Humphrey Jones a Diwygiad 1859/Eglwys Tre'rddol
← Tre'rddol a'r Gymdogaeth | Humphrey Jones a Diwygiad 1859 gan Evan Isaac |
Dyddiau Bore'r Diwygiwr → |
II.
EGLWYS TRE'RDDOL.
Daeth y Wesleaid i Dre'rddol yn 1804, a sefydlwyd eglwys yno, naill ai cyn diwedd y flwyddyn honno, neu'n gynnar yn 1805. Ym mis Hydref 1804, pregethai'r Parch. Edward Jones, Bathafarn, a Mr. William Parry, Llandygai, ym Machynlleth, a digwyddodd Hugh Rowlands, Tre'rddol, eu gwrando a hoffi eu hathrawiaethau, a'u cymell i ymweled â Thre'rddol a phregethu yno hefyd. Gan fod y pentref ar eu llwybr i Aberystwyth, ac oherwydd na chymhellid hwy'n aml i ardal newydd oblegid dieithrwch eu dysgeidiaeth, cytunasant yn ewyllysgar iawn â'i gais. Y noson honno bu Hugh Rowlands wrthi'n brysur yn hau'r newydd y bwriadai'r cenhadon ymweled â'r gymdogaeth drannoeth, a phan gyrhaeddasant yr oedd tyrfa gref ac awchus yn eu disgwyl, a phregethodd y ddau yn ymyl ysgubor, gerllaw'r bont tros afon Cletwr ar ganol y pentref. Ym mhen ychydig ddyddiau dilynwyd y ddau genhadwr i'r pentref gan John Morris a oedd yn bregethwr cyffrous a llwyddiannus, a chafodd yntau groeso mawr.
Y prif resymau am y derbyniad gwresog a roddwyd i'r cenhadon Wesleaidd cyntaf ydoedd prinder gwybodaeth o'r Efengyl a oedd yn y gymdogaeth, newydddeb crefydd yr Ymneilltuwyr, ac, efallai, ymdeimlad y trigolion o'u hangen ysbrydol. Buasai offeiriaid y plwyf yn fydol eu bryd ac yn ysgafala o eneidiau a buddiant moesol y wlad am genedlaethau. Ar yr offeiriaid, wrth eu swydd, y gorffwysai'r ddyletswydd o ofalu am fywyd ysbrydol holl drigolion y wlad o Fachynlleth i Aberystwyth, a chan na faliai'r offeiriaid, rhedai llawer i rysedd annuwiol, a gorweddai'r gweddill mewn syrthni mall. Dywaid y Parch. Joshua Thomas, yn ei lyfr, "Hanes y Bedyddwyr," yr ystyrid Aberystwyth, yn fuan wedi'r Diwygiad Methodistaidd, "yn lle peryglus i ddyn crefyddol i fyned trwyddo, yn gymaint felly os nad mwy nag un dref yng Nghymru," ac mai ar ymweliad Daniel Rowlands â'r lle "y dechreuodd pobl a meddwl am eu sefyllfa dragwyddol." Y mae'n debyg, onid yn sicr, mai cenhadon Wesleaidd oedd y pregethwyr Ymneilltuol cyntaf i bregethu'r Efengyl yn y plwyf. Yn ddiweddarach y daeth gweinidogion y Methodistiaid i'r ardal, ac yn 1830 yr adeiladwyd eu capel cyntaf, yn Nhaliesin. Yn 1804, nid oedd eglwys Ymneilltuol o Fachynlleth i Aberystwyth—deunaw milltir o bellter, eithr y mae tros ugain yno heddiw. Nid anodd gweled yn y ffeithiau hyn resymau tros y croeso a roddwyd i'r cenhadon Wesleaidd cyntaf.
Ar ôl pregethu yn Nhre'rddol aeth John Morris rhagddo i Dalybont, sydd bentref mawr hir-gul ryw ddwy filltir i'r de, a phregethu yno hefyd. Yn yr oedfa gyntaf honno yn Nhalybont, yr oedd Humphrey Jones, Ynys Capel, ffermdy, bellter o filltir dda o'r pentref. Ffurfiwyd eglwys fechan, a phenodwyd Humphrey Jones yn flaenor arni. Yr un adeg ffurfiwyd eglwys yn Nhre'rddol hefyd. Methu a chryfhau a wnaeth eglwys Talybont, ac ymhen ysbaid ymunodd yr ychydig aelodau â'r eglwys yn Nhre'rddol. Nid oes ar gadw gyfrif o'r rhesymau am fethiant Wesleaeth yn Nhalybont. Daethai pregethwyr yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr i'r pentref a phregethu yno yn y flwyddyn 1803, flwyddyn lawn, o leiaf, o flaen y cenhadwr Wesleaidd. Yn nechrau 1804, cofrestrwyd tŷ bychan ym Mhenrhiw, i'r Annibynwyr addoli ynddo, ac yn y tŷ hwnnw corfforodd y Doctor Thomas Phillips, Neuaddlwyd, yr eglwys. Dechreuodd y Bedyddwyr hwythau bregethu yn Nhalybont yn niwedd 1803, ychydig ar ôl yr Annibynwyr, a chyfarfu'r eglwys ieuanc mewn tŷ ardreth ym Mhenlôn. Felly, yr oedd dwy eglwys Ymneilltuol wedi eu sefydlu yn y pentref cyn ymweled o'r Wesleaid ag ef, a dichon nad oedd y gofyn ar y pryd yn ddigon i beri llwyddiant y trydydd enwad.
Adeiladwyd capel cyntaf Tre'rddol yn y flwyddyn 1809, eithr ymhen llai na chenhedlaeth daeth galw am gapel mwy. Talwyd pum punt i'r Parch. Humphrey Jones (yr ail), ewythr, brawd ei dad, i'r Diwygiwr, am
dir i adeiladu arno, ac agorwyd y capel fis Mai, 1845.
Saif y capel hwn, a elwir yn awr, Yr Hen Gapel," ym
mhen gogleddol y pentref, a defnyddir ef i gynnal Ysgol
Sul, a chyrddau'r Groglith a'r Nadolig. Yn y capel
hwn y cyneuwyd tân Diwygiad 1859. Ym mhen deheuol y pentref saif y "Capel Newydd," sydd deml
fawr a hardd, a agorwyd yn 1874.
Y ddau brif offeryn yng nghychwyn yr Achos Wesleaidd yn y gymdogaeth ydoedd Hugh Rowlands, Tre'rddol, a Humphrey Jones, Ynys Capel, a hwy ydoedd dau dadcu Humphrey Jones, y Diwygiwr. Hugh, mab Humphrey Jones, Ynys Capel, oedd ei dad, a'i fam oedd Elizabeth, merch Hugh Rowlands. Gwnaeth y ddeuddyn ieuanc eu cartref yng Ngwarcwm-bach, ffermdy filltir helaeth i'r mynydd o Dre'rddol, ac yno y ganed y Diwygiwr, Hydref 11, 1832. Fferm dda ydyw Gwarcwm-bach, a'i thir yn rhagorol am gynhyrchu ŷd, a pherthyn iddi rywfaint o fynydd at fagu defaid; eithr prin yr oedd ei maint yn ddigon i ŵr o ysbryd anturiaethus Hugh Jones dreulio oes arni, ac yn Hydref, 1847, ymfudodd y teulu, yn cynnwys y rhieni a dau fab a merch, i America, gan adael Humphrey, yn fachgen pymtheg oed, ar ôl yng ngofal ei fodryb Sophia, yn Half Way Inn, Tre'rddol. Glaniodd y teulu o long hwyliau yn New York ddiwedd 1847, neu ddechrau 1848. Aethant i fyny Hudson River a thrwy'r wlad, ac ymsefydlu yn Waukesha, Wisconsin. Ond yn 1852 symudasant i Sefydliad Cymreig Oshkosh, Wisconsin, i amaethu gerllaw Rosendale, ac yno y trigiasant hyd derfyn eu hoes, yn bobl rinweddol ac yn fawr eu parch.