Humphrey Jones a Diwygiad 1859/Yr Haul yn Machlud
← Ym Mhontrhydygroes | Humphrey Jones a Diwygiad 1859 gan Evan Isaac |
Llythyrau'r Diwygiwr I → |
VIII.
YR HAUL YN MACHLUD.
Ni bu unwaith gwmwl yn ffurfafen y Diwygiwr, ac ni chaed cloffni yn ei gerdded, am y cyfnod o tua thair blynedd. Cafodd ddydd llawn diwygiwr crefyddol Cymreig a theithiodd yn amlder ei rym. Eithr yn awr ymgasgl y cymylau a chollir y golau am ysbeidiau; daw naws gaeaf i'r hin, ac yn dawel ac esmwyth a diarwybod i'r wlad, tywyllir yr wybren a disgyn y cymylau yn isel, a chollir y Diwygiwr mewn nos hir.
Buasai galw mawr ers tro ar Humphrey Jones i Aberystwyth, a rhoddasai yntau ei fryd ar fyned yno gan ddisgwyl pethau mwy yn y dref nag a gawsai yn unman. Hyd yma llafuriasai mewn mân bentrefi ac ar y mynyddoedd; ond yn y dref yr oedd rhai miloedd o drigolion a chapeli mawrion; eithr prif sail ei ddisgwyl am y pethau mwy ydoedd y ffaith fod y Diwygiad eisoes i fesur da wedi effeithio ar yr eglwysi a channoedd o bechaduriaid wedi eu dychwelyd at grefydd. Ni lwyddodd hyd yn oed tân y Diwygiad i losgi ffiniau enwad, anaml y gwna hynny, a phan gyrhaeddodd Humphrey Jones Aberystwyth erbyn y Sul olaf ond un yn Rhagfyr, 1858, i gapel y Wesleaid, yn Queen Street, yr aeth i wasanaethu. Gweinidogion y Gylchdaith ar y pryd oedd y Parchedigion William Rowlands (Gwilym Llŷn) a Henry Parry. Yr oedd enwogrwydd y Diwygiwr mor fawr oherwydd y pethau annisgrifiol a wnaethpwyd trwyddo, a ffydd pawb ynddo gymaint, fel yr ymddiriedodd Gwilym Llyn drefnu'r gwaith i Humphrey Jones. Newidiodd yntau'i gynllun arferol a threfnodd gynnal cyrddau gweddio yn unig; ym mhob man arall, o gychwyn y Diwygiad, pregethai'n fyr a galw ar flaenoriaid i weddio, eithr yn y dref ni phregethai o gwbl. Ei reol o'r cychwyn ydoedd "pregethu pregethau llym i'r eglwys yn gyntaf; ymdrechu at ddeffroi Seion,. . . . ni bydd fawr lles heb gael Seion o'i chwsg."[1] Dyma'r arwydd amlwg cyntaf o anghysondeb yn y Diwygiwr. Dysgai fod Eglwys Queen Street mewn trymgwsg ac yn anaddas i dderbyn a magu dychweledigion, ac nad oedd fodd i'w deffroi namyn gweddio am dywalltiad mwy o'r Ysbryd Glân; ni thalai pregethu iddi bregethau llym fel y gwnaethai mewn lleoedd eraill. Yr adeg hon, ar fore Sul, cyfarfu ei gefnder, y Parch. John Hughes Griffiths, ag ef ar ben Rhiw Glais, ac ebe ef mewn llais â'i lond o siom, "Wn i ddim beth ddaw o honof yn y dre'. Y maent yn galed iawn."[2] Eithr tystiolaeth y Parch. Henry Parry a oedd ar Gylchdaith Aberystwyth ar y pryd ydoedd," Yr oedd yr eglwys honno cystal ag unrhyw un trwy'r wlad, a llenwid y capel bob nos."[1] Llafuriodd y Diwygiwr yn Aberystwyth am rai misoedd, -chwe mis, ebe ef ei hun; eithr nid oes hanes iddo bregethu unwaith; cynhelid cyrddau gweddio ar y Saboth a phob nos o'r wythnos, a chodai'r gwres ysbrydol yn uchel am yr wythnosau cyntaf. Tystia rhai hynafgwyr a gofia'r Diwygiad ac a deimlodd ei rym mewn mannau eraill na chaed nerthoedd mwy yn unman nag a gafwyd yng nghyrddau gweddi capel Queen Street yn ystod yr wythnosau cyntaf. Crefai ugeiniau'n daer am eu derbyn yn aelodau, eithr gwrthodai'r Diwygiwr hwy am y daliai'n dynn nad oedd yr eglwys yn addas i'w coledd. Bob yn ychydig lleihaodd gwres y cyfarfodydd oni pheidiodd yn llwyr. Derbynnid aelodau newydd wrth y cannoedd yn eglwysi eraill y dref, ond methodd gan hen grefyddwyr eglwys y Wesleaid weddio, a pheidiodd y canu. Dywaid Humphrey Jones ei hun, "Yn Aberystwyth arhosais chwe mis yn cynnal cyfarfodydd diwygiadol, cyfarfodydd gweddi yn fwyaf neilltuol. Dychwelwyd yno yr amser hwnnw at y Methodistiaid Calfinaidd o bump i chwe chant; at y Bedyddwyr tua chant ac ugain; at y Wesleaid, bach a
mawr, Cymraeg a Saesneg, cant ond tri; at yr Annibynwyr, hanner cant; ac at Eglwys Loegr, yn ôl fel yr ysgrifennodd y Ficer Hughes ataf, gant a phymtheg ar hugain."[3] Fe'i cyfyngai ef ei hun i'w lety a'r cyfarfodydd; nid ymwelai, yn ôl ei arfer mewn mannau eraill, â chartrefi'r annychweledig i ymbil â hwy, ac ni phregethai yn yr eglwys. Tystiolaeth unol hen grefyddwyr yn Aberystwyth sy'n cofio'r Diwygiad ydyw, i'r cynllun newydd a dieithr beri niwed mawr i Wesleaeth yn y dref, ac yn enwedig i eglwys Queen Street.
Ysgrifennodd y Parch. William Rowlands (Gwilym Llŷn), Ebrill 7, 1859,[4] fod rhif aelodau Cylchdaith Aberystwyth yn 1308, yn cynnwys cynnydd o 655 trwy genhadaeth Humphrey Jones. Dyma gynnydd un enwad, mewn cylch bach, yn ystod wyth mis. Dyn manwl a chrintachlyd, cynnil a chas ei eiriau, oedd Gwilym Llŷn, ac nid oedd berygl iddo roddi ar ddim bris uwch na'i werth. Eithr credai fod Humphrey Jones a'r Diwygiad o Dduw. Wrth sôn am nodweddion anarferol y cyfarfodydd dywaid, "Y mae gweled pethau felly yn well na'r marweidd—dra disymud a oedd yn teyrnasu dros ein gwersylloedd y blynyddoedd diweddaf Beth a feddyliwch am bethau fel yma,—onid ydynt yn nodweddion boddhaol?"[5]
Y mae'n amlwg oddi wrth lythyr calonnog Gwilym Llŷn nad oedd yn nechrau Ebrill braw eglur o drai yn nylanwad y Diwygiwr; priodolid y diffyg llwyddiant yn eglwys Queen Street i'r cynllun o weithio yn bennaf. Eithr yn gynnar ym Mehefin, 1859, cafodd y sawl a gymdeithasai fwyaf â Humphrey Jones resymau tros amau cydbwysedd ei feddwl; nid oedd fel cynt. Llethid ef gan bryder ac ofnau ar brydiau, ac yn raddol aeth i'w ysbryd brudd-der trwm; ond ar adegau eraill ymwrolai ac ymlonnai, a chyhoeddai fod y wawr ar dorri, ac y ceid yn fuan ddydd yng Nghymru na welwyd erioed ei gyffelyb. Honnai y derbyniai'n gyson ddatguddiadau oddi wrth Dduw, nid yn unig ynglŷn â bywyd Cymru, ond ynglŷn â bywyd Prydain a gwledydd y Cyfandir hefyd. Yn raddol aeth i gredu ei fod yn broffwyd, a chyhoeddai bethau a ymddengys i ni o'r pellter yn anhygoel; eithr credai miloedd yn ei allu proffwydol oherwydd y gweithredoedd nerthol a wnaethai Duw trwyddo yn ystod y tair blynedd blaenorol yn America a Chymru. Rywbryd ym Mehefin cyhoeddodd fod nos foesol y ddaear yn dyfod i'w therfyn ac y gwelid yr Ysbryd Glân yn disgyn am un ar ddeg o'r gloch ar fore dydd arbennig a enwai, ac ar yr awr honno y dechreuai'r Mil Blynyddoedd. Credai pawb o'r werin ei dystiolaeth, a thynnodd cannoedd o bobl y wlad yn fore i'r dref. Gwibient drwy'r heolydd ac ar draws ei gilydd â braw, fel braw byd a ddaw, yn eu hysbryd a'u gwedd. Llanwyd capel Queen Street â thyrfa fawr a oedd tan ofn a'u llethai yn disgwyl y weledigaeth wyrthiol. Yr oedd Humphrey Jones â'i ffydd yn ei broffwydoliaeth yn ddisigi, ar ei liniau yn y sedd fawr yn disgwyl yr awr anfeidrol ei golud," ac ar drawiad un ar ddeg llefodd a'i ddwylo i fyny, "Mae E'n dyfod! Mae E'n dyfod!" Daeth yr awr, eithr ni ddaeth y wyrth. Torrodd y Diwygiwr ei galon ac wylodd yn chwerw ac uchel. Ciliodd i'w lety a'r nos, ac ni welwyd ef yn hir, hir, wedyn. Ni ddaeth iddo ddydd llawn byth mwy. A'i ffydd yn gref yn Humphrey Jones fel gŵr Duw wedi ei anfon i wneuthur gorchestion ysbrydol, ni fynnai Gwilym Llŷn gredu bod dydd y Diwygiwr ar ben, ac ni fynnai'r Diwygiwr yntau hynny. Eithr nid oedd fodd i'w gael o'i neilltuaeth i'r cyhoedd oherwydd y credai fod yn rhaid iddo aros hyd amser neilltuol Duw.