Hynafiaethau Edeyrnion/Corwen
← Llansantffraid Glyn Dyfrdwy | Hynafiaethau Edeyrnion gan Hugh Williams (Hywel Cernyw) |
Gwyddelwern → |
CORWEN
Y mae Corwen yn un o blwyfau Edeyrnion, ac yn dref farchnad. Ystyr y gair, medd rhai, yw Côr-wen (the white choir); medd eraill, Corvaen, gan olygu careg mewn cylch oddiwrth y groes a geir yn y fynwent, yr hon oedd mewn bod, mae'n debyg, o flaen yr Eglwys. Dywed eraill mai oddiwrth Corwena, mam Beli a Bran, y deilliodd yr enw; ac eraill drachefn mai Caerowain yw y gwir enw. Dyna ddigon o ddewis i'r darllenydd, ond gwell genym ni fabwysiadu y syniad cyntaf. Pan ymosodwyd ar Ogledd Cymru gan Henri II., yn 1165, neu 1163, fel y nodir yn y Myvyrian, (gwel "Brut y Tywysogion," tudal. 712), daeth ef a'i lu i wersyllu ar fryn Berwyn, yn agos i'r dref hon. Cyfarfyddwyd ef gan fyddinoedd unedig y Cymry, sef byddin y Gogledd, dan arweiniad Owain Gwynedd a'i frawd Cadwaladr; byddin y Deheubarth, dan orchymyn Rhys ab Gruffydd; Powys, dan Owain Cyfeiliawg, a meibion Madoc ab Meredydd; gwyr y berfeddwlad rhwng Gwy a Hafren, dan meibion Madoc ap Idnerth. Gwersyllodd y byddinoedd unedig hyn gerllaw Castell Crogen, a dechreuasant ffurfio amddiffynfa gadarn â'i henw Caer Drewyn, o fewn saith milldir i wersyll y Normaniaid, yn agos i Gastell y Waun. Ar ol hir wylied eu gilydd, ac i luaws o fân ysgarmesoedd gymeryd lle, gorthrechwyd byddinoedd y brenin uchelffroen mor dost, fel y bu raid iddo encilio ar ffrwst am nodded i fynydd Berwyn. Ymddygodd y brenin yn greulon dros ben at y rhai a ddaethant i'w afael, gan yr addefa Hollinshed, ei fawrygwr, ddarfod iddo dynu llygaid yr hoglanciau ieuainc, hollti eu trwynau, a llenwi clustiau amryw foneddigesau. Yr un yw rhyfel yn mhob oes, ac o dan ei ddylanwad gwneir y creulon yn saith creulonach. Mae braidd yn sicr mai y fuddugoliaeth hon yw testun cân Owain Cyfeiliog, yr hon a geir yn y Myvyrian Archæology, tudal. 140, dan yr enw "Hirlas Einir;" a mawr y ganmoliaeth a rydd yr hen fardd i Fugelydd Hafren, balch eu clywed-y ddau lew, sef dau fab Ynyr, cenawon Goronwy, &c.
Yr oedd y lle a elwir Caer Drewyn yn cael ei amddiffyn gan fur cadarn, olion yr hwn sydd eto i'w weled, yn gynwysedig o geryg rhyddion wedi eu gosod yn nghyd, yn rhyw dair llath o led, ac yn tynu at filldir o amgylchedd. Defnyddid y Gaer hefyd gan y dewr Owain Glyndwr. Pa ryfedd hyny, gan mai rhyw dair milldir oddiyma, ar y ffordd i Langollen, ond yn mhlwyf Corwen, y ceir olion un o ben balasau Owain Glyndwr, yn y fan a elwir yn awr Carog,—lle, fel y canodd Iolo Goch am ei balas arall Sycharth, y dangosid mwyneidd-dra nid bychan i'r beirdd a'r teithwyr a gyrchent yno—
"Anodd yn fynych yno
Weled na chlicied na chlo,
Na phorthoriaeth ni wnaeth neb;
Ni bydd eisiau budd oseb,
Na gwall, na newyn, na gwarth,
Na syched byth yn Sycharth.
Llys barwn, le syberwyd,
Lle daw beirdd am le da byd,"
Mae traddodiad yn yr ardal fod hen fwrdd cegin mawr a arferid gan Owain Glyndwr ar gael eto yn ffermdy Carog. Bu amryw o enwogion y Gymdeithas Hynafiaethol Brydeinig yn ei weled ar adeg eu cylchwyl yn Llangollen yn Awst, 1877; ond barnent oll , er fod y bwrdd yn hen, nad oedd mor hen a hyny.
Y mae tref Corwen yn llechu yn nghesail Berwyn, ac yn ymfwynhau ar fin y Dyfrdwy. Y mae y mynydd uchel sydd uwch ei phen yn garedig iawn yn sefyll rhwng ei phreswylwyr a'r ystormydd cryfion y gwyr trigolion y pentrefydd cymydogaethol am danynt, ond fel iawn am ei ragorwaith y mae yn cadw gwyneb yr haul oddiwrthynt am rai wythnosau yn nhrymder y gauaf. Ryw haner milldir i'r de-orllewin o'r dref, ar y ffordd fawr o Lundain i Gaergybi, y mae pontfaen gadarn wedi ei chodi dros yr afon. Oddiar y bont hon ceir y fath olygfa odidog ar yr afon am tua milldir ar i fyny sydd yn ddigon i yru y mwyaf rhyddieithol yn fardd dan eneiniad anian ei hun. Y mae gwyneb yr afon yn ymddangos ar dywydd teg fel gwydr gloyw, ac ar fin yr hwyr gellir gweled y coedydd cyfagos âg wybren y nefoedd yn ymgomio gyda'u gilydd yn y dwfr. Ar ochr Berwyn mae lle a elwir sedd Owain Glyndwr, neu Ben-y-pigyn, lle, yn ol hen draddodiad hygoelus, y darfu i Owain daflu dagr, yr hon wrth ddisgyn ar gareg a wnaeth argraff ddofn haner modfedd o hyd. Y flwyddyn y priododd Tywysog Cymru gyda'r Dywysoges Alexandra darfu i'r Corweniaid yn ngrym eu teyrngarwch godi adeilad uchel ar ffurf hen fuddai gnoc i ddathlu yr amgylchiad,, ac i gael lle dymunol i ddyeithriaid weled gogoniant y dyffryn islaw. Y mae plwyf Corwen yn llafn un milldir ar ddeg o hŷd, ac o dair i bedair o led. Cynwysa 12,646 o erwau, y rhai a ddosberthir i 1,744 o dir llafur, 3,590 o dir porfa, 700 yn goed-dir, a 6,612 yn fynydd-dir. O fewn y plwyf hwn ceir palas hynafol y Rhug, lle y preswylia yr Anrhydeddus C. H. Wynn, ail fab Arglwydd Newborough o Glyn Llifon, disgynydd un o Bymtheg Llwyth Gwynedd, yn llinach Cilmin Droed-ddu. Y mae Rhug yn enwog ar ddalenau hanesiaeth Gymreig fel trigle llawer pendefig haelfryd, a noddwr clyd i iaith, llenyddiaeth, a defion y Cymry. Ond nid dymunol yw pob adgof am y lle. Yn agos i Rug y bradychwyd y tywysog dewr Gruffydd ab Cynan. Bu ef a Rhys ab Tewdwr o'r Deheubarth mewn brwydr gyda Trahaiarn ar fynydd Carno, yn sir Drefaldwyn, yn y flwyddyn 1099. Enillodd y fuddugoliaeth, fel y daeth coron dywysogol ei hynafiaid yn eiddo iddo. "Ond byr fel llygedyn o haul ar ddiwrnod tymestlog fu llwydd a rhwysg Gruffydd, canys y bradwr Meirion Goch a'i hudodd i grafangau Iarll Caerlleon, Llwyddodd hwnw trwy ffalsder i gael ganddo gyfarfod yn gyfeillgar âg Ieirll Caerlleon ac Amwythig, y rhai a ddarparasent gorff mawr o filwyr i ymguddio gerllaw. Cymerodd y cyfarfyddiad le gerllaw Rhug, uwchlaw Corwen, a daliwyd Gruffydd, gan ei ddwyn i Gastell Caerlleon, lle y bu yn garcharor am 12 mlynedd. Ei. warchodlu a ollyngwyd ymaith, eithr nid cyn tori ymaith y fawd oddiar law ddehau pob un o honynt. Hyn o greulonder a gyflawnwyd arnynt er eu hanghymhwyso i ddwyn cleddyf o hyny allan. Felly am 12 ml bu Gwynedd yn gruddfan dan ormes yr estron Huw Lupus, Iarll Caerlleon, a'r Tywysog Gruffydd ab Cynan yn dihoeni yn nghastell ei gormesydd; ac ar derfyn yr amser hwnw Cynfrig Hir a fu yn foddion ei waredigaeth."— (Enwogion Cymru, gan 1. Foulkes, tudal. 426).
Heb fod yn mhell o Rug saif Coed-y-Fron. Dywed llên gwerin fod brawd i'r Barwn Cymer, yr hwn a drigai yn Gwerclas, yn byw yn Ucheldref, a'i fod wedi cael addewid y cai feddianu Coed-y-Fron am yr ysbaid angenrheidiol i dyfu tri chnwd. Yr oedd y Barwn yn naturiol yn meddwl fod ei frawd yn myned i hau rhyw rawn cyffredin ynddi, ond mawr oedd ei siomedigaeth pan ddeallodd ei fod wedi hau cnwd o fês ynddi; ac os gwir y traddodiad, mae yn dra thebyg mai digon prin y mae yr ail gnwd wedi cael ei gludo eto allan o honi. Fodd bynag, mae tyrfa fawr o frain yn preswylio yn y lle yn wastad, pa rai, ar ol bod yn ddiwyd iawn yn degymu hadau gwerthfawr, ac yn trethu amynedd amaethwyr Edeyrnion yn y dydd, a ddychwelant i dangnefedd heddychol Coed-y-Fron i orphwys dros nos.
Y mae Eglwys Corwen wedi ei hadeiladu mewn arddull Francaidd yn hytrach na Seisnig, ac yn cynwys tŵr llydan ar y pen gorllewinol. O dan fwa, yn y pen gogleddol i'r gangell, ceir bedd un o'r Ficeriaid boreuol o'r enw Iorwerth Sulien, yn ddangos mewn cerfiad ar ffurf ddynol, ac o dano yr ysgrifen ganlynol mewn hen lythyrenau: "Hic jacet Iorwerth Sulien vicarius de Corwaen ora pro eo." Y mae yn y fynedfa i'r Eglwys gareg bigfain a elwir "Careg y Big yn y fach rewlyd;" a'r tra- ddodiad yn ei chylch ydyw fod pob ymgais at adeiladu yr Eglwys mewn man arall wedi troi yn fethiant, a bod y sylfaenwyr wedi cael eu harwain mewn modd uwchnaturiol at y lle y saif y gareg hon. Y mae Capel y Rug wedi ei godi, fel y tybir, yn 1637, am fod perchen y Rug yn cwyno o herwydd bod gorlifiad yr afon yn ei atal yn fynych i Eglwys y plwyf. Gadawodd Syr R. W. Vaughan, Bar., yn 1859, y swm o £2,000 fel gwaddoliad tuag at gynaliaeth y curad fo yn gweinyddu yn y lle. Dyma restr o Berigloriaid a Ficeriaid Corwen, a blynyddau eu sefydliad :- Perigloriaid—Roger Ellis, 1537; L. Pyddleston, 1551, (collodd ef y swydd am iddo gyflawni y trosedd o briodi); M. Clennock, LL. B., 1556, (pe buasai Mari fyw ychydig yn hwy cawsai ei ddyrchafu i Esgobaeth Bangor, ond gan iddi farw bu gorfod iddo ffoi i Rufain); E. Meyric, 1560; H. Rainsford, A.M., 1606; O. Eyton, A.M., 1666; W. Wells, 1705; John Wynne, 1727; L. Palmer, 1748; J. Morgan, B.A., 1750; W. D. Shipley, A.M., 1774; Dr. Prettyman, 1782, (cafodd ef ei wneud yn Esgob Lincoln yn 1787); J. Prettyman, 1786; R. Sneyd, LL. B., 1796; J. Dean, B.A., 1808; W. Cleaver, M. A., 1809; J. F. Cleaver, 1812. Ficeriaid-J. Toone, 1533; L. ap David, 1533; R. Salesbury, 1573; J. Roberts, 1578; H. Ednyvet, A. M., 1581; R. Humphreys, 1624; A. Spark, 1637; E. Powell, A.M., 1639; A. Maurice, A.M., 1641; R. Edwards, 1660; O. Eyton, 1665; K. Eyton, A. M., 1705; W. Humphreys, 1713; R. Parry, A.B., 1747; R. Lewis, A.B., 1747; H. Williams, A.M., 1792; R. B. Clough, M.A., 1797; R. B. Clough, 1811; Morgan Hughes, 1830. Sefydlodd y Periglor presenol, y Parch. W. Richardson, M.A., yn 1867. Hyd 1863 yr oedd Glyndyfrdwy yn perthyn i blwyf Corwen, fel y mae eto yn wladol; ond y pryd hwnw ffurfiwyd tref-ddegwm Carog, Mwstwr, a Thirllanerch, a rhanau o drefi Bonwm a Rhagad, i wneud plwyf eglwysig; ac ni a roddwn yma enwau y Ficeriaid sydd wedi bod yno yn gweinyddu o adeg adeiladiad yr Eglwys yn 1859 hyd yn bresenol:—D. Morgan, 1859; E. Evans, 1865; Davies, 1871; R. Owen, 1876. Y mae yn Nglyndyfrdwy hefyd gapeli gan y pedwar enwad ymneillduol, a dwy ysgol ddyddiol, fel mai anfynych iawn y ceir lle mor fychan wedi ei freintio â chynifer o adeiladau crefyddol ac addysgol. Yn mhlith yr Ymneillduwyr y Methodistiaid Calfinaidd a sefydlasant gyntaf yn Nghorwen. Dechreuasant trwy bregethu tua 1790, yn nhŷ un John Cadwaladr, Cyfrwywr; a buont drachefn yn llofft yr Harp, tŷ a gedwid ar y pryd gan Richard White. Sefydlwyd Ysgol Sul yn 1798, a chodwyd capel yn 1803. (Gwel Methodistiaeth Cymru, gan J. Hughes, cyf. 1.). Cawsant eu gwawdio yn helaeth, a'u herlid yn chwerw yn y blynyddau cyntaf; ond aethant ar gynydd cyflym drwy'r cwbl. Yn mhen tua chwarter canrif ar eu hol dechreuodd y Wesleyaid gynal cyfarfodydd crefyddol; yna daeth yr Annibynwyr; ac yn olaf y Bedyddwyr. Y mae gan y pedwar enwad bellach gapelau prydferth, ac achosion lled flodeuog. Y gweinidogion presenol ydynt y Parchedigion W. Williams, (T.C.); J. Pierce, (W.); J. Pritchard, (A.); a H. C. Williams, (B.).
O'r tucefn i Eglwys y plwyf ceir chwech o dai cyfleus wedi eu hadeiladu yn 1750 gan William Eyton, Ysw., o Blas Warren, yn sir Amwythig, er mwyn bod yn drigle i weddwon offeiriaid. Yn un o'r tai hyn y preswylia yn bresenol weddw a merched yr hynafiaethydd godidog, y llenor trylen, a'r Cymro aiddgar Ab Ithel, am yr hwn y dywed Elis Wyn o Wyrfai:—
"Fe wridai y gwladfradwr—ger ei fron,
Gwyrai frig athrodwr;
Lle byddai dystawai stŵr,
Ceuai genau'r coeg hònwr."
Y mae Mrs. Williams yn derbyn blwydd-dâl oddiwrth y Frenhines fel cydnabyddiaeth o wasanaeth ei phriod i lenyddiaeth ei wlad.
Cynwysai poblogaeth plwyf Corwen, yn ol deiliadeb 1871, 2,464 o drigolion, tua 1,100 o ba rai a breswyliant yn y dref. Y mae yn myned ar gynydd parhaus, gan fod chwarel Penarth drwy ddyhewyd J. P. Jones, Ysw., a Mr. Phillips, yn rhoddi gwaith i gynifer o feibion llafur, a bod llinell y Great Western wedi rhoddi bywyd newydd yn y lle. Yr anfantais tuag at adeiladu yw fod y dyffryn mor gul. Yn achlysurol bydd y Dyfrdwy yn tori ar draws pob deddf, a ffrwd y mynydd, fel y dywed Rhuddfryn, yn d'od "ar ei phen yn rhaff ewynog." Nos Lun, Awst 3, 1846, ymwelwyd â'r lle gan daran-dymhestl ddychrynllyd, yr hon a barodd niwed i feddianau, a cholled i fywydau. Ceir yn ngwaith barddonol Cynddelw luaws o englynion ar yr amgylchiad. Dyfynwn a ganlyn:—
"Adeg du osteg a dwysder—ydoedd,
Ie, adeg dwfn brudd-der;
Mal fai pang drwy'r eangder,
Gan lesgau hyd seiliau'r ser.
"Curwlaw mawr dirfawr dyrfau—ddylifodd
Gan ddolefain gwaeau
Dinystr fel môr a'i donau
Y nos hon sy'n ymnesan.
"Tre Gorwen addien huddwyd—â dystryw,
Dwysder gaed yn Nghynwyd;
Bro lon Edeyrnion—darniwyd
Yr holl le gan lifddwr llwyd."