Humphrey Jones a Diwygiad 1859/Dyddiau Tywyll
← Llythyrau'r Diwygiwr II | Humphrey Jones a Diwygiad 1859 gan Evan Isaac |
Yn America Eilwaith → |
XI.
DYDDIAU TYWYLL Y DIWYGIWR.
Ni wyddys a barhaodd yr ohebiaeth rhwng y Diwygiwr a Mr. D. Delta Davies ar ol Mehefin, 1860. Ysgrifennodd Mr, Davies wrth anfon y llythyrau i mi iddo dderbyn oddi wrth Mr. Jones lawer mwy na'r wyth sydd ar gadw, ond iddo'u colli oherwydd diofalwch. Pa un bynnag ai llythyrau a dderbyniwyd cyn Mehefin, 1859, neu ar ôl Mehefin, 1860, oedd y rhai a gollwyd, prin y gallent fod yn gyfwerth â'r rhai sydd ar gael, oblegid ceir yn y rhai hynny ddarlun manwl a chywir of gyflwr y Diwygiwr yn ystod un o flynyddoedd pwysicaf ei fywyd.
Y mae'n amlwg oddiwrth ei lythyr cyntaf, a ysgrifennodd ym Mehefin, 1859, nad oedd Mr. Jones ar ddechrau'i genhadaeth yn Aberystwyth yn gwbl fel y bu; sonia am ei " drallodion am chwech mis," ac nid oedd fwy na chwe mis er pan aethai i Aberystwyth. Daethai iddo brudd-der mor drwm fel y bu bron a marw ugeiniau o weithiau." Aethai'n rhy nerfus a gwan i allu gweddio'n gyhoeddus na bugeilio'r praidd. Cloesid ei dafod a daethai llesgedd blin i'w feddwl,-" Y mae holl alluoedd fy meddwl yr un mor bŵl a thywyll." Dyma rai o arwyddion amhariad a ganfu'r sawl a gymdeithasai ag ef. Dengys yr wyth lythyr fod prudd-der trwm bron a llethu'r Diwygiwr, ac yn ei ddrygu gorff a meddwl, eithr ni cheir ynddynt braw o gynnydd y dirywiad; ni ddengys yr wythfed llythyr fod ei gyflwr yn waeth nag ydoedd pan ysgrifennodd y cyntaf, flwyddyn ynghynt. Gorchest ry anodd, efallai, hyd yn oed i feddylegwyr, ydyw esbonio'r dyn a ddatguddir yn y llythyrau. Ceir pruddglwyf du a gobaith golau yn cyd-drigo. Y mae'n "ddigalon, gwanllyd, anesmwyth, gofidus, nervous a phryderus," a hefyd "yn gwybod gystal ag y gwn i mai dyn wyf fi fod gwawr y Milfiwyddiant i dori ar y byd mor fuan ac y tyr y Diwygiad sydd yn yr eglwys hon allan." Yn ei eglurhad ar anawsterau Mr. D. Delta Davies amlyga wybodaeth ysgrythurol. helaeth a chywir, a dyry iddo gyfarwyddiadau rhesymol ac addas, a'r un pryd daw i'r golwg amhwylledd yn ei hysbysiadau proffwydol a'i esboniad pendant ar yr "Oruchwyliaeth ryfedd, doeth a dyrus."
Oeri'n gyflym a wnaeth gwres y Diwygiad, ac erbyn diwedd 1860, ni cheid mwy na fflamau ysbeidiol yma a thraw. Gwnaeth y Parch. Dafydd Morgan, Ysbyty, waith mawr ac annisgrifiol, ac, yn ôl y Dr. Thomas Rees, yn ei "History of Protestant Nonconformity in Wales," dychwelwyd yng Nghymru tua chan mil at grefydd; eithr yn gynnar yn y flwyddyn 1860, pallodd ei nerth yntau. Cyn dechrau Ebrill yr oedd y dylanwad mawr a fuasai'n "cydfyned a'i weinidogaeth wedi cilio yn hollol, ac edrychai'n synllyd, sobr, dieithr a digalon."
Nid oes ar gadw ond ychydig o hanes Humphrey Jones am y naw mlynedd nesaf. Lletyai am rai blynyddoedd yn 49, Marine Terrace, Aberystwyth, cartref Mrs. Richards a Miss Morgan, hen deulu Wesleaidd adnabyddus. Tybir yr ymwelai'n awr ac eilwaith â Dolcletwr, cartref ei fodryb, Sophia, ac y treuliai lawer o'i amser yno. Yn ôl ei dystiolaeth ef ei hun methodd a phregethu am bedair blynedd, ond yn ystod y gweddill o'r blynyddoedd pregethai'n achlysurol yn eglwysi Cylchdaith Aberystwyth. Eithr ni chiliodd ei bruddder a'i ofid; gwaethygu a wnaeth o ran corff a meddwl. Trodd i broffwydo, a phroffwydodd lawer, nid yn unig ynglŷn â chrefydd, ond ynglŷn hefyd â theyrnasoedd Iwrop a'u llywiawdwyr, ac ysgrifennai â gallu nodedig ei broffwydoliaethau rhyfedd i'r Times a phapurau eraill. Erbyn dechrau'r flwyddyn 1869, aethai cyflwr ei feddwl cynddrwg oni orfu ar ei gyfeillion ei roddi yng ngwallgofdy Caerfyrddin. Derbyniwyd ef i'r Sefydliad hwnnw Chwefror 24, 1869. Ymddengys oddi wrth dystiolaeth y meddygon nad oedd fodd osgoi'r weithred hon. Dygasai amhariad nerfau'r Diwygiwr ei feddwl i gyflwr mor ddrwg onid aeth yn beryglus i'r sawl a ofalai am dano. Gwelir, oddi wrth y manylion am ei gyflwr a geir yng nghoflyfrau'r Sefydliad, i ddeng mlynedd o bryder ac ofn a phrudd-der, a disgwyl yn ofer, ei ddarostwng i wendid mawr o ran meddwl a chorff. Yr oedd yn 34 mlwydd oed pan aeth i Gaerfyrddin. Dioddefai oddi wrth y pruddglwyf, a byddai fynychaf yn synllyd a'i ymadroddion yn ddigyswllt ac angall. Coleddai amryw dybiaethau gwyllt ac anhygoel, megis, meddwl i Arglwydd Palmerston, a pherthynas iddo a fuasai farw flwyddyn ynghynt, ymweled ag ef yn ddiweddar,ac i'r Ymerawdwr Napoleon alw i'w weld yn ei lety yn Aberystwyth. O ran ei gorff yr oedd yn afiach ac eiddil, a'r darfodedigaeth wedi amharu llawer ar ran uchaf ei ysgyfaint chwith. Gwrthodai yn bendant bob ymborth. Yn ôl coflyfrau'r Sefydliad, achos ei anhwylderau ydoedd "Crefydd." Gadawodd Gaerfyrddin Rhagfyr 7, 1870, ac anhwylder ei feddwl wedi ei leddfu (relieved).[1] Gwelir na fu'r driniaeth feddygol am ychydig dros ddeng mis yn foddion i'w wella yn llwyr,-dim ond lleddfu'r amhwylledd, ac y mae'n ddiamau mai dymuniad ei berthynasau yn America a barodd ei ollwng yn rhydd cyn cwbl adfer ei iechyd meddyliol.
Tros amser byr y pery Diwygiadau crefyddol o nodwedd y rhai a gafwyd yng Nghymru er y flwyddyn 1859. Collant eu grym a'u gwres yn raddol oni ddel bywyd yr eglwys eilwaith i'w gynefin. Y mae hyn o raid ac nid o ddiffyg yn yr arweinwyr. Niweidiai gwres mawr a brwdfrydedd Diwygiad fel elfennau sefydlog gymaint ar yr eglwys ag a wnai gwres Gorffennaf ac Awst, yn ddigyfnewid drwy'r flwyddyn, ar y ddaear. Gwres a goleuni Duw i gyfarfod ag oerni gwlad yn ei hawr dywyllaf ydyw Diwygiad. Peth tros dro o angenrheidrwydd ydyw. Yn 1858, yr oedd yr Eglwys mewn trymgwsg, ac yn ddiynni, a'r byd annychweledig yn effro a hy. Rhoddwyd y Diwygiad i ddeffroi'r Eglwys a pheri iddi wisgo gwisgoedd ei nerth a'i gogoniant i'r diben o achub cymdeithas rhag ei rhysedd a'i pherygl. Nid yw Diwygiad yn y ffurf arferol arno yng Nghymru namyn Duw yn ateb galw'r wlad o ddyfnder ei chyflwr moesol. Anaml y sylweddola arweinwyr diwygiadau yng Nghymru mai pethau eithriadol ar gyfer cyflyrau arbennig ydynt, ac nid pethau arhosol. Methodd Humphrey Jones, a Dafydd Morgan yntau, â sylweddoli'r ffaith hon, a'r methiant hwnnw a gyfrif yn bennaf am y prudd-der a'r gofid a'u daliodd pan beidiodd y dylanwadau nerthol. Y tebyg ydyw i egnion anarferol y Diwygiwr amharu ar ei nerth gieuol rai wythnosau cyn ei fyned i Aberystwyth, ac i hynny effeithio i ryw fesur ar ei ysbryd. Dywedai'r Parch. David Morgan yn Ebrill, 1860, ac yntau'i hun erbyn hyn yn "wan a nervous," y methai ef â dyfalu pa beth a flinai Humphrey Jones yng ngaeaf 1859, eithr y gwyddai bellach trwy brofiad. Awgryma'r cyfeiriadau mynych a wna Humphrey Jones yn ei lythyrau at ei gyflwr nerfus a digalon fod holl nerfau'i gorff wedi'u llacio a'u gwanhau yn ddirfawr. Nid oes yn hyn ddim a bair syndod pan gofier nodwedd a thymor ei waith. Gwyr pob pregethwr a gafodd oedfa fawr â'i brwdfrydedd ysbrydol yn anarferol o uchel am yr effeithiau llethol a adawodd yr oedfa honno ar ei natur. Clywais ddywedyd y byddai'r Parch. John Elias yn llesg a phrudd am wythnos gyfan ar ôl pregethu yn y Sasiwn. Dyma nodwedd gwaith y Diwygiwr ddydd a nos, am o leiaf, ddwy flynedd yn America, a chwe mis yng Nghymru. Bu'r dirdynnu mor gyson a grymus oni lethwyd ei holl natur; a hyd y gwelaf i yr oedd y cwbl yn naturiol; methaf â gweled y gallasai pethau fod yn wahanol. Aeth gweddill oes y dyn ieuanc-tros ddeng mlynedd ar hugain o honi, yn aberth ar allor ei wasanaeth i'r Diwygiad mawr, a gwelais y sylw bod hyn yn un o'r trychinebau mwyaf; eithr nid trychineb mohono, ond braint. O bu trychineb o gwbl, hwnnw ydoedd, i'r Diwygiwr fethu â sylweddoli bod ei waith ar ben; petai'n deall y gwir-bod ei waith ar ben, a bod Duw wedi cyrraedd ei amcan trwyddo, efallai y lleddfai hynny y prudd-der a'r gofid a ddaeth arno. Nid oes fywyd yn drychineb namyn hwnnw sy'n farw i fudd ei gyd-ddyn a hawliau'i wlad arno. Cafodd Humphrey Jones farw tros ei genedl, ac anfarwolwyd ef trwy hynny.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Ymae'r hyn a ddywedir yma yn dystiolaeth feddygol swyddogol.