Huw Huws neu y Llafurwr Cymreig/Y Diweddglo
← Pennod XIV | Huw Huws neu y Llafurwr Cymreig gan Lewis William Lewis (Llew Llwyfo) |
→ |
DIWEDDGLO.
Ehedodd yspryd Mari, y noson hono, at Dduw, a'r geiriau olaf a glywyd o'i genau, oeddynt
"Yn y dyfroedd mawr a'r tonau
Nid oes neb a ddeil fy mhen,
Ond fy anwyl Briod Iesu,
'Rhwn fu farw ar y Pren."
Ceisiwyd pob cymorth meddygol i Lowri; ac er iddi gael adferiad i deimladrwydd, ni fu hi byw ddim ond am ddau ddiwrnod. Nid allodd, gan ei gwendid, fynegu ond ychydig o'i hanes. Cyfaddefodd mai ei balchder a'i dirywiodd, a'i bod wedi gwerthu ei diweirdeb am wisgoedd gwychion. Yr oedd ei hangau yn arswydus, —ei chydwybod o'i mewn fel arthes wedi colli ei chenawon, a threngodd mewn dychrynfeydd annesgrifiadwy.
Aeth Huw, gyda'i rieni a'i chwaer fach, Sarah, yn ol i Gymru. Defnyddiodd ei dri chan punt i brynu y Ty Gwyn; ac yno y treuliodd William a Marged Huws weddill eu hoes; machludodd haul eu heinioes mewn tawelwch tangnefeddus. Yno hefyd y cartrefodd Huw Huws dros ystod rhelyw ei fywyd, ac yr oedd ei fuchedd yn tueddu at roddi pwysigrwydd, urddas, a pharchusrwydd ar nodweddiad
Y LLAFURWR CYMREIG.