Hynafiaethau Edeyrnion/Edward Jones (Britwn Ddu)
Gwedd
← Edward Jones (Bardd y Brenin) | Hynafiaethau Edeyrnion gan Hugh Williams (Hywel Cernyw) |
Meirion Goch → |
EDWARD JONES (Britwn Ddu) oedd fardd lled dda yn byw yn Bodorlas, ger Llansantffraid, Bu farw yn 1876, yn 85 ml. oed. Cystadleuodd gryn lawer yn anterth ei ddyddiau, a bu yn fuddugol amryw weithiau. Enillodd y wobr flaenaf ar englynion i "Longddrylliad" yn Eisteddfod Corwen, Gwyl Dewi, 1827, pryd y rhanwyd yr ail wobr rhwng Eos Ial a R. Thomas, Llanuwchllyn, sef Ap Vychan, Bala, yn awr. Ceir yr englynion (24 mewn nifer) yn y Gwyliedydd am Awst, 1827.