Hynafiaethau Edeyrnion/Llandrillo

Oddi ar Wicidestun
Llangar Hynafiaethau Edeyrnion

gan Hugh Williams (Hywel Cernyw)

Llandderfel

LLANDRILLO.

Saif y pentref hwn ryw 5 milldir o Gorwen, a chynwysa y plwyf y trefgorddau canlynol:—Dinam, Cilan, Faerdref, Garthiaen, Penant, a Syrior. Mae y rhan fwyaf o'r plwyf yn gorwedd ar wastad-dir, yr afonig Ceidiog a'r afon Dyfrdwy yn rhedeg trwy y dolydd; ond ceir bryniau uchel i'r cyfeiriad deheuol, yr uchaf o ba rai yw Cadair Ferwyn, o ben pa fryn y gwelir rhan helaeth o'r wlad fel cylcharlunfa ardderchog. Ceir llawer o ffermdai yn y gymydogaeth sydd a'u henwau yn dangos eu bod o hynafiaeth mawr. Er engraifft, nodwn y rhai canlynol, ar awdurdod y Parch. T. Davies, Pentref. Cwm ty pellaf.—Rhydgethin yn yr hen amser. Heibio y ty hwn yr arweiniai y ffordd o'r Bala i Groesoswallt dros y mynyddoedd, a Rhydgethin oedd y lle i fyned trwy y nant. Cedgwm.—Ei ystyr yw Cauadgwm, neu cwm cul. Tyddyn y Famaeth.-Lle yr oedd etifedd Tyfod yn cael ei fagu, a'r famaeth yn cael y tyddyn yn ddiardreth am ei thrafferth. Cadwst.—Dwy fferm, un o bob tu i'r afon. Ei ystyr yw "brwydr yn y coed." Ar y fferm hon ceir cae o'r enw Clwt maen hogi, lle y minid yr arfau. Clochnant.—Dywed traddodiad mai yn y nant hon y cafwyd cloch Capel Rhug. Llysdyn.—Ceir traddodiad fod senedd yn cael ei chynal yma yn yr hen amser, ac y. mae agwedd hynafol ar y lle. (Ai gwneud cyfreithiau i drigolion Llandrillo yr oeddynt?) Branas—Coed y brain. Ganodl.—Ei ystyr yw "lle y llaeth gwyn." Ffynonydd y Brenin.—Dywedir mai yma y carcharwyd Harri VII. am fis gan Owain Gwynedd, ac oddiyma y trodd yn ol mewn gwarth. Pentrefelin.—Pen cantref tref Dinam. Mae drws yr hen felin eto yn ei hen ddull yn troi ar ei golyn, a barna Mr. Davies mai dyma y drws hynaf yn Edeynion, os nad yn sir Feirionydd. Hendwr.—Hen amddiffynfa enwog. Mae y gymydogaeth hon yn nodedig am ei hamddiffynfeydd, a cheir olion cromlechau rai, a charneddau mewn cyflawnder. "Bwlch y Maen Gwynedd, yn mynyddoedd y Berwyn, ydyw y lle a benodwyd gan Rhodri Fawr yn fan cyf- arfod Tywysogion Gwynedd a Phowys, er mwyn gwastadhau ymrafaelion a phenderfynu ymrysonau a allai gyfodi rhyngddynt; ac yn yr un gadwen o fynyddoedd, a thufewn i derfynau y plwyf hwn, y mae careg fawr wastad, darn o gromlech, yn ol pob tebyg, a elwir Bwrdd Arthur."—(Cymru, gan y Parch. O. Jones, tudal. 471, cyf. ii.). Yn y Cambrian Magazine am Ebrill, 1831, dyfynir o hen lyfr hanes etholiad un John Jones, yr aelod seneddol dros sir Feirionydd, yr hyn gymerodd le tua dechreu y 17eg canrif. Yn y writ cyfarfyddir â'r enwau hyn, yn mhlith eraill:—Owen Salesbury, Rug, Corwen; Rowland Vychan, Caergai; John Vychan, Cefnbodig; a Humphrey Hughes, Gwerclas. Wrth son am y boneddigion hyn, anhawdd peidio cofio am Rowland Vychan, a Lewis Llwyd o Rhiwaedog, wedi bod yn ciniawa yn Rug, ac wrth fyned adref aeth y ddau i ymrafaelio. Ond bore dranoeth anfonodd Rowland Vychan ei was at Lewis Llwyd gyda'r penill hwn—

"Bir a chwrw Owen Salsbri
A wnaeth gynen ar Gyreni
Rhwng Lewis Llwyd, bendeflg mwynlan,
A'r hen gecryn Rowland Vychan,"

Yn y Cambrian Magazine am Hydref yr un flwyddyn hefyd ceir cofnodiad o'r hyn a hawlid fel arian cymhorth gan y llywodraeth yn y flwyddyn 1636 gan dirfeddianwyr yn y sir. Dyma y rhai a enwir o gwmwd Edeymion. Llangar—Humphrey Hughes; G. David ap Ieuan; J. Wynne; a J. ap Edward ap Tudur. Llandrillo-Morgan Lloyd; Humphrey Branas; Morris Jones; J. ap Ieuan; a Humphrey ap David. Corwen—W. Salesbury; J. Lloyd, Carog; J. Lloyd, Rhagad; L. ap Rees; J. ap Howell; T. Wynne; R. Lloyd. Gwyddelwern—Humphrey ap Ellis; D. Lloyd John; Thomas Wynne; a John ap Robert.

Mae yr Eglwys, yr hon a gysegrwyd i St. Trillo, yn dra hynafol. Cynwysa dŵr yn y pen gorllewinol, yn yr hwn unwaith y ceid awrlais, rhodd un Edward Jones yn 1772. Cafodd yr Eglwys hon ei hailadeiladu yn 1776, ei hadgyweirio yn 1852, a thrachefn yn 1877.

Gadawodd un Hugh Jones y Ddol £300, pedwaredd ran o lôg pa swm oeddynt i gael eu rhanu yn flynyddol rhwng tlodion y plwyf hwn.

Sonia yr hen Edward Llwyd am "Fedd y Santes ar làn Cadwst, lle kladdwyd Santes Trillo." Dywed hefyd, "Dafydd Rowland, hen grythwr, a arferai bop Sul y Pasc prydnawn vynd evo ieuencktyd y plwyf i ben craig Dinam i ranu yr ých gwyn. Yno y kane fo gaingc yr ychen banog a'r holl hen keinkie, y rhai a vuant varw gidag ef."-(Dyfynedig gan y Parch. D. R. Thomas' History, page 702).

Bu y lle hwn, fel llawer lle arall, yn hynod am ei ofergoeledd flynyddau yn ol Dyfynwn a ganlyn o Cymru Fu, fel y derbyn- iwyd yr hanes gan olygydd y llyfr dyddorol hwnw oddiwrth Mr. E. Evans, Cynwyd:—

Er's oddeutu haner cant o flynyddoedd yn ol, aeth y gair ar led trwy gymydogaeth Llandrillo yn Edeyrnion fod Gwiber yn cartrefu mewn llwyn yn yr ardal hono, yn agos i le a elwir Plas y Faerdref. Derbynid y newydd ar y cyntaf gydag anmheuaeth, ond gan fod amryw o wyn a mân greaduriaid wedi meirw trwy, fel y credid, ei brathiadau gwenwynig; a bod llawer o bobl eirwir wedi gweled rhywbeth yn ehedeg o gwmpas yr ardal hono ag iddo gorph hir ac adenydd byrion, a thybient hefyd pan arafai ychydig eu bod yn canfod rhyw gèn symudliw hardd i gyd trosto, a bod iddo lygaid fel fflam dân yn ymsaethu trwyddynt; nid oedd neb yn y gymydogaeth yn ddigon rhrfygus i wadu y ffaith.

Cyn hir, yr oedd pwnc y Wiber wedi dyfod mor bwysig, fel mai dyna oedd byrdwn pob stori. Ymddiddenid am dani gyda sobrwydd yn yr efail, a siop y crydd; a phryd bynag y cyfarfyddai dau gymydog a'u gilydd, odid fawr nad y Wiber fyddai testyn yr ymddiddan. Dyna mewn gwirionedd oedd pwnc y dydd, a'r nos hefyd. Yr oedd yn amlwg hefyd fod yn rhaid gwneud rhywbeth heblaw siarad, canys er mor finiog ydyw y tafod, yr oedd yn amlwg nas gallasai ladd y Wiber. Penderfynwyd galw cynadledd o hynafgwyr a doethorion yr ardal. Wedi dwys ystyried y pwnc, daeth y cynghor rhyfel i'r penderfyniad o benodi diwrnod i wneud ymosodiad cyffredinol ar y gelyn. Ac wedi hir ddisgwyl daeth y diwrnod penodedig—diwrnod pwysig oedd hwn ar lawer ystyriaeth. Teimlai llawer mam y pryder dwysaf oherwydd y peryglon yr oedd yn rhaid i'w mab fyned trwyddynt cyn machlud haul; a llawer morwyn landeg a roddai aml i ochenaid ar ran ei chariad. Y diwrnod hwn yr oedd dewrder llanciau y fro i gael ei brofi, a'r gwroldeb hwn yr honai llawer eu bod yn feddianol arno i gael ei ddadblygu. Mewn gair yr oedd dedwyddwch yr ardal yn dybynu yn hollol ar weithrediadau y dydd hwn.

Yn fore iawn, cyn i'r haul ddyfod yn iawn allan o'i ystafell, dyma y fyddin yn cychwyn gan gerdded yn araf eto yn benderfynol at lan yr afon Dyfrdwy. Dyna y fan oedd wedi ei benodi fel maes y frwydr. Yr oedd yn y fyddin hon amrywiaeth mawr, rhai o bob oed a gradd; ac ambell hen batriarch pentyn mewn angen ffon, ond eto yn ddigon gwrol-calon y dydd hwn i fyned hebddi. Ond pa amrywiaeth bynag oedd yn y fyddin, yr oedd mwy yn yr arfau, y rhai yn benaf oeddynt bigffyrch, crymanau, &c., ac ambell hen frawd wedi dyfod o hyd i'r fwyall, gan yr ystyrid y cyfryw arf fel y mwyaf pwrpasol. Mor fuan ag r cyrhaeddodd y fyddin i lan y Dyfrdwy, gosodwyd baner goch i fynu, yn yr hon yr oedd picellau wedi eu gwlychu mewn gwenwyn. Amcan y faner goch oedd hudo y Wiber, oddiar ei chasineb at bob peth coch, i ymguro yn erbyn ei chasbeth, ac felly anafu ei hun. Ond er disgwyl yn bryderus an oriau ni wnaeth y wiber ei hymddangosiad; a pheuderfynodd llywyddion galluog y gàd, mai y doethaf oedd i bawb fyned' ir fau, a phenu diwrnod arall i ail Enrg am frwydr.

Ond cyn i'r diwrnod hwnw ddyfod, fe ddigwyddodd i rywun ddyfod i'r gymrdogaeth oedd wedi gweled mwy o'r byd a'i greaduriaid na'r cyffredin; a thrwy rhyw ddamwain, cafodd olwg ar y Wiber, a hysbysodd y trigolion dychrynedig, er mawr ryddhad iddynt, nad oedd y Wiber yn ddim amgen na CHEILIOG PHEASANT.

Deallwyd wed'yn mai wedi dianc o Wynnstar yr oedd yr aderyn diniwaid, ac wedi crwydro gan belled â Llandrillo, lle na welwyd yr un erioed o'r blaen. A dyna'r hanes a'r helynt a fu gyda Gwiber Llandrillo.


Dechreuwyd pregethu egwyddorion Ymneillduaeth yn y gymydogaeth yn gynar yn y ganrif ddiweddaf. Yn y fl. 1776 ymwelwyd â'r lle gan genadon y Bedyddwyr, sef David Evans, y Dolau, ac un arall, a phregethasant mewn ty yn agos i'r pentref. Enillasant rai dysgyblion; ond yn gymaint ag na pharhawyd pregethu, syrthiodd yr achos i'r llawr. Cyn pen nemawr o amser daeth y Methodistiaid i'r ardal, a byddai Sion Moses, a Mr. Foulkes, o'r Bala, yn cynal oedfaon wrth gareg farch y Bell.

"Mi gym'ra' fy nhywys gan fugail yr Eglwys
Rhag ofn fod Sion Moses yn misio,"

ebai Huw Jones o Langwm. Wyr i'r hen gynghorwr Sion Moses oedd "Tegid," y bardd a'r offeiriad o Nanhyfer. Agorodd un Griffith Edwards, yr hwn a adeiladasai fwthyn un-nos ar fynydd Mynyllod, ei dy i'r cynghorwyr dd'od iddo i bregethu. Enynodd hyn ddigofaint rhai boneddigion yn yr ardal, a thynwyd yr hen gaban i lawr! Ond cafwyd ty gwell a mwy cyfleus i gynal moddion ar ol hyn. Bellach mae gan y Methodístiaid, yr Annibynwyr, a'r Wesleyaid, gapeli yn y pentref er's llawer o flynyddau.

Dyma restr o Berigloriaid a Ficeriaid y plwyf hwn:-Perigloriaid—Randolph Pool, 1537; E. Collys, 1538; H. Edwards, 1538; H. ap Howel, 1557; H. Edwards, 1589; J. Pryce, 1592; W. Kenrick, 1599; T. Banks, A.M., 1600; J. Griffiths, 1634; Dr. Clutterbuck, 1665; B. Carter, 1702; J. Upton, 1736; C. Bertic, 1761; E. Thurlow, 1789. Ficeriaid—J. Griffith, 1537; J. D. Goch, 1554: J. Reynold, 1558; J. Vaughan, 1573; J. ap Harri, 1582; T. Jones, B.D., 1594; O. Vaughan, 1595; P. Brereton, 1598; J. Head, 1604; T. Roberts, 1611; R. Lewis, 1635; K. Pearks, 1645; E. Evans, 1653; H. Hughes, 1660; H. Jones, 1666; H. Parry, 1704; H. Foulkes, A.B., 1709; E. Wynne, A.M., 1731; S. Mytton, 1731; R. Anwyl, 1776; J. Lloyd, 1799; J. Wynne, M.A., 1826; T. Williams, 1871. (Y mae yn syndod mewn plwyf gwledig fel Llandrillo gyfarfod cynifer o ddynion yn gwisgo enwau Seisnig wedi bod yn gweini ar angen ysbrydol y trigolion. Hyderwn i'r efengyl gael cyfiawnder oddiar eu llaw, os oedd Gramadeg Cymraeg weithiau yn dyoddef cam).

Nodiadau[golygu]

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Llandrillio-yn-Edeirnion
ar Wicipedia