Hynafiaethau Edeyrnion/Robert Williams, Llangar

Oddi ar Wicidestun
Robert Roberts, Llansantffraid Hynafiaethau Edeyrnion

gan Hugh Williams (Hywel Cernyw)

Robert Wynne

ROBERT WILLIAMS, A.M., Periglor Llangar, a anwyd yn 1748, ac a fu farw yn 1825. Claddwyd yntau wrth hen Eglwys Llangar, yn agos i fedd ei gynoeswr a'i flaenorydd E. Samuel. Yr oedd yn fardd a llenor gwych, ac yn wr tra dysgedig. Sonit am dano gyda pharch gan Dr. Owen Thomas yn Nghofiant John Jones, Talysarn. Ceir yn y Gwyliedydd am 1826 awdlau marwnadol am dano gan Peter Llwyd o Gwnodl, a Gwilym Ysgeifiog, Dywed yr olaf ei fod yn foregodwr, yn ddyn diwyd, yn trin saith iaith, &c., ond eto yn Gymro i'r bôn.


Nodiadau[golygu]