Hynafiaethau Edeyrnion/Enwogion Edeyrnion

Oddi ar Wicidestun
Bettws Gwerfil Goch Hynafiaethau Edeyrnion

gan Hugh Williams (Hywel Cernyw)

Elis Cadwaladr

PENOD II.

ENWOGION EDEYRNION

GALL y parth hwn o Gymru ymffrostio iddo fod yn drigle cynifer o wŷr enwog mewn gwahanol gylchoedd. "Yn mhob gwlad y megir glew, ac felly magwyd amryw wŷr glewion ar lanau y Dwrdu neu y Dyfrdwy. Bu lluaws o hen deuluoedd clodwiw yn byw yn y palasau a'r tai mawr yn yr ardaloedd. Mae Carog, Rhagad, Rug, Ucheldre, Maesmor, Bryntangor, Hendreforfydd, Gwerclas, Hendwr, Cilan, Cefnbrychdwn, ac eraill, yn enwau tai y cyfarfyddir â hwy yn fynych yn hanesiaeth yr ail ganrif ar bymtheg. Bu teulu urddasol yr Huwsiaid oeddynt arglwyddi Cymer yn preswylio yn Ngwerclas, y rhai oeddynt nodedig am eu teyrngarwch i'r brenin, a'u dylanwad yn cael ei deimlo gan y wlad oddiamgylch. Gellid cyfeirio at amryw o deuluoedd eraill o gryn fri yina a thraw, ond mae agwedd cymdeithas yn newid gyda threigliad amser, ac iselwyr un oes yn cael eu haner addoli gan oes arall. Gwna ystormydd gauaf wawd o hen balasau, a gellir dweyd am lawer lle-

Drain ac ysgall mall a'u medd,
Mieri lle bu mawredd.

Ond teilynga cŷff y Salusbriaid o Rug fwy o sylw na nodiad wrth fyned heibio, yn enwedig pan gofiom fod William Salusbury o'r Cae Du, Llansanan, y cyfieithydd hyglod, yn dwyn perthynas â hwy.

Yr oedd John Salusbury o Rug yn un o'r boneddigion a awdurdodid yn "llythyr cynwys" y Frenhines Elizabeth wrth alw Eisteddfod Caerwys, yn 1567, i ddarostwng clerfeirdd segur, diawen, a diwaith, ac i ddyrchafu y gelfyddyd i urddas teilwng.

Beth ellir wneud yn well na gadael i "Garmon" y Gwyliedydd, sef y Parch. Walter Davies (Gwallter Mechain), lefaru ar hanes y teulu hwn? Yr oedd Gwallter yn arwyddfardd galluog, yn llenor medrus, ac yn abl i beri i iaith y Cymro fyned yn fyw o flodau dan ei ddwylaw. Fel hyn y dywed:—

"Yn ol deongliad dameg fflangell y Philistiaid,—'Allan o'r bwytäwr y daeth bwyd, ac o'r cryf y daeth allan felysdra;' felly, oddiar wraidd y Saeson cleddyfrudd, a'r Normaniaid saeth-anelawg, y tarddodd trwydd cnydfawr, toreithiog o fendithion tymorol ac ysbrydawl, i Gymru dlawd a gorthrymedig. Y Salsbriaid oeddynt o áach Normanaidd, a dywedir mai gyda Gwilym y Goresgynydd y daeth y cyntaf o'r enw i'r ynys hon, yn y fl. 1066. Yn ol llyfrau yr Arwyddfeirdd, mab i'r Salsbri cyntaf yn Nyffryn Clwyd, oedd Ioan Salsbri, a fu farw yn y fl. 1289; a Mr. Peter Elis a ddywed mai mab i hwn oedd Syr Harri Ddu, enw tra adnabyddus i hen delynorion Gwynedd: ond Reinallt a ddywed mai y pedwerydd Salsbri yn Nghymru oedd yr Harri Ddu uchod, ac iddo briodi Nest, wyres i Ithel Fychan, a marw yn y fl. 1289. Trwy fynych ymbriodi ac ymgyfathrachu âg etifeddesau Cymreig, daeth y Salsbriaid, fel rhai Normaniaid gwiwgof eraill, o enwau Herbert, Stradling, Basset, Tuberville, &c., yn Gymry gwladgar, o barth gwaed, ac iaith, a serchiadau. Yn Marwnad Syr John Salsbri, hynaf, o Leweni, dywed William Lleyn megys

wrth y marw—

"Y Sesiwn gwyddys eisiau
Eich doeth fron a'ch DWY-IAITH frau."

Ac am y Salsbríaid, a'u syberwyd tuag at feirdd a cherddorion, y dywed S. Tudur, yn ei Awdl Briodas i John Salsbri o Rug, a Bachymbyd-

"SION Eryr y gwŷr i gyd—SION wrol,
SION eurwalch Bachymbyd—
SION fwyaf son i'w fywyd,
SION ben ar bawb sy'n y byd.


'Y gwŷr o raddau a gar roddion
Hap a roed iddynt y Prydyddion,
A gwŷr o ddwyradd o gerddorion,
A chroew iaith a Chrythorion—
NADOLIG, a SULGWYN, o delon'-BASG & MAI
Er maint a ddeuai, croesawai SION.'

"Pais-arfau y Salsbriaid yn gyffredin oedd-'Maes rhudd, Llew ar ei ysglyfnaid arianaidd, a choron euraidd, rhwng tair lloeren o'r trydydd lliw.' Dengys hyn eu Cymreigyddiad; herwydd bod arfau y Cymry yn fwy llewawg o lawer nag arfau y Saeson. Anfynych y gwelir Arfbais bedranawg Gymreig heb lew yn rhyw gwr iddi.

"Mr. Pennant a dybiai ddyfod y Salsbriaid i Lleweni (llys yr hen Farchweithian, un o bymtheg llwyth Gwynedd yn yr 8fed canrif) cyn amser Harri y trydydd: ond nid yw hyn debyg, canys yr oedd Dafydd, brawd 'Llywelyn y llyw olaf,' yn arglwydd Dinbych yn nheyrnasiad Edward y cyntaf; ac yn ei gwyn at Archesgob Caergaint y mae yn achwyn ar drais a gorthrech Saeson Caerlleon, ac eraill, am dori a chludo ymaith ei goedydd ef yn Lleweni, heb ei genad ef. Y mae hyn yn hanesiaeth awdurdodawl, ac felly nid tebyg i'r Salsbriaid feddianu Llys Marchweithian nes y dienyddiwyd Dafydd, arglwydd Dinbych, gan ei elynion cigyddaidd yn Amwythig, yn y fl. 1282. Ond pa bryd bynag y daethant i Leweni, ni buont bir cyn lledu eu hesgyll, a pherchenogi nifer o balasau a threftadaethau yn swyddau Dinbych, Fflint, a Meirion; canys ni a'u cawn yn Bachymbyd—Rug—Bachegraig—Yr Ystoc—Lleproc—Llanrhaiadr—Llywesog —Clocaenog—Llanfwrog—Maes Cadarn—Gwytherin—Dol-beledr—Llandyrnog.

"Ond 'golud yn ddiau a gymer adenydd, ac a eheda ymaith, megys eryr tua'r wybr.' Enwau a theuluoedd a ymddangosant yn fawr eu rhwysg, ac a ddiflanant. Felly o'r Salsbriaid llydain eu hesgyll, nid oes heddyw—'prin ddau, lle yr oedd gynau gant' -neu lai na dau, canys ar wibfeddwl ysgafn nis gwn ond am un tylwyth cerbydawg, boneddwiw, o'r enw, a hwnw nid yn Nwynedd ond yn Ngwent." (Gwel y Gwyliedydd am Mehefin, 1826; hefyd Traethodau Llenyddol Dr. Edwards.)

Y mae y bargyfreithiwr hyawdl E. G. Salusbury, Ysw., gynt A.S. dros Gaerlleon, yn hawlio ei ddisgyniad o'r llinach enwog.

Bellach sylwir yn fras ar hanes amrywiol bersonau a godasant i hynodrwydd yn y cwmwd:—

Nodiadau[golygu]