Neidio i'r cynnwys

Humphrey Jones a Diwygiad 1859/Ym Mhontrhydygroes

Oddi ar Wicidestun
Ar y Mynyddoedd Humphrey Jones a Diwygiad 1859

gan Evan Isaac

Yr Haul yn Machlud

VII.
YM MHONTRHYDYGROES.

Ac eithrio Tre'rddol, lle dechreuodd y Diwygiad, ym Mhontrhydygroes y gwnaed y gwaith mwyaf a phwysicaf o bob man yng Nghymru, oblegid yno y gafaelodd nerth y Diwygiad ym mhersonoliaeth gref y Parch. Dafydd Morgan, Ysbyty.

I synio'n weddol gywir am bentref Pontrhydygroes a'i amgylchoedd, tybier ein bod yn cerdded i'r de o Bont-ar-Fynach ar y ffordd a deithiai'r myneich i Ystrad Fflur, fe ddeuem drwy Rhos-y-Gell, ac ar ben tair milltir oddi yno safem ar Fanc Ros-y-Rhiw, ac o ddisgyn yn raddol ryw dri chan troedfedd deuem at bont sy'n croesi afon Ystwyth. Hon yw Pont-rhyd-y-groes. Trwy y rhyd y cerddai'r pererinion cyntaf, ond adeiladwyd pont, ac yn ôl tyb rhai, yr oedd ar yr un cynllun a chyn hyned ag un gyntaf Pont-ar-Fynach. Un bwa uchel a chul ydoedd yr hen bont-rhy gul i lawer o ddim namyn dyn ac anifail fyned drosti; gwych o beth fyddai ei chael heddiw i adrodd wrthym am fedr a dycnwch yr hen oesoedd, ond er anfri i'r sawl a drefnodd y bont bresennol sy'n gyd-wastad â'r ffordd, dinistriwyd yr hen yn 1898 i wneuthur lle i'r newydd. Ni cheir gwell golwg ar yr ardal o unman nag o Fanc Rhos-y-Rhiw. Draw yn y dwfn odditanom y mae dyffryn Ystwyth yn rhedeg i'r de, ac yna'n troi i'r gorllewin gan frysio cyrraedd Pont Llanafan. Led cae mynydd ar y chwith i'r afon gwelir ffordd yn arwain at glwstwr tai a garia'r enw Pontrhydygroes, ac ar fryncyn dri chwarter milltir uwchlaw'r pentref y mae eglwys Esgobol Ysbyty Ystwyth. O amgylch ogylch ac ymhell, brithir y mynyddoedd gan dyddynnod hen. Nid yw pentref Ysbyty Ystwyth nepell o'r eglwys Esgobol. Lluniwyd ardal Pontrhydygroes o fryniau a phantiau a chymoedd a nentydd, ac awgrymir nodwedd ei harwynebedd gan enwau'r lleoedd, megis, Tan'rallt, Tangelli, Tanlefel, Tan-y-Graig; Pant'rhedyn, Pant-y-Ddafad, Pant-y-Ffynnon, Pant-y-craf; Gwarffordd, Gwarddôl; Pen-y-cwm, Pen-y-glog, Pen-y-graig; Banc- y-rhos, Banc Maen Arthur; Troed-y-rhiw, Glannant, Bwlch-y-blaen. Y mae pob enw yn sôn am rediad y tir. Gan gymaint bryniau â choed a phrysglwyni yn dringo o'u godre cyhyd ag y ceir daear i'w gwreiddiau, a chymoedd a nentydd gloyw yn llifo iddynt a thrwyddynt, y mae'r ardal yn brydferth anarferol yn yr haf; eithr yn y gaeaf, â'r rhew yn galed a'r eira yn drwch mawr, y mae—wel, ni waeth tewi; nid oes a'i disgrifia. Heb fod nepell o'r pentref y mae Hafod Uchtryd, plas nad oes yng Nghymru lenor o ddim pwys na ŵyr am dano,a thynn i'w weled bob haf gannoedd o ymwelwyr â thref Aberystwyth a mannau eraill. Yr oedd y plas unwaith, efallai ar y dechrau, yn eiddo'r Herbertiaid a ddaethai i'r gymdogaeth yn ystod teyrnasiad Elizabeth ynglŷn â gweithfeydd mwyn plwm yr ardal. Bu farw un William Herbert yn 1704, a phriododd Thomas Johnes, Llanfair Clydogau, ei ferch, a meddiannu'r lle. Symudodd Johnes o Lanfair Clydogau i Hafod Uchtryd yn 1783,ac yn dddiymdroi tynnodd i lawr yr hen dŷ ac adeiladu plas newydd a rhoddi ynddo ddarluniau gwych a llyfrgell fawr a gwerthfawr. Eithr ar y trydydd dydd ar ddeg o Fawrth, 1807, llosgwyd y plas yn lludw. Credir golli trwy'r tân gannoedd o hen lawysgrifau Cymreig gwerthfawr o gasgliad Syr John Seabright ac eraill; ac yr oedd y golled yn anffawd ddrwg i lenyddiaeth. Aeth Johnes ati ar unwaith i adeiladu eilwaith blas rhagorach, a rhoddi ynddo argraffwasg gyffelyb i'r argraffwasg sydd yn y Gregynnog yn awr, gan gyhoeddi argraffiadau o Froissant a Monstrelet ac eraill. Y mae'n debyg mai un o'r enw Chambers a breswyliai yn Hafod Uchtryd pan ymwelodd Humphrey Jones â'r ardal yn 1858.

Brithir holl fynyddoedd ardal Pontrhydygroes â phyllau a lefelydd y mwyn plwm, a chyn hyned ydyw rhai ohonynt fel na wyr neb eu hoedran. Cred amryw fod rhai o'r lefelydd o waith y Rhufeiniaid; adnabyddir y rhain gan guled ydynt a chan ôl y cynion a ddefnyddid i dorri'r graig. Y mae'n debyg mai'r gweithfeydd a dynnai weithwyr i blwyf Ysbyty Ystwyth yn 1858 a 1859 ydoedd Y Frongoch, Y Lefel Fawr, Grogwynion a gwaith Cwm Ystwyth, a hwyrach ddechrau o Benyglog Fawr a Phenyglog Fach cyn y Diwygiad. Ni wyddys rif tai a phoblogaeth y plwyf yn 1858, eithr yr oedd ynddo 195 o dai a phoblogaeth o 941 yn 1875, ddwy flynedd ar bymtheg wedi ymweliad Humphrey Jones; y tebyg ydyw fod y boblogaeth gymaint os nad yn fwy yn 1858, oblegid yr oedd y gweithfeydd ar eu llawn gwaith y pryd hwnnw.

Y mae hen gapel y Wesleaid lle dechreuodd y Diwygiad wedi ei droi yn beudy, a saif y newydd a adeiladwyd yn 1874, yn ei ymyl. Er nad yw Pontrhydygroes ond pentref bach ynghanol y mynyddoedd, y mae o fewn cyrraedd lleoedd ag y mae iddynt hanes nodedig yng nghrefydd Cymru,-prin filltir sydd i bentref Ysbyty Ystwyth, pum milltir i Bont-ar-Fynach, pedair a hanner i Ystrad Meurig, pump a hanner i Ystrad Fflur, a phedair ar ddeg i Aberystwyth. Aeth Humphrey Jones o Fynydd Bach i Bontrhydygroes ddydd Iau, Medi 30, 1858, a phregethu yng nghapel y Wesleaid y noson honno, ar "Paham yr ydych chwi olaf i ddwyn y brenin yn ol i'w dy?" Cafwyd amryw o nodweddion cyffredin y Diwygiad yn yr oedfa gyntaf,a hynny oherwydd, yn ychwanegol at waith effeithiol y Diwygiwr, y buasai amryw o'r gwrandawyr yng nghyfarfodydd Mynydd Bach a dwyn yn ôl eneiniad y cyrddau hynny. Chwythu'n fflam y tân a'i rhagflaenasai a wnaeth y Diwygiwr yma eto. Nos Wener pregethodd â nerth mawr ar, Mi a adwaen dy weithredoedd di, nad ydwyt nac oer na brwd; mi a fynnwn pe bait oer neu frwd. Felly, am dy fod yn glaiar, ac nid yn oer nac yn frwd, mi a'th chwydaf di allan o'm genau. Pregethodd yn fyr, ac yna disgyn i'r Sedd Fawr, a dywedyd, " 'Rwy'n deall fod Mr. David Morgan, gweinidog y Methodistiaid, yma; a ddaw Mr. Morgan ymlaen i gyfarch y bobl?" Ufuddhaodd Mr. Morgan yn ddiymdroi. Dyma weithred gyntaf y Parch. Dafydd Morgan, Ysbyty, ynglŷn â'r Diwygiad; o hynny allan am tua dwy flynedd teithiodd yn amlder ei rym trwy Gymru a gweithiodd fel cawr ysbrydol." Y mae hanes Mr. David Morgan yn dyfod i mewn i'r Diwygiad mor bwysig fel na fyddai'n ddoeth gwneuthur llawer mwy nag aralleirio'r hanes a ddyry ei fab, y Parch. J. J. Morgan, yr Wyddgrug.

Yn 1858 yr oedd un Mr. Elis Roberts, gŵr o Ogledd. Cymru, yn ysgolfeistr ym Mhontrhydygroes, ac yn ei dŷ ef, ar gyfyl capel y Wesleaid, y lletyai Humphrey Jones. Parodd pregeth nos Wener flinder meddwl mawr i Ddafydd Morgan, teimlai nad oedd ef ei hun mwy na'r eglwysi nac oer na brwd. Ni allai orffwys y noson honno gan faint y deffro oedd yn ei gydwybod. Wedi hir ymboeni yn ei gartref, y Felin, a'r nos yn cerdded ymhell—ymhell yn y wlad,—am ddeg o'r gloch, teimlodd orfod arno ddychwelyd at y Diwygiwr ac ymgynghori ag ef. Llawenhai calon Humphrey Jones o'i ddyfod, oherwydd buasai'n gweddio a disgwyl o ddechrau'i genhadaeth yng Nghymru am gydweithiwr. Baich yr ymddiddan a fu rhyngddynt ydoedd cenadwri'r bregeth a draddodwyd yn y capel ychydig oriau'n gynt. Cyn ymadael, ebe Dafydd Morgan, "Fyddai hi yn niwed yn y byd i ni geisio deffroi eglwysi'r cylch yma, a chynnal cyfarfodydd gweddiau; 'rwy'n fodlon gwneud fy ngorau; wnawn ni ddim niwed drwy hynny, pe na bai ond dyn yn y cwbl yn y diwedd." Nid oedd Dafydd Morgan hyd yma wedi ei argyhoeddi fod "y peth hwn o Dduw."

"Gwnewch chi hyny," ebe Humphrey Jones, "a mi a'ch sicrhaf chi y bydd Duw gyda chi yn fuan iawn." Codai sicrwydd y Diwygiwr o'i ffydd, a'i brofiad mawr yn America, ac yng Nghymru wedi hynny. Aeth Dafydd Morgan i'w gartref, nid i orffwys a huno fel arfer, eithr i ofidio a gweddio. Dychwelodd drachefn a thrachefn ddydd Sadwrn i ymgynghori â Humphrey Jones, a chymaint oedd gwayw ei enaid fel na allai feddwl am bregethu fore Sul yn ôl y trefniant a oedd iddo. Pregethodd Mr. Jones ar ddymuniad y Methodistiaid, yng nghapel Ysbyty, fore Sul, Hydref 3, ar "Gwae y rhai esmwyth arnynt yn Seion."

Yr oedd Dafydd Morgan yn yr oedfa. Ar derfyn y bregeth, yn y gyfeillach, cwynai Mr. Jones fod yr awyr yn oer a throm, ac na roddasai neb iddo gymorth gymaint ag hyd yn oed Amen. Yna cododd John Jones, Penllyn, ar ei draed a dywedyd nad peth hawdd oedd i neb weiddi Amen a'r weinidogaeth yn ei gondemnio gymaint; wedyn methu a wnaeth, ymdagu a thorri i wylo a syrthio i'w sedd fel gŵr dinerth. O weled gŵr Penllyn, a oedd yn ddyn Duw a'i gadernid moesol yn wybyddus i bawb, yn plygu fel hynny, plygodd y gynulleidfa hithau ac wylo. Plygodd Dafydd Morgan, ac wylodd yntau. Llanwyd y lle â nerthoedd y Diwygiad. Dyma'r bore, Hydref y trydydd, yr eneiniwyd y Parch. Dafydd Morgan, Ysbyty, yn Ddafydd Morgan y Diwyg- iwr. Eithr ni theimlodd ei lanw â'r Ysbryd Glân am ddeuddydd arall. Aeth i orffwys nos Fawrth, Hydref y pumed, a chysgodd hyd bedwar o'r gloch a deffroi i deimlo ei fyned yn ei gwsg drwy ryw gyfnewidiad mawr a dieithr. "Deffroais," ebe fe, "yn cofio pob peth crefyddol a glywais ac a ddysgais erioed. Popeth a ddywedid wrthyf, mi a'i cofiwn." Dywedai Plennydd, "Aeth Dafydd Morgan i'w wely fel dyn arall a chododd yn y bore yn ddiwygiwr." Nid oes faes â llawer mwy o ddiddordeb ynddo i feddylegwr na hanes y dyn rhyfedd hwn.

Pa fath ar ddyn oedd Dafydd Morgan? Ateb parod y difeddwl a'r diwybod ydyw mai dyn cyffredin a phregethwr bach ydoedd. Rhy anodd yw cyfrif am gred gyndyn y Cymry mai arfer Duw hyd yn oed yng Nghymru ydyw defnyddio cyfryngau bach a dinod i wneuthur ei waith, ac yn arbennig, o bydd y gwaith yn un mawr. Y mae'n amheus a fedr Duw wneuthur unrhyw waith moesol mawr drwy eiddilwr; gwyddys na wnaeth felly yn y gorffennol ac na wna hynny yn awr. Eithr cred miloedd yng Nghymru fod yn rhaid iddo greu diwygiadau trwy bersonau dibwys a gwan i'r diben o ddangos ei fawredd ei hun. Dysgir weithiau mai dyna hanes diwygwyr Cymru i gyd; rhai bach bob un ydoedd Howel Harris, Humphrey Jones, Dafydd Morgan, Richard Owen ac Evan Roberts! Pa eglurhâd a roddir ar y cyfeiliornad dybryd hwn a ddysg y gweithia Duw yn anghyson â natur ac yn anheilwng o hono'i hun? Dewis Duw yn ddieithriad y cymhwysaf i greu diwyg- iadau trwyddo, a'r cymhwysaf bob amser yw'r mwyaf. Dysg y sawl a adnabu Dafydd Morgan mai dyn o gorff cydnerth ag wyneb llewaidd ydoedd, ac fel y llew ar ei hamdden, yn dawel a bodlon; dyn na faliai ddim. pa mor gyflym y culiai oriau'r dydd na pha mor fuan y deuai nos. Un araf a hafaidd ac esmwyth arno yn Seion a phobman arall ydoedd Dafydd Morgan, eithr yn nyfnder ei bersonoliaeth yr oedd deunydd gwres ac ynni anarferol: O ran dealltwriaeth a diwylliant a gwybodaeth, ni ragorai Mr. Morgan ar bregethwyr cyffredin ei oes; yr oedd yn rhy amddifad o uchelgais heb sôn am allu, i fod yn bregethwr mawr; ond yr oedd yn bregethwr cymeradwy. O ran ei natur foesol rhagorai ar fwyafrif pregethwyr yr oes. Yr oedd yn y natur honno ddyfnder a golud arbennig, a phan ddisgynnodd iddi dân Duw gwnaed y dyn yn anorchfygol. "Y mae'r moesol yn llywodraeth Duw," ebe'r Doctor Cynddylan Jones, yn uwch na'r deallol; yn Nheyrnas Nefoedd y mae rhinwedd yn rhagori ar wybodaeth. Dilys mai dyma oedd cuddiad cryfder y Diwygiwr ; -meddu ar natur foesol nad oedd ei rhagorach, os ei chystal, yn neb o'i gydoeswyr. Tawel a digyffro ydoedd o flaen y Diwygiad; ond pan ddisgynnodd y tân o'r nef arno, cafodd ynddo gyflawnder o danwydd, a pharhaodd yntau i losgi a fflamio am dair blynedd, nes codi tymheredd ysbrydol Cymru o Gaergybi i Gaerdydd."[1] Yr oedd Dafydd Morgan yn ddyn mawr, ac yn ddigon mawr i wisgo ag urddas fantell Humphrey Jones. Daeth y ddau ddiwygiwr yn gyfeillion tynn; cydgerddent fraich ym mraich i'r moddion ac yn ôl, a threulient eu dyddiau naill ai yng nghwmni ei gilydd neu yn eu hystafelloedd yn gweddio. Dylifai'r bobl o bob cyfeiriad i gyrddau Pontrhydygroes ac Ysbyty Ystwyth, a gorlenwi'r capeli. Pregethai'r cenhadon, ac oni fyddai hwyl ar y pregethu, gweddient a pheri i eraill weddio. Fel yn Niwygiad 1904, casglai Humphrey Jones y dychweledigion newydd at ei gilydd a pheri iddynt weddio y naill ar ol y llall, a throai yntau yn eu plith gan orfoleddu trwy ei amenau mawr a gwefreiddiol, ac ar brydiau codai'r llanw gymaint oni thorrid ar draws pob trefn, a gweddio o bawb gyda'i gilydd. Gwelwyd hefyd yn Niwygiad 1904 ambell un yn gosod y dychweledigion ar eu gliniau yn rhesi o'i flaen ac yntau yn eu harwain mewn gweddi neu ganu gan ysgogi'i gorff i'r dde a'r aswy a phawb o'r dychweledigion yn ysgogi fel yntau. Myn rhai nad oedd namyn dylanwad magnetaidd y dyn yn hyn oll; yr un dylanwad ag a oedd yn ysgydwad bys John Elias. Yn ddiamau, yr oedd peth gwir yn hyn, ac y mae'r peth yn gwbl gyfreithlon, oblegid ceir gorau dyn, pob rhan ohono, yn gystal a gorau Duw, ym mhob Diwygiad mawr. Cynyddu a wnai'r dylanwad yn gyflym a chyson. Llenwid y mynyddoedd â gweddio a mawl. Gadawai'r llafurwr ei orchwyl beunyddiol a chilio i gilfach i orfoleddu; torrai rhywun neu'i gilydd i weddio'n uchel ganol dydd neu'n hwyr y nos ar lechwedd agored a noeth; ymgasglai'r plant a weithiai ar wyneb y gwaith mwyn plwm i addoli mewn gorfoledd, a sefydlai'r mwynwyr gyfarfodydd gweddio tan y ddaear yn y Lefel Fawr a'r Frongoch, a gweithfeydd eraill.

Peth anarferol a gwerthfawr ydyw hanes y ddau Ddiwygiwr yn y tafarndy; praw hwn eu hyfder ysbrydol a nerth y Diwygiad. A'r ddau yn dychwelyd fraich ym mraich o gyfarfod gweddi yn Ysbyty Ystwyth y nos Sadwrn cyntaf yn Nhachwedd, 1858, a rhan o'r gynulleidfa yn eu dilyn, daeth gŵr i'w cyfarfod a dywedyd bod yn y Tymbl le annisgrifiadol ddifrifol, bod y tŷ yn llawn o feddwon yn rhegi ac yn ymladd yn arswydus. Nos Sadwrn y tâl ydoedd, a'r mwynwyr yn ôl eu harfer y pryd hwnnw, wedi gollwng i rysedd nwydwyllt. "Awn i lawr i'r dafarn," ebe Humphrey Jones wrth Ddafydd Morgan. Yr oedd y tŷ yn llawn i'r drws. Ymwthiwyd i mewn i ganol y cynnwrf a'r ymladd. O'u gweled safodd y tafarnwr, fel un wedi ei barlysu, ar ben grisiau'r seler â chwart o gwrw yn ei law. Gofynnodd Humphrey Jones yn foesgar am ganiatâd i weddio yn y tŷ. Cewch, cewch," ebe'r tafarnwr â braw yn ei wedd. Gweddiodd Humphrey â dylanwad anorchfygol ar ran y rhegwyr a'r meddwon, a gweddiodd Dafydd Morgan yntau â'r un dylanwad. Pan godasant o'u gweddio yr oedd y tŷ yn wag, ac eithrio un a oedd yn ddiymadferth gan ei feddwi, a'r tafarnwr yn sefyll o hyd ar ben grisiau'r seler â'r chwart cwrw fyth yn ei law. Oddi yno aed i'r Mason's Arms a chael bod eu harswyd wedi cyrraedd o'u blaen a gwacau'r tŷ. Yn nesaf aed i dafarn Nantyberws a chael yno'r tapiau'n sych a'r yfwyr wedi dianc. Pan alwyd wrth y Star, tafarn Ysbyty Ystwyth, caed y drws tan glo a'r teulu'n huno'n gynnar mewn tawelwch dieithr.

Newidiasai'r Diwygiad o ran un o'i nodweddion ers peth amser. Yn Nhre'rddol, ac wedyn, am yr wythnosau cyntaf, yn Ystumtuen, dwys a distaw ydoedd. "Nid oes yma sŵn. . . y mae yma ryw deimlad dwys a dwfn a distaw nes bod hen bobl yn llefain fel plant,"[2] ebe'r Parch. O. Thomas, pan ysgrifennai hanes y Diwygiad yn Nhalybont, pentref ddwy filltir o Dre'rddol. Dwg y Parch. Josiah Jones yntau dystiolaeth gyffelyb am nodweddion y Diwygiad ym Machynlleth[3] Eithr ym Mhontrhydygroes, ac am beth amser cyn hynny, yn Ystumtuen a Mynydd Bach, daethai'r gorfoleddu gwresog ac uchel a oedd mor amlwg yn Niwygiad Evan Roberts yn 1904, yn amlwg yn Niwygiad Humphrey Jones yntau. Yn dilyn tystiolaeth y Parch. Josiah Jones am nodwedd ddwys a distaw y Diwygiad ym Machynlleth, ceir eiddo Mr. Griffith Thomas, Aberystwyth, am y Diwygiad yno, yn yr un rhifyn o "Y Diwygiwr, Y mae'r Diwygiad wedi newid yn ddiweddar i nodwedd hwyliog a gwresog a thanllyd, torri allan i ddiolch a chanu hwyliog." Dyblid a threblid y canu, ac ar brydiau gweddiai ugeiniau gyda'i gilydd; llefai rhai yn uchel am drugaredd, a gorfoleddai eraill ar

uchaf eu llais am y drugaredd a gawsant. Cynhelid cyfarfodydd ymhell i'r nos, a threuliai cannoedd oriau ar eu ffordd i'w cartrefi, a phawb yn gorfoleddu'n uchel. Peidiasai'r meddwi a'r rhegi a phob rhysedd arall yn ystod pythefnos gyntaf y genhadaeth, ac ni chlywid mwy namyn gweddio a moli ar aelwyd a mynydd. Ym mhentrefi bach Pontrhydygroes ac Ysbyty Ystwyth rhifai'r dychweledigion cyn diwedd Rhagfyr, 1858, tros ddau cant.

Daeth cenhadaeth y ddau Ddiwygiwr ym Mhontrhydygores i'w therfyn yr ail wythnos yn Nhachwedd, ac am y bythefnos nesaf cyd—weithiodd y ddau ym mhentrefi canolbarth Ceredigion. Yr oedd y maes a weithiai'r Diwygwyr yn hen gynefin â dylanwadau mawr ysbrydol, brithir ef hyd yn oed yn awr â llwybrau'r pererinion gynt o bob rhan o'r wlad i Fynachlog Ystrad Fflur. Meddylier am yr enwau hyn,—Pontrhydygroes, Ysbyty Ystwyth, Ysbyty Cynfin, Rhydpererinion a Phontrhydfendigaid. Y mae gwraidd bywyd Ceredigion yn ddwfn yn naear traddodiadau crefyddol. Ymwelodd y Diwygwyr yn gyntaf â Phontrhydfendigaid, ddydd Mercher, Tachwedd 17, a chyneuwyd yno dân y Diwygiad. Dechreuwyd yn Nhregaron nos Lun, Tachwedd 22, yng nghapel y Wesleaid, ac wedyn ynghapel y Methodistiaid Calfinaidd. Cychwynnwyd pethau mawr a rhyfedd yn yr hen dref hon, ac yn ddiweddarach llanwyd hi â gorfoledd dychweledigion. Caed oedfa ryfedd ym Mlaenpennal fore'r dydd Iau dilynol, —"Wylai Humphrey Jones oni fethai a pharhau i bregethu; wylai Dafydd Morgan yntau; wylai pawb ymron. Safai Dafydd Morgan yn y pulpud i geisio pregethu; ond pwy a allai bregethu i gawodydd o ddagrau? Yntau yn edrych ar nerthoedd y tragwyddol Ysbryd a weddnewidiwyd yngwydd y gynulleidfa, ac a floeddiodd fel un yn gweled y nef yn agored, "O, y Sheceina dwyfol." Cafwyd naw o ddychweledigion"[4] Cwsg â delw marwolaeth arno a gaed yng nghymdogaeth Swyddffynnon, Nos Iau, Tachwedd 25, 1858. Arweiniodd Humphrey Jones y cyfarfod, a pheri i'r blaenoriaid weddio, y naill ar ôl y llall, ac yna pregethu oddiar Amos vi. 1; eithr ymhen ychydig funudau methodd arno gan ddiffyg eneiniad, a pharodd i'r un blaenoriaid weddio eilwaith. Nid oedd yno neb ond y blaenoriaid a fedrai ddim ar weddio'n gyhoeddus. Gafaelodd Humphrey Jones yn ei bregeth drachefn, ac yn y fan daeth i'r oedfa ddwyster a nerthoedd y Diwygiad. Pregethodd Mr. Morgan yntau un o'i bregethau mwyaf effeithiol oddiar Hosea vi. 9. Wedi hyn deffrodd Swyddffynnon yn llwyr a gwisgo gwisgoedd ei nerth a'i gogoniant. Oedfa galed a gafodd y Diwygwyr yn Llanafan; methwyd â gwneuthur dim, a throwyd adref yn ddigalon; eithr gwelodd Dafydd Morgan bethau annisgrifiol yno hefyd yn ddiweddarach.

Dyna ddiwedd ar gydweithio'r ddau Ddiwygiwr; ymwahanasant, ac ni wyddys y rheswm paham. Efallai, fel yr awgryma'r Parch. J. J. Morgan yn gynnil, y gwelai Humphrey Jones a weddiodd gymaint am gydweithiwr, fod nerth Dafydd Morgan yn cynyddu a'i nerth yntau'n lleihau, ac i hynny droi'n groes ry drom i'w chario. Eithr tebycach ydyw mai'r prif reswm ydoedd amhariad gieuol a effeithiwyd gan y dreth drom a roddwyd arno am yn agos i dair blynedd. Rhydd ei hanes ymhellach ymlaen esboniad ar lawer o bethau chwithig a wnaeth yn y tymor hwn. Yn ôl at ei enwad ei hun yr aeth Humphrey Jones, yn gyson â'i fwriad gwreiddiol. Treuliodd rai wythnosau yng Nghnwch Coch, a phregethu yng nghapel y Wesleaid a chapel Cynon (M.C.), bob yn ail noson. Bu ei genhadaeth yng Ngnwch Coch mor rymus ac effeithiol ag y bu yn unman o'r cychwyn. Nid oedd adeilad a ddaliai'r cynulleidfaoedd gan eu maint. Er hynny, tynnid y bobl wrth y cannoedd o ddyffryn a mynydd i weled a chlywed y Diwygiwr enwog; ac er bod yn y tywydd iâs gaeaf ar fynyddoedd uchel, ymdroai'r addolwyr ganol nos i gydweddio a chanu ar lwybrau'r defaid i'w cartrefi diarffordd.

Nodiadau

[golygu]
  1. Dafydd Morgan, a Diwygiad '59," tud. 597.
  2. "Y Diwygiwr," Ebrill, 1895.
  3. "Y Diwygiwr," Mai, 1859
  4. "Dafydd Morgan, a Diwygiad '59," tud. 66. Yr wyf yn ddyledus i'r Parch. J. J. Morgan am ddyddiadau a ffeithiau'r cyfarfodydd hyn.