Hynafiaethau Edeyrnion/Lanfihangel Glyn Myfyr

Oddi ar Wicidestun
Llandderfel Hynafiaethau Edeyrnion

gan Hugh Williams (Hywel Cernyw)

Bettws Gwerfil Goch

Rhaid i ni groesi y mynydd bellach a myned i

LANFIHANGEL GLYN MYFYR.

Saif y pentref ryw saith milldir i'r gogledd-orllewin o Gorwen. Tir mynyddig, amlwg, yw y tir, yn cynwys 4,202 0 erwau, ac yn cymeryd i fewn y trefddegymau Cefnpost, Cysylog, Llysan, a Maesyrodyn, Poblogaeth y plwyf yn 1861 oedd 481. Y mae yr Eglwys yn hir a chul, ond wedi ei harddu yn fawr drwy adgyweiriad yn 1853. Ar y mur yn y pen gogleddol, ceir nodiad dyddorol am flwyddyn y lli, sef 1781, pan chwyddodd yr afon Alwen yn ddirfawr, ac yr oedd cenllif y mynydd yn ddinystriol. Daeth y llifeiriant i mewn i'r Eglwys, gan gario ymaith ran o'r gangell. Sylwa y Parch. D. R. Thomas fod yr arferiad o hel "Blawd y gloch" yn cael ei ddal i fyny gan y clochydd fel ei dâl am alw y plwyfolion i'r Eglwys, ae hefyd yr arferiad gan y plant o hel "Bwyd cenad y meirw," ar nos gwyl yr holl saint. Mae yr arferiad diweddaf hwn yn ffynu o hyd mewn rhanau eraill o Edeymion; gwelais rai o blant Llansantffraid wrth y gorchwyl yn 1876. Elent oddi amgylch y ffermdai gan haner ganu with y drws—

"Dydd da i chwi heddyw,
Bwyd cenad y meirw,"


Ac mewn amryw fanau estynid iddynt deisen fechan wedi ei gwneud at y pwrpas. Brodor o Lanfihangel oedd y Dr. P. Maurice, o Oxford, awdwr enwog, ac amryw enwogion eraill am y rhai y cawn son mewn penod arall. Dyma enwau y boneddigion a fuont yn gweinyddu fel perigloriaid yn y plwyf hwn:- J- Vaughan, 1537; J. Blacken, 1537; L ap David, 1551; J. Vaughan, 1573; H. Owen, 1574; T. Powell, A. M., 1602; H. Owen, 1606; J. Price, A.M., 1618; R. Foulkes, 169; J. Kyffin, 1623; R. Foulkes, A.M., 1629; J. Foulkes, 1662; R. Williams, 1677; D. Wynne, 1689; W. Hughes, B.A., 1729; D. Davies, B.A., 1753; W. Jones, 1760; W. Rowlands, 1799; R. Prichard, 180o; W. Lewis, M.A., 1847; E. Roberts (Elis Wyn o Wyrfai), 1866; E. Evans, 1872.

Nodiadau[golygu]

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Llanfihangel Glyn Myfyr
ar Wicipedia