O! Arglwydd galw eto

Oddi ar Wicidestun
O'r nef mi glywais newydd O! Arglwydd galw eto

gan Dafydd Jones o Gaeo

Hyfryd lais efengyl hedd
Byddin yr Iachawdwriaeth

299[1] Galwad yr Efengyl.
76. 76. D.

1 O! ARGLWYDD, galw eto
Fyrddiynau ar dy ôl,
A dryllia'r holl gadwynau
Sy'n dal eneidiau'n ôl;
A galw hwynt o'r dwyrain,
Gorllewin, gogledd, de,
I'th eglwys yn ddiatal—
Mae digon eto o le.

Dafydd Jones o Gaeo


Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 299, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930