I'r Aifft ac yn Ol/Ar y Daith

Oddi ar Wicidestun
Rhagor am y Bywyd bob Dydd I'r Aifft ac yn Ol

gan D Rhagfyr Jones

Fy Nyddiadur

PENOD VI.

AR Y DAITH.

 MAE'N bryd imi bellach gymeryd stoc o'r byd sy'n gorwedd o'r tu allan i'r llong, rhag i chwi fyn'd yn sal o glefyd y môr drwy gael eich cyfyngu cy'd rhwng y plancie.

Yr oedd y nos y cychwynes allan o ddoc y Bari yn "dangos gwybodeth" ar ei gore', ac yn "traethu ymadrodd" cystal a'r dydd am ei ddanedd. Fe wincie goleuade Gwlad yr Ha' draw arnom fel pe ba'em y'myn'd allan ar ryw ddireidi, a nhwthe'n y gyfrinach. Wrth edrych yn ol, gwelwn fod goleuade glane Morganwg yn cenfigenu wrth eu chwiorydd yr ochr arall i'r Sianel, ac am hòni cyment o wybodeth a'r Saeson, a d'we'yd y lleia'. 'Roedd ambell i oleuad yn ymddangos i mi fel pe bai'n cael difyrwch diniwed am ein pen; un funud edryche arnom fel plentyn drwg yn ei wely—y funud nesa' fe fydde a'i ben dan y dillad—i fyny drachefn heb ei ddisgwyl—i fyny ac i lawr, i fyny ae i lawr, mor brofoclyd a dim wolsoch erioed. Gelwir y math yma'n oleuad trofäol; ac erbyn sylwi, y mae i'w gael ar ei ganfed ar hyd y glane y'mhobman. Nid oedd y lleni wedi eu tynu dros ffenestri'r ffurfafen chwaith, ac yr oedd cysgod engyl i'w wel'd yn pasio heibio iddynt ol a gwrthol. Dyna oedd f'esboniad i pan yn blentyn ar ansefydlogrwydd y sêr, ac ni elles ymddihatru oddiwrtho byth. Adlewyrche'r dw'r o gwmpas sêr y nefoedd a sêr y glane, a theimlwn yn ddigon hunanol i feddwl fod yr holl gre'digeth wedi d'od allan i ddymuno mordeth dda i mi. Cure calon yr hen long mor rheoledd a phe bai'n canu unod mewn cystadleueth, a gwylltie'r hwylysydd weithie mewn cyfeiliant iddi. Rhodde'r môr ffordd yn foneddigedd i'r llestr basio, cusane'r mân done ei hochre geirwon wrth fyn'd heibio, ac ymestyne ei llwybr yn ol i fynwes y nos fel llwybr arian.

Dacw oleuade Ilfracombe yn pefrio'n y pellder; ac wele gilfach Westward Ho! lle bum unweth yn chwilio am unigedd ac yn temtio seibiant, heb ddim ond gole' gwyliedydd y glane i dd'we'yd lle mae. Wedi murmur "Nos da" wrth ynys Lundy, trymhaodd fy llyged, ac yn hwyrfrydig es i chwilio am fy ngorweddle. Nid heb gryn gyflafareddiad y llwyddes i'w sicrhau at fy ngwasaneth; ac wedi myn'd iddo, yr oedd pobpeth fel wedi ymdynghedu i'm cadw'n effro. Bum amser hir yn ysbïo drwy'r ffenest' gron oedd yn f'ymyl ar oror Cernyw y'myn'd ac yn d'od. Bum wed'yn yn gwrando ar ddirgryniade'r llestr, neidiade'r hwylysydd yn union odditanaf, ergydion y peiriant, a llaib y dw'r yn erbyn yr ochre. Y peth nesa' wy'n gofio'n groew ydyw'r stiward yn d'od i fewn a'i gwpaned coffi. Ond noson drallodus ydoedd; a phe b'asech yn fy lle, gwn na f'asech damed gwell, os cystal, er eich bod yn awr yn barod i chwerthin am fy mhen.

Pan ddeffröes y bore' cynta', yr oedd pen pella' tir Pryden ar fin myn'd o'r golwg. Delies i syllu arno hyd y gall'swn, a phan y colles ef, daeth ochened drom i fyny o rywle heb fy nghaniatâd. Tybiwn imi glywed eco iddi o'r tu ol, a mi drois yn sydyn; ond ni weles neb ond yr ail beirianydd yn chwilmanta gerllaw. Ni wyddwn am ei dricie'r pryd hwnw; ond wedi i mi dd'od i'w adnabod yn well, a meddwl am y peth, drwg dybiwn ef o fod yn gwneud difyrwch o honof, a taw efe oedd yr eco. Erbyn hyn, 'doedd dim yn y golwg ond môr ac awyr, ac ambell i long arall yn pasio. Yr o'em bellach yn nesu at y Bê Bisce, yr hwn oedd wedi bod i mi'n fwgan y dydd, ac yn hunlle'r nos oddiar pan y penderfynes fyn'd y ffordd hono. Clywswn gyment o sôn am dano, ei fôd yn grëadur mor ofnadwy, nes fod myn'd drwyddo bron bod yn gyfystyr a myn'd trwy lỳn cysgod ange'.

Ond diwrnod ardderchog oedd hwn, gan'ad sut y bydde'n y Bau. 'Does dim eisie' croesi'r bont cyn d'od ati. "Digon i'r diwrnod ei ddrwg ei hun." Mae'r haul yn gry', a'r gwynt yn isel. Mae'r môr fel gwydr, a'r gwylanod yn ein dilyn yn ffyddlon. Chwareua haid o bysgod y gelwir "porpoesied" arnynt yn ymyl trwyn y llestr. Neidiant o'r dw'r y naill ar ol y llall, yn cael eu blaenori gan borpoesyn mwy na'r cyffredin; desgrifiant haner cylch yn yr awyr ar eu taith, yna plymiant i'r dyfnder drachefn, gan fyn'd drwy'r un chware'r ochr arall. Bum yn gwylio'r rhai hyn am orie bwy gilydd. Yn y cyfamser, ele llonge erill heibio i ni, ager a hwyl—rhai yr un ffordd, a rhai i'n herbyn. Ha! dacw hen drampes fel nine ychydig o'n blaen, gafodd gwarter awr o fantes arnom wrth gychwyn o'r Bari. Yr ydym wedi enill arni, a dyma hi'n "râs." Mae ei thanwyr yn cael gorch'mynion i lanw'i berwedyddion â glo, a chw'da fwg du, tew, allan o'i gene' nes cuddio'i hun o'r golwg. Gwnawn nine'r un fath, nes peri imi dybied am foment fy mod y'nghanol gwaith Dowles. Erbyn i'r mwg glirio, 'ro'em ar y blaen i rywle. Caed aml i brofion ar hyd y daith taw gwaith anodd oedd curo hon gan longe o'r un dosbarth a hi. Nid llawer o gyffröade sy' mewn bywyd ar fwrdd llong o'r natur yma; ond mae rhedeg râs â llong arall yn sicr o fod yn un o honynt.

Yr ail nos mi dreulies y dog-watch ar y bont y'nghwmni'r ail swyddog. Ymestyna'r wyliadwrieth yma o chwech i wyth. Mae'r gwyliadwriaethe erill yn beder awr bob un. Sut y daw hon i fewn, nid wyf yn gwybod, na pha'm y gelwir hi dog-watch. Buont yn ceisio esbonio'r blaenaf i mi, ond mae'r bai naill ai ar fy neall neu ar fy nghôf. Ni wyddent yr olaf eu hunen, felly, ni ddisgwylir i mi ei wybod. Gallaf ddych'mygu, ond nid 'grifenu dych'mygion wyf, eithr ffeithie. Yr o'wn wedi gwneud darpariade heleth ar gyfer y ddwyawr ar y bont; a phe gwelech fi, gwn y bydde'n naturiol i chwi gredu fy mod ar y ffordd i'r Pegwn Gogleddol. Côt fawr dros fy nghôt isa', a chôt ar gyfer gwynt a gwlaw dros hono drachefn, a choleri'r tair i fyny fel tair catrod. Menyg tewion am fy nwylo, a chap blewog am fy mhen. Yr oedd gan y cap glustie, ac yr oedd gen ine glustie, a gwasanaethe'r naill i amddiffyn y lleill. Rhwng pobpeth, yr o'wn mor gysurus a phe b'aswn wrth y stôf yn y caban. Cyn i'r wyliadwrieth dd'od i fyny, aeth un o'r llonge mwya' heibio i ni o fewn cwarter milldir; ac yr oedd yn ymddangos fel pentre wedi ei oleuo ar amser rhïolti.

Pan y ceisies godi'r ail fore', methwn a dyfalu beth oedd yn bod. Ni fu'r fath helynt erioed ar ddyn yn ceisio d'od o'i wely; ac erbyn y cofiwch fod y "bwnc" y gorweddwn ynddo gryn bellder o'r llawr, golyge anturieth bwysig.

"Mae'r bendro arnaf," meddwn; "neu 'rwy' wedi tori 'nirwest heb wybod i mi fy hun."

Ond mi ddigwyddes edrych drwy'r ffenest' fach, a mi weles fod y môr wedi codi hefyd, a thrafferthed a mine wrth y gorchwyl. Yr oedd fel pe bai'n ddig wrth yr hen long am ei aflonyddu'n rhy fore'—fel y byddwn ine wrth y 'stiward ambell dro; ac ysgydwe hi'n enbyd—fel y bygythiwn ine wneud i'r 'stiward. Wedi do'd drwy'r anhawsdere o wisgo a 'molchi, mi gerddes mor barchus ag y medrwn i'r dec, ac yno mi ddealles ein bod wedi myn'd i mewn i'r Bau Mawr rywbryd yn y nos, a'n bod wedi myn'd gwarter y ffordd drwyddo. Yr oedd y gwynt o'r gogledd-ddwyren, ac yn fwy o help ini nag o rwystr. Ond, O'r symudiade! Yr oedd gwel'd y llong yn cusanu'r dw'r hyd ei rhagfurie, a'r tone'n neidio drostynt, y mynydde dyfrllyd yn erlid ar ein hole, a'r pantie dyfnion a grëid gan y sugndyniad, Chips yn cael ei ddala'r ochr yma, a'i wlychu at y croen, a'r 'stiward yn gwylio'i gyfleusdra'r ochr arall, ac yn dïanc â chroen ei ddanedd—yr oedd bod yn dyst o'r golygfeydd hyn a'u cyffelyb am haner awr cyn brecwast yn gosod y prawf llymaf ar f'ystumog a'm calon. Dyma'r bore' y daeth y "crwth" i'r ford gynta'. "Dal llygoden a'i bwyta" oedd y drefn ar bryd bwyd bellach, a'r "dal" yn fwy o gamp na'r bwyta. Dyma fel y bu drwy'r dydd, a dyma fel y bu drwy'r nos wed'yn. Nid af i gelu fod braw arnaf, ond dim salwch. D'wedir i mi pan fo salwch nad oes dim braw. P'run yw'r gwaetha', nis gwn. Ni dd'wedaf chwaith sut y treulies y nos hono, rhag crechwenu o'r Philistied. Ond ganol dydd dranoeth yr o'em wedi myn'd drwy'r Bau, ar ol haner cant o orie gerwin eu gwala. Bellach, dyma "Wlad yr Haul" yn y golwg.