Hynafiaethau Edeyrnion/Edward Evans (Iolo Gwyddelwern)

Oddi ar Wicidestun
Dafydd William Pyrs Hynafiaethau Edeyrnion

gan Hugh Williams (Hywel Cernyw)

David Hughes (Eos Ial)

EDWARD EVANS (Iolo Gwyddelwern) a anwyd yn y Tyddyn. Bychan, yn mhlwyf Gwyddelwern, yn 1786. Yr oedd yn nai fab chwaer i Thomas Edwards (Twm o'r Nant), a diau ei fod yn tebygu cryn lawer mewn gallu awenyddol i'r hen athrylith hwnw. Ni feddai ar feiddgarwch a gwylltineb awen Twm, ac ni anurddid ei waith gan gynifer o wallau chwaith. Eto, er yn nghanol rhwystrau, meddienid ef â rhyw feiddgarwch tawel i gystadlu â chewri yr oes ar brif bynciau yr amser, fel y dengys y dyfyniad canlynol o restr cynwysiad ei lyfr, yr hwn sydd yn meddiant Rhuddfryn mewn cyflwr destlus:—Awdlau ar Roddiad y Ddeddf ar Sinai; Gwledd Belsassar; Elusengarwch; Abraham yn Offrymu Isaac; Dewrder Caradog; Marwnad Dafydd Ddu o Eryri; Marwnad Dafydd Penant; Gwaeddolef uwchben Brenin— llys Angeu; yn nghyda lluaws o gywyddau, cerddi, a charolau. Brawd iddo ef oedd Evan Evans, sylfaenydd Cymdeithas y Cymreigyddion yn Lerpwl. (Gwel llyfr R. Davies. Nantglyn). Wele engraifft o'i waith allan o'r awdl ar "Roddiad y Ddeddf"—


"Gwedi trimis o gyd-dramwy—Duw a ddaeth,
Dydd oedd ddychrynadwy;
Efo nodwaith ofnadwy
Pryd el farn—pa raid ei fwy?

"I roddi el arwyddair—i Israel
Addasrwydd ei gynghrair,
A dewis bywyd diwair,
Nod eang yw mewn deng air.

"Sinai oedd dan greision wawr—fflam amwyth
Yn fflamau echrysfawr;
Amwyll derfysg, mellt dirfawr
Yn troi'n mwg taranau mawr."

Bu farw yn 1853, a chladdwyd ef yn mynwent Llanfwrog, Rhuthyn, gyda'r englyn canlynol o'i waith ei hun yn gerfiedig ar gareg ei fedd:—

"Llom walan lle mae Iolo—Gwyddelwern
Ga'dd alwad i huno,
Dan wisg llygredd, dynfedd do,
Hyd esgyn i'w adwisgo."


Nodiadau[golygu]