Hynafiaethau Edeyrnion/Llandderfel

Oddi ar Wicidestun
Llandrillo Hynafiaethau Edeyrnion

gan Hugh Williams (Hywel Cernyw)

Lanfihangel Glyn Myfyr

LLANDDERFEL

Nid yw yr awdurdodau yn cytuno pa le i osod Llandderfel. Dywed y Parch. O. Jones fod rhan o hono yn Nghantref Penllyn, a rhan yn Nghantref Edeyrnion; tra y rhestrir ef yn y Myvyrian Archeology, a chan awdurdodau eraill, yn gwbl yn Mhenllyn. Fodd bynag, ni ddigia Penllyn wrthym am wneud rhai sylwadau ar y lle, i aros i rywun yn y rhanbarth hwnw gymeryd y mater mewn llaw, a'i drafod yn helaethach. Y mae pentref Llandderfel yn sefyll ryw 4 milldir o dref y Bala, a chynwysa y plwyf 7,794 o erwau, gyda phoblogaeth o 968, yn ol deiliadeb 1861. Gwneir ef i fyny o'r chwe' trefddegwm canlynol:-Y Llan, Caerceiliog, Cynlas, Doldrewyn, Nantffrayen, a Selwrn; a dywed Ioan Pedr—"Ystyrir fod Llaethgwm hefyd yn drefddegwm, ond ni chyfrifir hi ar wahan yn y trethiad." (Traethodydd, Ion,, 1877). Yn y rhifyn uchod o'r cyhoeddiad rhagorol a nodwyd ceir yr ysgrif gyntaf o gyfres a fwriadai y Proffeswr Peter ysgrifenu. Ysgrifenai dan y penawd, "Hynafiaethau Penllyn," a chynwysa yr ysgrif gyntaf nodiadau cyffredinol ar y sir, a sylwadau uniongyrchol a manwl ar blwyf Llanuwchllyn. Bwriadai yn y rhifynau canlynol ddilyn yn mlaen gyda'r plwyfau eraill, ond gyda bod y Tradhodydd hwnw allan o'r wasg, yr oedd y

"Cyfaill llon, ffyddlon, di ffug,
Mor bur a gemau'r barug,"

ys dywedai Elis Wyn o Wyrfai, wedi myned i ffordd yr holl ddaear. Colled genedlaethol oedd ei fyned i'w argel wely. Cymer y plwyf ei enw oddiwrth Derfel Gadarn, rhyfelwr cadarn yn y chweched canrif. Yr oedd yn fab i Hywel ap Emyr Llydaw, ac yn un o abadau mynachlog fawr Ynys Enlli. Daeth ei enw yn hysbys, a'i ddewrder yn glodforus, mewn canlyniad i'r rhan a gymerodd yn mrwydr Camlan. Ond gadawodd waewffon rhyfel, a chymerodd yn ei lle y ffon fugeiliol, gan gysegru ei oes i wasanaethu crefydd. Fel hyn enillodd ei ffordd i blith y seintiau Cymreig, a gosodwyd i fyny yn Eglwys Llandderfel ddelw o hono yn gerfiedig mewn coed. Cyrchai pererinion o bob cwr i dalu gwarogaeth i'r ddelw hon, a hyny gyda chymaint o defosiwn ag a hynodent ddilynwyr Mahomet ar eu ffordd i Mecca. Credai llawer o honynt fod gan y sant allu i waredu ei edmygwyr o boenau colledigaeth. Dywedir fod cynifer a phum' cant wedi dyfod o wahanol barthau ar y 5ed o Ebrill, 1537, sef dydd Gwylmabsant y lle, i "ymostwng i'r ddelw." Dichon mai nid annyddorol fydd dyfynu yma lythyr a anfonwyd gan Ellis Price, y dirprwywr i'r perwyl yn Esgobaeth Llanelwy, at Syr Thomas Cromwell, y Ficar cyffredinol, yn hysbysu am fodolaeth yr eilun hwn, ac yn gofyn ei ewyllys yn ei gylch:—

"Right honorable, and my syngular good lorde and mayster, all circumstanncys and thankes sett aside pleasithe yt yowre good lordshipe to be aduisid that where I was constitute and made by yowre honorable desire and commaundmente comissiarie generall of the dyosese of Saynte Asaph, I haue done my diligens and dutie for the expulsinge and takynge awaye of certen abusions supersticions and ipocryses usid withyn the saide dyosese of Saynte Asaph accordynge to the kynges honorable rules and injunctions therein made, that notwithstandinge, there ys an image of Darvell Gadarn withyn the saide diosese in whom the people have so greate confidence hope and trust that they come dayly a pilgramage unto hym some with kyne, other withe oxen or horsis, and the reste withe money in so much that there was fyve or syxe hundrethe pillgrames to a mans estimacon that offered to the saide image the fifte date of this presente monethe of Apll; the innocente people hathe ben sore aluryd and entisid to worshipe the saide image in so muche that there is a comyn saynge as yet amongist them that who so ever will offer auie thinge to the saide image of Darvell Gadarn, he hathe power to fatche hym or them that so offers once oute of hell when they be dampned. Therefore for the reformacon and amendmente of the premisis I wolde gladlie knowe by this berer youre honorable pleasure and will, as knowithe God: who euer preserue your lordshipe longe in welth and honor.—Written in Northe Wales the vi, day of this presente Aprill (1537).—Youre bedeman and daylie orator by dutie.

"ELIS PRICE."[1]

(Quoted by Rev. W. Bingley in his Tours, pub. 1814; and in part by Rev. D. R. Thomas in his History of the Diocese of St. Asaph, page 771).

Mewn canlyniad i hyny cymerwyd ef i Lundain, lle y cafodd ei gydlosgi gyda mynach o'r enw Forest. Y trosedd a roddid yn erbyn Forest oedd "amheu yr efengyl, a gwadu dwyfol benogaeth y brenin,"

"David Darfel Gatheren,
As sayth the Welshmen,
Fetched outlawes out of hell.
Now is he come, with spere and shield,
In harnes, to burne in Smithfield,
For in Wales he may not dwell.

"And Forest the friar,
That obstinate lyar,
That willfully shall be dead,
In his contumaeiè,
The gospel dothe deny
And the king to be supremo head."[2]


Gadawyd ar ol ddarlun o garw coch er cof am ddelw y sant, yn nghyda cheffyl pren a ffon a elwid ar enw Derfel. "Uwchlaw y persondy mae cae a elwir 'Bryn Derfel,' i'r hwn gae, meddai traddodiad, yr ymgynullai pobl o bob parth yn y Pasg er mwyn cael marchogaeth ceffyl Derfel. Yr oedd y ceffyl wedi ei osod ar bawl lledorweddog mewn cysylltiad â phawl arall unionsyth, ac yn gorphwys ar golyn. Cafaelai y marchogwr mewn croesffon oedd yn nglŷn â'r ceffyl, a chwyldroid ef o amgylch y pawl unionsyth, fel y chwyldroir plant ar geffyl pren mewn ffair."- (Nodau yn ngwaith Lewis Glyn Cothi, dyfynedig yn Enwogion Cymru.)

Ceir amryw weddillion derwyddol yn y plwyf, yn gystal ag olion amddiffynfeydd milwrol. Y mae yr enwau Cefn Creini (the mountain of worship) ac eraill yn awgrymiadol o'r cyntaf, a Dolgadfa a Rhiwaedog yn llawn acenion rhyfel, a'u gruddiau yn goch gan waed, Yma ceir cylch ceryg a elwir Pabell Llywarch Hen, lle y tybid y trigai y bardd a'r rhyfelwr enwog. Llawer o anffodion a ddaethant i'w gyfarfod; ond yn ben ar yr oll collodd ei holl feibion—

"Wyf hon, wyf unig, wyf anelwig oer,
Gwedy gwely ceinmyg.
Wyf truan, wyf tridyblyg;
Wyf tridyblyg hen, wyf anwadal drud,
Wyf ehud, wyf anwar,
Y sawl a'n caroedd ni'm car."


Tua chan' mlynedd yn ol, yr oedd benyw o'r enw Gaynor Hughes yn byw yn Llandderfel, yr hon, fel Sarah Jacob, yn ddiweddarach, oedd yn proffesu byw heb fwyta. Mae Pennant yn son am dani, a darfu i Jonathan Hughes wneud cerdd iddi, lle y dywed—

"Mae bywyd dyn a'i angau,
Diamheu yw bob gradd a rhyw
Yn llaw yr Hollalluog,
Y gwir ardderchog Dduw.
Ffon daf a chareg denau
A laddai'r cawr Goliah i lawr.
Lladd Jonah oedd yn ei grombil
Nid allai'r morfil mawr;
Dwyn anadl hon o'i genau,
Ni ddichon angau a'i saothau syn;
Gwir ganiatad y nefol Dad
A'i ordinhad yw hyn."


Argraffwyd y gerdd yn 1778, ac yr oedd Gaynor yn orweddiog y pryd hwnw er's pedair blynedd. Cyrchai lluaws i'w gweled, gan ddwyn blodau a pherlysiau iddi, a dywedai hithau fod pren y bywyd yn harddach na holl flodau a rhosynau y llawr. Tybiai y werin ddiddichell ei bod wedi gweled pren y bywyd yn llythyrenol; ond tra thebyg mai cyfrwysdra yr hen ferch oedd y cyfan,

Gwaddoliad.—Gadawodd John Williams, drwy ei ewyllys dyddiedig Mawrth 9, 1846, i'w weinyddwyr, John Wm. Foulk, R. Wynne, a R. Thomas, weddill ei etifeddiaeth, yr hyn a ddaeth i £60, llog pa rai sydd i gael eu rhanu yn flynyddol rhwng hen bobl lesg, afiach, a thlawd y plwyf.

Rhoddir enwau perigloriaid y plwyf, ac adeg eu sefydliad, o 1537 i lawr:—John ap John, ap Thomas, ap Rice, 1537; J. Price, 1556; J. ap D. Lloyd, 1558; J. Price, 1573; R. Vaughan, 1583; W. Kenrick, 1592; M. Jones, 1640; A. Thelwall, A.M., 1641; J. Pierce, 1663; H. Parry, 1675; P. Hall, 1705; R. Edwards, 1720; T. Jones, 1740; P. Maurice, 1760; E. Hughes, 1760; S. Stoddard, B.A., 1763; D. Stoddard, M. A., 1788; T. Davies, 1796; E. Beans, 1825; J. Jones, A.M., 1828; J. Jones, 1840; W. Morgan, 1868.

Nodiadau[golygu]

  1. Cotton MSS. in the British Museum; Cleopatra, E. IV. vol. 55.
  2. Hall's Chronicle, ccxxxiii.
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Llandderfel
ar Wicipedia