Hynafiaethau Edeyrnion/Edward Jones (Bardd y Brenin)

Oddi ar Wicidestun
Edward Jones (Bathafarn) Hynafiaethau Edeyrnion

gan Hugh Williams (Hywel Cernyw)

Edward Jones (Britwn Ddu)
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Edward Jones (Bardd y Brenin)
ar Wicipedia

EDWARD JONES, neu Bardd y Brenin, telynor enwog, a anwyd mewn ffermdy o'r enw Henblas, yn mhlwyf Llandderfel, sir Feirionydd, yn y flwyddyn 1752. Yr oedd ei dad yn meddu cryn lawer o awen gerddorol, canys nid yn unig gallai chwareu amryw offerynau cerdd, ond medrai hefyd eu saernio. Dysgodd i ddau o'i feibion, Edward a Thomas, chwareu y delyn Gymreig, mab arall i chwareu y Spinnet, ac arall y crwth, ac yntau ei hun a chwareuai ar organ. Tua 1774 aeth Edward i fyny i Lundain, o dan nawdd amryw foneddigion Cymreig. Ystyrid ef yn delynor campus, o herwydd ei allu i arddangos chwaeth, teimlad, a phwysleisiad priodol gyda'r offeryn. Cafodd gefnogaeth wresog, a bu yn rhoddi gwersi ar y delyn i luaws o foneddigesau uchelradd. Penodwyd ef yn delynor i Dywysog Cymru yn 1783, ond nid oedd y swydd hono ond un fygedol a didal Yn 1784 cyhoeddodd ei lyfr tra gwerthfawr hwnw, "Musical and Poetical Relics of the Welsh Bards," yr hwn a ailargraffwyd gyda chwanegiadau yn 1794. Cyhoeddodd hefyd lyfr arall o'r un natur yn 1802, o dan y teitl, "Bardic Museum of Primitive British Literature". Y mae y rhai hyn yn llyfrau gwir werthfawr a dyddorol, ac yn cynwys sylwadau ar yr hen alawon Cymreig. Yn 1820 cyhoeddodd ran o gyfrol arall, eithr lluddiwyd ef i'w gorphen gan afiechyd. Bu hefyd yn dra diwyd yn casglu hen lyfrau prinion, ac yr oedd ganddo ystorfa helaeth a gwerthfawr o'r cyfryw; ond gan ddyfod o hono yn analluog i ddilyn ei broffeswriaeth, a'i fod yn meddu ysbryd rhy annibynol i hysbysu ei gyfeillion o'i gyfyngder, efe a'i gwerthodd hwynt a rhan fawr o'i lyfrgell er mwyn cael arian at fyw. O'r diwedd hysbyswyd ei galedi i lywodraethwyr Cymdeithas Frenhinol y Cerddorion, y rhai yn ddioedi a roddasant iddo y swm o £50 yn y flwyddyn, yn ddiarwybod iddo ei hun hyd oni dderbyniodd yr arian. Pa fodd bynag, ni chafodd ond byr amser i'w mwynhau, a bu farw yn Marylebone, Ebrill 18, 1824, yn 72 oed. Gadawodd o'i ôl luaws o lyfrau prinion, a thwysged o gerddoriaeth, y rhai a arwerthwyd yn gyhoeddus yn Chwefror, 1825, a chafwyd am danynt £500, ac yr oedd yntau ei hun wedi gwerthu gwerth £300 cyn hyny. Y mae y llyfrau a gyhoeddodd yn ddigonol dystiolaeth i'w allu a'i athrylith. Ffrwyth deugain mlynedd o lafur ac ymchwiliad ydynt, a chludir ei enw ganddynt yn anrhydeddus i'r dyfodiant—Geiriadur Lerpwl, tudal. 584).


Nodiadau[golygu]