Hynafiaethau Edeyrnion/Gwyddelwern

Oddi ar Wicidestun
Corwen Hynafiaethau Edeyrnion

gan Hugh Williams (Hywel Cernyw)

Llangar


GWYDDELWERN

Ystyr y gair Gwyddelwern, yn ol y Dr. W. O. Pughe, yw "tir rhoslyd yn llawn prysglwyni (a moor or meadow overgrown with bushes);" ac wrth edrych ar ansawdd y fan, cawn le i gredu fod a fyno hyn fwy âg enw y lle nag sydd gan Wyddelod yr Ynys Werdd, yn ol yr hen dyb werinaidd. Ceir amryw enwau yn y plwyf, megys y Wern Ddu, Ty'nywern, &c., yn dynodi yr un peth. Y mae y plwyf yn mesur 9,127 o erwau o dir, a'r boblogaeth, yn ol deiliadeb 1871, yn 1468. Y mae Eglwys y plwyf, yr hon sydd wedi ei chysegru i Beuno Sant, yn ymddangos yn dra hynafol, a bellach mewn cyflwr lled adfeiliedig. Ceir yn y pentref gapeli heirdd perthynol i'r Methodistiaid Wesleyaidd a Chalfinaidd, ac yn y plwyf ceir capeli hefyd gan y Bedyddwyr a'r Annibynwyr. Adeiladwyd yma ysgoldy ardderchog gan y Bwrdd Ysgol yn 1872, lle y mae llawer o'r meddyliau ieuainc yn cael cyfeiriad da i brif-ffordd gwybodaeth gan Mr. D. Owen. Ceir gweddillion hen gaerfa Brydeinig yn nosbarth Llwchmynydd, heb fod yn nepell o'r Bettws; a rhyw dri chwarter i'r de o bentref Gwyddelwern ceir twmpath gwneuthuredig a elwir Tomen y Castell. Ar ffordd Rhuthyn, rhyw ddwy filldir o'r pentref, ceir lle a elwir Bryn Saith Marchog, am i Owain Glyndwr gymeryd yr Iarll Grey a'r saith marchog yn garcharorion. Yn agos i'r Bryn hwn yr oedd hen gapel Llanaelhaiarn, yr hwn a enwir yn y Myvyrian fel un o blwyfau Edeyrnion; ond mor wancus fu Gwyddelwern fel y llyncodd y plwyf hwn yn hollol, ac y mae fel gwartheg culion Pharaoh heb fod lawer tewach yn y diwedd, gan fod plwyf Llangar mewn modd eglwysig wedi llyncu Bodheulog a Chynwyd fechan, a Llawr-y-Bettws wedi llyncu Perseithydd.

Ond yn wladol mae Cynwyd o hyd yn mhlwyf Gwyddelwern, a hynod chwithig yw hyny, gan fod tafell o blwyf Corwen yn rhedeg drwy ei ganol. 'Pan y deuwn i'r lle hwn cawn gyfoeth o olion hynafiaethol, a chronfa o hen draddodiadau am Gymru fu. Er fod Cynwyd yn golygu y drwg cyntaf, neu yr ysgelerder mwyaf, rhy ddrwg yw cysylltu hyny â'r lle hwn, gan nad oes genym un sail i gredu mai yma y syrthiodd dynolryw, er fod lleoedd o'r enw Plas Adda a Moel Adda o fewn ychydig filldiroedd. Haws credu ei fod wedi cael yr enw oddiwrth Cynwyd ab Cynwydion, yr hwn, meddir, oedd dywysog rhyfelgar a galluog yn preswylio yn Edeyrnion, ond yr hwn mewn amser a ymneillduodd i arwain bywyd meudwyaidd. Crybwyllir am dano gan awdwr Drych y Prif Oesoedd fel un a ddygodd i fyny dyaid o blant mewn modd canmoladwy. O fewn haner milldir i'r pentref hwn y saif y "Cae Mawr," neu Cymer, fel y gelwid ef unwaith. Sonir llawer am hen farwniaid Cymer, eisteddle ddiweddaraf pa rai oedd y Gwerclas. Yn achau Spencer Bulkeley Wynn, Barwn Newbrough, a gyhoeddwyd yn Ngolud yr Oes, gan yr hynafiaethydd medrus Gwilym Lleyn, ceir a ganlyn:"Magdalen Rogers, etifeddes Bryntangor, a anwyd Awst 13, 1623. Priod- odd yn 21 oed & Humphrey Hughes, Ysw., o'r Gwerclas, sir Feirionydd, XI. Barwn Cymer yn Edeyrnion." Gwelir man beddrod rhai o Hughesiaid y Gwerclas yn mynwent Llangar gyda beddargraffiadau Lladin arnynt. Rhyw ddwy filldir o Gynwyd, ar lyn Mynyllod, ceir ynys nofiadwy. Yr hen draddodiad gwerinaidd yn ei chylch oedd, os buasai yn symud tua Chorwen y byddai i'r farchnad ostwng, os tua'r Bala y byddai iddi godi! Mae ynysoedd o'r fath ar lynoedd Cumberland, ac y mae pobl yn gallu eu hesbonio bellach heb gymhorth ofergoeledd. (Gwel Bygones, 1872). Dyma restr o Ficeriaid Gwyddelwern :-D. ap John, 1537; Galfrid ap Ienu, 1538; G. ap John, 1540; J. ap Harri, 1560; P. Roberts, 1594; G. Hughes, 1632; J. Foulkes, 1639; S. Lewis, 1643; T. Williams, 1662; J. Foulkes, 1675; R. Jones, 1678; D. Wyane, 1685; W. Jones, 1689; J. Lloyd, 1691; R. Wynne, 1702; Edward Wynne, 1713; David Davies, 1740; R. Evans, 1753; W. Evans, 1770; R. Maurice, 1786; R. B. Clough, 1791; J. Mostyn, 1797; T. Hughes, 1801; J. Jones, 1809; D. L. Jones, 1829.

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Gwyddelwern
ar Wicipedia