Hyfryd lais efengyl hedd

Oddi ar Wicidestun
O! Arglwydd galw eto Hyfryd lais efengyl hedd

gan Peter Jones (Pedr Fardd)

Eheded iechydwriaeth
Tintoretto, Y Wledd briodas yng Nghana (1545)

300[1] Cyflawnder yr Iechydwriaeth.
76. 76. D.

1 HYFRYD lais efengyl hedd
Sydd yn galw pawb i'r wledd;
Mae gwahoddiad llawn at Grist,
Oes, i'r tlawd newynog trist:
Pob cyflawnder ynddo cewch:
Dewch a chroeso, dlodion dewch.

2 Talodd Crist anfeidrol Iawn
Ar y croesbren un prynhawn;
Llifodd ar Galfaria fryn
Ddŵr a gwaed i'n golchi'n wyn:
Iechydwriaeth sydd heb drai:
Dewch i'r ffynnon, aflan rai.
Galwad yr Efengyl.


Peter Jones (Pedr Fardd)

Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 300, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930