrddiad tyner—"Ni thrawai gnith a'r ewin, na bai lais gwell na blas gwin."—TUDUR ALED i Delyniwr.
  5. Cenaw ci
  6. Brys
  7. Addunedu
  8. Hen goel Pan y deuai ymdeithydd at groesffordd, a methu penderfynu pa ffordd i'w dilyn, dodai ei ffon ar ei phen, ac i ba gyfeiriad bynag y disgynai, y cyfeiriad hwnw a gymerai yntau.