Hynafiaethau Edeyrnion/Elis Cadwaladr
← Enwogion Edeyrnion | Hynafiaethau Edeyrnion gan Hugh Williams (Hywel Cernyw) |
Parch. R. B. Clough, M.A. → |
ELIS CADWALADR.—Preswyliai ef yn Llandrillo, lle y blodeuai fel bardd o 1707 i 1740. Efe oedd y prif fuddugwr yn Eisteddfod y Bala dydd Llun y Sulgwyn, 1738. Y barnwr oedd y Parch. Edward Wynne, Ficer, Gwyddelwern, yr hwn a anerchodd yr holl gynulleidfa mewn barddoniaeth ganmoliaethol, gan ddweyd am Elis Cadwaladr—
"Goreu i gyd, gwr y gadair."
Yr oedd E. Cadwaladr yn dra chelfyddgar yn y mesurau caethion, fel y prawf yr englynion a gyfansoddodd i'w gosod ar fedd Huw Morris o Bontymeibion. Y mae ei gân a elwir "Clod i ferch," yn dangos y gwyddai fwy na llawer o'i gydoeswyr am enwau clasurol. Dyma englyn o'i waith i "Gywergorn Telyn,"
"Tair pibell i gymell y gân—awr felus
Ar fodrwy liw arian;
Tynu mae y tanau mân
Tlws eurgordd at lais organ."