Neidio i'r cynnwys

Holl Waith Barddonol Goronwy Owen/Cywydd y Gwahawdd

Oddi ar Wicidestun
Ateb i Gywydd Huw Huws (Y Bardd Coch) Holl Waith Barddonol Goronwy Owen

gan Goronwy Owen


golygwyd gan Isaac Foulkes
Englyn i John Dean

CYWYDD Y GWAHAWDD,

Sent from Northolt, Middlesex, to Mr. William Parry, Deputy-Comptroller of the Mint, 1755.

PARRI, fy nghyfaill puraf,
Dyn wyt a garodd Duw Naf;
A gwr wyt, y mwynwr mau,
Gwir fwyn a garaf finau;
A thi'n Llundain, wr cain cu,
On'd gwirion iawn dy garu?
On'd tost y didoliad hwn?
Gorau fai pe na'th garwn.

Dithau ni fyni deithiaw
O dref hyd yn Northol draw,
I gael cân (beth diddanach?)
A rhodio gardd y bardd bach;
Ond dy swydd hyd y flwyddyn,
Yw troi o gylch y Twr Gwyn,
A thori, bathu arian,
Sylltau a dimeiau mân;
Dod i'th Fint, na fydd grintach,
Wyliau am fis, Wilym fach;
Dyfydd o fangre'r dufwg,
Gad, er nef, y dref a'i drwg;
Dyred, er daed arian,
Ac os gwnai ti a gai gân,
Diod o ddwr, doed a ddel,
A chywydd, ac iach awel,
A chroeso calon onest,
Ddiddichell, pa raid gwell gwest?
Addawaf (pam na ddeui?)
Ychwaneg, ddyn teg, i ti;
Ceir profi cwrw y prif—fardd,
A 'mgomio wrth rodio'r ardd;
Cawn nodi o'n cain adail,

Gwyrth Duw mewn rhagorwaith dail;
A diau pob blodeuyn
A yspys ddengys i ddyn
Ddirfawr ddyfnderoedd arfaeth
Diegwan Ior, Duw a'i gwnaeth.
Blodau'n aurdeganau gant,
Rhai gwynion mawr ogoniant;
Hardded wyt ti, 'r lili lân!
Lliw'r eira, uwch llaw'r arian,
Cofier it' guro cyfoeth
Selyf, y sidanbryf doeth.
 
Llyna, fy nghyfaill anwyl,
Ddifai gwers i ddof a gwyl;
Diffrwyth fân flodau'r dyffryn,
A dawl wag orfoledd dyn;
Hafal blodeuyn hefyd
I'n hoen fer yn hyn o fyd;
Hyddestl blodeuyn heddyw,
Y fory oll yn farw wyw;
Diwedd sydd i flodeuyn,
Ac unwedd fydd diwedd dyn;
Gnawd i ardd, ped fai'r harddaf,
Edwi, 'n ol dihoeni haf.
Tyred rhag troad y rhod,
Henu mae'r blodau hynod;
Er pasio'r ddau gynhauaf,
Mae'r hin fal ardymyr haf,
A'r ardd yn o hardd ddi haint,
A'r hin yn trechu'r henaint,
A'i gwyrddail yn deg irdda
Eto, ond heneiddio wna;
Mae'n gwywo, 'min y gauaf,
Y rhos a holl falchder haf;
Y rhos heneiddiodd y rhai'n,
A henu wnawn ni'n hunain;
Ond cyn bedd, dyma 'ngweddi

(Amen, dywed gyd a mi):—
"Dybid i'n ddyddiau diboen,
A dihaint henaint o hoen;
Myn'd yn ol, cyn marwolaeth,
I Fon, ein cysefin faeth;
Diddan a fyddo'n dyddiau
Yn unol, ddiddidol ddau,
A'r dydd (Duw ro amser da)
Y derfydd ein cyd-yrfa,
CRIST yn Nef a'n cartrefo,
Wyn fyd a phoed hyny fo."


Nodiadau

[golygu]