I'r Aifft ac yn Ol/Rhagor am y Bywyd bob Dydd

Oddi ar Wicidestun
Bywyd bob Dydd I'r Aifft ac yn Ol

gan D Rhagfyr Jones

Ar y Daith

PENOD V.

RHAGOR AM Y BYWYD BOD DYDD.

 AM un cenid y gloch ginio.

Cawl go dene' oedd y rhagarweiniad i'r eilbryd fynycha'. Nid yr un oedd ei ddeunydd bob dydd, ond yr un oedd ei drwch. Yna fe ddeue rhyw gymysgfa y gelwid curry arno. Pare hwn imi chw'thu, a chw'su, a chochi, a thynu f'anadl ataf, a cholli dagre, gan mor dwym' ydoedd; ond yr oedd y ddau frawd ar fy nghyfer yn peri iddo ddiflanu heb grychu talcen. Arferwn yfed swm difrifol o ddw'r wrth drafod y crëadur yma, nes y des i wel'd nad oedd dim yn tycio, yna ymatelies. Cig eidion, neu borc wedi ei biclo a ddilyne, mor flasus â dim oedd yn y fwydgell. Caled oedd y blaena', a meddal yr ola', ond canwn eu clodydd yn uwch na dim arall, a bendithiwn y diwrnod pan y gwnaent eu hymddangosiad ar y bwrdd. Dirwynid y ginio i fyny weithie gan ŵr bonheddig o'r enw Roland Poland—yr hwn, yn ein munude mwya' chwareus, a alwem yn "roly-poly;" a phrydie erill gan bwdin o'r un teulu a'r llall y sonies am dano. Bydde'r pryd nesa'n cyfranogi o rai o'r elfene dywededig, y'nghyd a chwpaned o dê oedd yn peri i mi ame' ai nid coffi ydoedd. Hwn oedd y pryd cyfreithlon ola'; ond mi fydde aelode'r Cyfrin-gyngor yn cael sgwlc cyn y wyliedwrieth naw o'r nos, a mine yn eu cysgod. Yr wyf yn meddwl imi wneud y sylw yna o'r blaen, yr hyn a ddengys nad dibwys yw yn fy ngolwg i.

Tra ar y pen hwn, cystal imi sôn am y modd yr ymdarawem wrth y bwrdd ar dywydd garw.

Wedi ini fyn'd i fewn i'r Bau Mawr, ac i hwnw, 'nol ei arfer, ein siglo'n ddiseremoni, nes gwneud i'm cydbwysedd i a sefydlogrwydd gwahanol bethe dd'od yn faterion i alw sylw atynt—gwelwn y 'stiward un diwrnod, pan oedd yn tynu at amser cinio, yn sicrhau rhyw grëadur cam a chrwca wrth y bwrdd, ac y'myn'd ymaith. Nis gwyddwn beth i wneud o hono. Ar ol taith igam-ogam, es ato, ac ni bum yn hir cyn d'od i'r penderfyniad taw nid peth i'w fwyta ydoedd. Gwir na wyddwn am gyraeddiade'r cogydd y ffordd yna, ond teimlwn yn bur hyderus na fu'r creadur hwn erioed mewn na chrochan, na sospan, na phadell ffrïo. Gwneid ef i fyny o beder 'styllen, yn rhedeg gyda hyd y bwrdd, a dwy bob pen yn rhedeg gyda'i lêd. Yr oedd tri o wagleoedd rhwng y 'styllod, a'r canol oedd y lleta'. Wrth edrych arno'n ddyfal, tybiwn fod y wawr yn tori, a disgwyliwn y 'stiward yn ol a'r datguddiad gydag ef. Ac i wneud 'stori fer o 'stori hir, dyma ydoedd:

Math o garchar i gadw'r dysgle a'r platie rhag dïanc dros yr ymylon pan fydde'r llong y'myn'd wŷsg ei hochr i radde mwy nag a fydde'n ddymunol. Amddiffyn y llestri lleia' rhag direidi'r llestr mwya' oedd ei genhadeth, ac yr oedd yn amlwg na ellid gwneud hebddo. Yr oedd defnyddio cyllill a ffyrc dan amode fel hyn yn orchwyl peryg'; ac yr oedd yn rhaid i ddyn gadw'i lyged yn agored os am gadw'i geg yn iach. Yr enw arno oedd crwth. Nid oedd ynddo ddim yn debyg i grwth cyffredin, ond yr oedd y llestri pridd a phiwtar yn tynu tipyn o fiwsig allan o hono. Bu raid ini wrth wasaneth y "crwth" cy'd ag y buom yn y bau, a throion wed'yn; a 'does dim dadl nad oedd yn un o'r cre'duried mwya' gwas'naethgar yn y llong.

Fy nghydymeth ffyddlona' wrth fyn'd a dychwelyd oedd cath fechan ar ei phrifiant o'r enw Bismarc. Nid oedd yr enw'n ffitio'i rhyw, oblegid yr oedd y'nes perthynas i wraig Bismarc nag i Bismarc ei hun yn yr ystyr hono. Tebyg taw cath ystrai ydoedd, a ddaethe i fewn yn y Bari Doc pan oedd y llong yn llwytho. Talai am ei lle y'null arferol y math yma o bedrod, sef trwy hela llygod a'u dal. Mae morwyr yn hoff o gre'duried ar y bwrdd, a bydde lladd un o honynt trwy fwriad neu amryfusedd yn creu hylabalŵ ofnadwy. Yr oedd byd braf ar Bismarc, ac yr oedd ei gôt yn profi hyny. Gofale'r cadben am ei frecwast, y prif swyddog am ei ginio, a'r ail am ei dê. Nid wyf yn gwybod pa'm y dodwyd yr enw Bismarc arno, os nad oblegid ei hirbeneiddiwch. Os methwn a bwyta'r cwbl osodid ger fy mron, deue Bismarc heibio, a dealle'r sefyllfa'n union. Nid oedd terfyn ar ei rwbio a'i ganu nes y cynygid y gweddillion iddo; ond os dealle fod pob un y'meddwl myn'd trwy ei waith heb adel dim ar ol, fe ymneilldue'r gwalch nes y bydde'r cwbl drosodd. Yna fe ddychwele at ei blât ei hun.

Treulies lawer o f'amser i chware' gyda'r gath, ac nid oes arnaf g'wilydd d'wedyd hyny. Mae'n amheus genyf a fu'r crëadur bach ar y môr o'r blaen, oblegid 'roedd symudiade dideddf y llestr yn peri dyryswch mawr iddo. Credwn weithie fod ganddo wybodeth reddfol fy mod i'n debyg iddo yn hyny o beth. Bid fyno, hefo mi y myne fod pan fydde'r gwynt yn uchel, a'r môr yn dringo wrth ei sodle. Yr oedd yn siwr o fod wedi cyfri' ar fwy o gydymdeimlad gen i na neb arall. Pan gode'r llestr ar ei hochr, nes gwneud i mi genfigenu wrth y clêr am fedru cerdded a'u peue' i lawr, safe Bismarc yn sydyn am eiliad, fel pe bai'n ceisio ymresymu'r pwnc—yna fe ruthre ar ei gyfer mor wyllt a diseremoni, nes yr ofnwn iddo daro'i fenydd yn erbyn y pared. Cyn ei fod wedi cael ei draed dano, mae'r llong yn rhoi tro i'r ochr arall, nes gyru Bismarc, druan, i'r cyfeiriad cyferbyniol, a'i edrychiad fel edrychiad dyn meddw'n ceisio bod yn sobr. Nid oes amheueth genyf nad oedd y gath y'ngafel selni'r môr lwyred y bu cath erioed—na dyn chwaith, pytae fater am hyny. Ar ol i'w fewnolion gael eu troi a'u trosi, eu chwilio a'u chwalu, eu corddi a'u cordeddu tua dau ddwsin o weithie yn y modd yna, fe orwedde i lawr yn y man lle bydde fel un wedi rhoi' fyny'r ysbryd, a cholli pob gobeth am wel'd llygoden byth ond hyny.

Ni fydd y benod yn gyflawn heb i mi dd'we'yd gair am y dydd cynta' o'r wythnos. Yr o'wn wedi awgrymu i'r cadben mewn pryd y byddwn at ei wasaneth i bregethu ychydig i'r dwylo ar y dec, neu i fyn'd dros rai o done Sanci hefo'n gilydd. Ond ce's ar ddeall yn fuan fod yn well ganddo beidio; a'i reswm oedd—fod yna'r fath gasgliad o wahanol opiniyne ar faterion crefyddol a gwleidyddol, nes ei gwneud yn ddoethach i gadw'n glir oddiwrth bethe felly'n gyhoeddus, a gadel ei ryddid i bob un i feddwl fel y myne am y naill a'r llall, neu i beidio meddwl o gwbl. Er nad o'wn o'r un farn ag e' ar y pwnc, efe oedd y meistr, ac nid oedd apelio i fod oddiwrth ei ddyfarniad.

Y Sul cynta, es am dro cy'belled a phen blaen y llong, ac yno gwelwn gortyne o'r naill bôst i'r llall, ac arnynt bob math o bilin, gwlyb a sych, adnabyddus ac anadnabyddus, o bob lliw a llun, cyfen ac anghyfen, yn chwyfio'n yr awel ac yn clecian yn y gwynt, nes peri imi feddwl fod yno gynrychioleth o faneri holl genedloedd y byd. Wedi holi, ce's ar ddeall taw dy' Sul oedd diwrnod golchi'r criw; a dyna lle'r oedd rhai o honynt wrthi'n brysnr—un yn golchi ei grys, un arall yn golchi ei 'sane, ac un arall yn golchi ei gorff ei hun, oedd fryntach na'i grys na'i sane. Gan nad oedd yr arogl a ddeue odd'no'n ddymunol iawn i'r ffroene, mi a ddychweles i'm caban, ac a dreulies y gweddill o'r dydd yn cydaddoli o ran yr ysbryd â'm pobl fy hun gartre'.