Neidio i'r cynnwys

Huw Huws neu y Llafurwr Cymreig/Pennod III

Oddi ar Wicidestun
Pennod II Huw Huws neu y Llafurwr Cymreig

gan Lewis William Lewis (Llew Llwyfo)

Pennod IV

PENNOD III.

Trwm yw'r plwm, a thrwm w'r cerig,
Trwm yw calon pob dyn unig;
Trymaf peth tan haul a lleuad,
Canu 'n iach lle byddo cariad.
—HEN BENILL.


AETH dau fis heibio, ac yr oedd deifwynt y gauaf yn diosg y coed o'u hychydig ddail gweddill, a rhew y nosweithiau oerion yn cloi yr afonydd mân mewn iâ, ac yn gyru iasau o fferdod trwy gymalau Anian.

Yr oedd pawb trwy'r fro yn gwybod am anffodion Mr. Price, Bodonen, ac yr oedd tynged ei hwsmon llafurus a ffyddlawn yn peri galar i'r holl gymydogion gwledig; a dyfnheid y galar hwnw fel y dynesai y dydd iddo ef a'i dylwyth orfod troi eu cefnau ar y Tŷ Gwyn.

Yr oedd gan William Huws frawd yn gweithio o gylch un o ddociau Llynlleifiad. Ysgrifenodd 'lythyr. at y brawd hwnw i'w hysbysu o'i drallodion, gan geisio ganddo chwilio am ryw waith iddo yntau yn y dref borthladdol hono, lle mae cynnifer o Gymry yn cael eu bywioliaeth—canoedd o honynt yn enill clod a golud, ac yn dyfod yn bobl ddylanwadol,—miloedd yn cael gwaith cyson ac enillgar; a llawer hefyd, ysywaeth! yn cyfarfod âg anffodion a siomedigaethau. Bu William am gryn amser heb gael atebiad oddi wrth ei frawd; ond, o'r diwedd, fe ddaeth llythyr, gydag hysbysrwydd ei fod wedi methu cael gwaith iddo, ond ei fod yn gobeithio llwyddo yn fuan. "Felly," ebe fe, "gan dy fod yn gorfod ymadael oddiyna, chan fod genyt dipyn o arian wrth dy gefn, gwell i ti a'th deulu ddyfod drosodd yma; byddaf yn sicr o gael rhyw fath o waith i ti cyn y derfydd dy arian."

Penderfynodd William ddylyn cyngor ei frawd, a dechreuodd barotoi ar gyfer ymfudo i Lynlleifiad.

Yr oedd y gweinidog, yn eglwys yr hwn yr arferai William Huws, a'i dylwyth, addoli, yn ceisio ei berswadio, yn mhob modd, i beidio myned i Loegr cyn cael sicrwydd o waith; ond nis gallai William yn ei fyw ymwrthod â'r dybiaeth fod ffawd dda yn ei aros yn Llynlleifiad. Ac wrth weled nad oedd dim yn tycio, penderfynodd y Parch. Mr. Lloyd na chaffai Huw, bachgen William Huws, ddim myned gyda'i rieni; ac efe a ofynodd, megis ffafr bersonol iddo ef ei hun, am iddynt adael Huw gydag ef, i fod yn was iddo, gan addaw gofalu am ei gysur, a'i addysg, a rhoddi pob cynnorthwy yn ei gyrhaedd i ddyfod yn mlaen. Nis gallai y rhieni wrthod y fath gais, gan fod ganddynt yr ymddiried llwyraf yn nuwioldeb a charedigrwydd Mr. Lloyd.

Y diwrnod cyn iddynt gychwyn, cynhaliwyd arwerthfa ar ddodrefn ac eiddo William Huws. Gwerthwyd y cyfan, oddigerth ychydig o nwyddau diwerth ynddynt eu hunain, ond y rhai oeddynt dra gwerthfawr yn ngolwg y tylwyth, o herwydd rhyw bethau bychain cysylltiedig â'u hanes; a dau wely peiswyn glân, gydag ychydig wrthbanau a chynfasau o wneuthuriad cartref.

Yr oedd y cyfnewidiad yn, ac o amgylch y Tŷ Gwyn, y fath fel mai anhawdd fuasai ei adnabod fel yr annedd ddestlus yn mha un y preswyliai y teulu dedwydd gynt, ond y rhai oeddynt yn awr ar fin ei adael, heb, efallai, obaith ei weled byth mwy.

Noson ddu, ddigysur, oedd y noson olaf a dreuliasant rhwng muriau moelion yr hen dŷ; ac yr oedd pob un o aelodau'r teulu yn gofidio ac yn galaru dros ryw dristwch cyfrinachol nas gallai neb arall ei ganfod na'i deimlo. Y mae adegau pan y bydd y cyfaill anwylaf ac agosaf yn ymddangos fel dieithr ddyn y mae, weithiau, dyfnderoedd o deimlad, nas gall, ac nis gwiw, i lygad neb eu chwilio, dirgryniadau o ing dirgelaidd tu hwnt i gydymdeimlad dynol. Ei hunan y mae dyn yn dyfod i'r byd—ei hunan yn ymollwng ar gefnfor tragywyddoldeb; a rhwng y ddau gyfnod, y mae ambell foment yn dygwydd pan fydd dyn yn gorfod teimlo, er gwaethaf ei ymdrechion i'r gwrthwyneb,—ei fod "ar ei ben ei hun," megis, heb neb ar y ddaear a all ei gysuro.

Teimlai William a Marged Huws hyny i raddau yn awr, er fod y cymydogion, yn ol arfer Cymry y wlad, yn heidio atynt i gynyg eu cydymdeimlad, eu cymorth, a'u dyddanwch.

Yr oedd y tair geneth wedi bod yn adeiladu cestyll lawer yn yr awyr, wrth feddwl am gael myned i fyw i Lynlleifiad. Addawent iddynt eu hunain ddedwyddwch annesgrifiadwy yn y lle mawr yr oeddynt wedi clywed cymaint am ei ryfeddodau. Ond sobrodd yr arwerthiant ar bethau y Tŷ Gwyn lawer arnynt hwythau hefyd, a gwnaeth i Mari fach gydymdeimlo mwy â gofidiau ei rhieni; ac wylai y ddwy eneth leiaf wrth weled eu mam yn wylo, pan werthwyd yr hen dresser dderw, a gafodd hi gan ei mam ei hun, a chofio fod y fam hono, bellach, wedi myned i'r "tŷ rhag—derfynedig i bob dyn byw."

Yr oedd gofid Huw, y bachgen, yn fawr arno. Clywodd ef Mr. Lloyd, wrth geisio perswadio ei dad i beidio myned i Lynlleifiad, yn dangos effeithiau peryglus awyr afiach tref fawr ar blant ieuainc, a'r temtasiynau a amgylchynent ieuenctyd mewn lle fel Llynlleifiad. Ac er fod hyny yn enyn gofid ac anesmwythder mawr yn meddwl Huw, gwnaeth iddo benderfynu, yn gryfach fyth, i ddylyn y llwybr o ddyledswydd a nodid allan iddo gan y Gweinidog. Gwnaeth y trallodion hyn i feddwl y bachgenyn ordyfu ei oedran. Yr oedd ef, bob amser, yn hogyn call a meddylgar; ond daeth yn awr yn ddifrifol tu hwnt i'w oedran.

Y mae peryglon yn hyny, ar rai amgylchiadau, pan y gall colli hoender a chwareugarwch ieuenctid ladd yni a sychu ffynhonell gweithgarwch. Ond hyderwn nad dyna fel y bydd gyda hanes ein harwr.

Dychwelodd y cymydogion i'w cartrefleoedd, y naill ar ol y llall, gan adael teulu William Huws eu hunain, yn eu hannedd ddiddodrefn.

Yr oedd y nos wedi mantellu y fro. Ymddringai y lleuad haner llawn dros gopa Mynydd Bodafon, ac edrychai i mewn arnynt, fel i roddi ffarwel, trwy gangau y boplysen a gysgodai y ffenestr. Torodd Mari ar y dystawrwydd, gan ddywedyd, "A!—y pren bocs! Gobeithio y caiff o chware teg gin bwy bynag ddaw yma i fyw!"

"Ie'n wir!" ebe Huw. "Mi gefis i lawer o bleser wrth drin a thrimio'r coed yna, yn enwedig y pren bocs. Y mae'n debyg y toriff rhywun o i lawr cyn bo hir!"

"Paid a hidio, Huw," meddai Mari, drachefn, wrth weled deigryn yn llenwi llygad ei brawd; "mi fynaf fi gael un neisiach yn yr ardd yn Nerpwl, gael i ti gael pleser pen ddoi di i edrach am danon ni."

Edrychodd William Huws yn dyner ar ei ferch hynaf, yr hon oedd yn dangos y fath anwybodaeth am gyfleusderau ac arferion trigolion tlodion Llynlleifiad. "Chawn ni ddim gardd yno, Mari bach," ebe fe. "Bydd raid i ni fyw mewn lle gwahanol iawn i hwn. Yr unig beth a gawn ni yno, ag sydd wedi'n gwneud yn hapus yma, fydd presenoldeb Duw. Yr wyt ti'n gwybod 'i fod Ef yno fel yma, on' 'twyt ti, Mari?"

"Ydw, nhad—mae O 'mhob man ar yr un waith." "Ydyw, ngeneth i," ebe'r fam wed'yn. Ac yna dyrchafodd ei llygaid i fyny, ac yr oeddynt yn llawn dagrau; a dywedodd, "Os na ddaw Duw gyda ni yno, dysged ni i fyned i i rywle arall!”

"Mam!" meddai Huw—"tybed nad oedd testyn Mr. Lloyd, nos Sul, yn atebiad i hyna— Ni'th roddaf i fyny, ac ni'th lwyr adawaf chwaith'!"

"Ydyw, machgen," ebe'r tad. "Os byddwn ni'n ffyddlon iddo Ef, ni fydd iddo ein gadael yn unig a dinodded. Chawn ni ddim gardd, na phoplys, na phren bocs, na blodau, yn Nerpwl; ond cawn weled yr awyr, a'r lleuad, a'r ser, yn tywynu trwy'r ffenestr, fel yma, ac yn ein hadgoffa o'r hyn a ddywedodd Mr. Lloyd, a ar ei bregeth, am oleuni'n dysgleirio yn y tywyllwch. Cawn y Beibl yno hefyd, a moddion gras. O! yr wyf yn diolch am i mi gael fy nerthu i'ch dwyn i fyny'n blant crefyddol, ac am dy fod di, Huw, yn debyg o gael arweiniad dyn mor dda a Mr. Lloyd. Cofia am dy enaid, fy machgen, yn gystal ag am dy gorff—am dy addysg ysbrydol, yn gystal ag am dy gynnydd mewn gwybodaeth ddaearol. Bydd i ni gyd-weddio llawer drosot ti; gweddia dithau drosot dy hun, a throsom ninau!"

Wylodd Huw yn hidl, a thorodd y plant eraill hefyd i wylo yn uchel.

Yr oedd goleuni y lleuad yn disgyn arnynt yn awr gyda nerth, ac fel yn eu trochi yn ei dysgleirdeb digwmwl. Edrychasant ar eu gilydd, ac yna ar y lloer ganaid, tra yr oedd y syniad naturiol megis yn cyd-enyn pob mynwes, y caffai y lleuad fod yn bwynt eu harsylliad hoff pan wedi eu gwahanu oddi wrth eu gilydd o ran lle ac amgylchiadau.

Ar ol ychydig fynydau o ddystawrwydd, galwodd William Huws ar Lowri fach—yr ail eneth—i adrodd y Drydedd Psalm ar Hugain. Ni theimlodd y teulu erioed o'r blaen y fath gysur, oddi wrth sicrwydd duwiolfrydig y Psalm, â'r pryd hwnw, pan oedd Lowri fach yn ei hadrodd yn ei dull syml, a'i llais yn grynedig gan deimlad.

Yna aethant oll ar eu gliniau; ac yr oedd gweddi William Huws yn hynod ddifrifddwys a gafaelgar, wrth orchymyn ei blant—pob un dan ei henw, gyda chyfeiriadau diaddurn at eu gwahanol sefyllfaoedd a'u hanghenion, yn gystal ag ef ei hunan, a'i briod, i ofal a nodded y Nef. Ac nid oes neb, ond y sawl a fagwyd mewn teulu duwiol, a ŵyr am effeithiau'r fath wasanaeth dwyfol ar y galon ieuanc.

Bore dranoeth, aeth Huw i ddanfon ei deulu at y llong oedd yn barod i gychwyn o'r porthladd.

Ni chymerwn arnom geisio cofnodi na desgrifio yr ymadawiad. Yr oedd yn rhy gysegredig a theimladol i'n hysgrifell ni wneud cyfiawnder âg ef. Ni fydd i ni ychwaith adrodd helyntion y fordaith i Lynlleifiad. Cyrhaeddasant y dref fawr, a daeth Owen Huws, brawd William, i'w cyfarfod, ac arweiniodd hwynt tua'r heol lle'r oedd ef yn preswylio ynddi, gan ymddangos yn falch cael eu croesawu.

Nodiadau

[golygu]