Hynafiaethau Edeyrnion/David Hughes (Eos Ial)
Gwedd
← Edward Evans (Iolo Gwyddelwern) | Hynafiaethau Edeyrnion gan Hugh Williams (Hywel Cernyw) |
Gruffydd ab Cynan → |
DAVID HUGHES (Eos Ial) oedd fardd yn byw yn Morfydd, Llansantffraid. Dringodd drwy gryn anhawsderau i safle led uchel fel cyfansoddwr. Cyfansoddodd amryw fân lyfrau, a byddai yn arfer a'u hargraffu ei hunan, a myned yma a thraw i'w gwerthu. Yr oedd ganddo gryn allu i oganu drwg-arferion, a mynych y defnyddiai ei ffrewyll at ofergoeledd a ffolineb yr oes. Claddwyd ef yn mynwent y Bedyddwyr, Llansantffraid, tua 1860.