I'r Aifft ac yn Ol/Bywyd bob Dydd

Oddi ar Wicidestun
Rhagor am y Criw a'r Swyddogion I'r Aifft ac yn Ol

gan D Rhagfyr Jones

Rhagor am y Bywyd bob Dydd

PENOD IV.

BYWYD BOB DYDD.

 BUM bythefnos ar y dw'r cyn cyredd y làn arall, ac yr oedd pethe wedi myn'd dipyn yn unffurf cyn i'r pythefnos dd'od i ben, hyd y'nod i mi, na wydde ddim am fywyd o'r fath cyn hyny. Yr un amgylchoedd, a'r un gwynebe, a bron yr un bwyd o ddiwrnod i ddiwrnod, nes yr o'wn wedi cael f'addfedu er's meityn i newid fy myd, er gwell neu er gwaeth. Yn wir, nid oedd genyf y gronyn lleia' o gydymdeimlad â'r ymadrodd cyfleus hwnw: "Gwell yw y drwg a wyddoch na'r drwg na wyddoch." Yr o'wn yn berffeth barod i gofleidio'r ola', os gallwn drwy hyny gael gwared o'r blaena'.

Wrth geisio desgrifio un diwrnod, mi fydda'n desgrifio pob diwrnod, a chewch ch'ithe farnu a wyf y'mhell o'm lle wrth alw'r bywyd yn unffurf.

Dihunwn yn y bore' 'beitu saith o'r gloch, a'r gŵr oedd gyfrifol am hyny oedd y 'stiward, yr hwn ddeue a chwpaned o goffi twym' i mi, y'nghyda "biscïen." Cryn gamp oedd myn'd drwy'r seremoni hon mewn pryd erbyn brecwast: yr oedd y coffi boethed, a'r fiscïen galeted. Prin o le oedd genyf i orwedd ynddo, heb sôn am gyflawni dyledswydde erill; ac erbyn y cyfrifwch symudiade sydyn y llestr ambell fore', mi wn eich bod yn ddigon rhesymol i gredu taw bwyta ac yfed dan anhawsdere 'ro'wn yr amsere hyny. Pan y ceisiwn yn gynil gusanu'r coffi dros ymyl y cwpan, fe rodde'r hen long dro yn ei gwely hithe: y canlyniad o hyny oedd, fod traflwnc o'r gwlybwr poeth yn llifo i lawr fy nghorn gwddf fel hylif tân, a rhoi i mi brofiad o burdan am eiliad. Rhwng caledwch y fiscïen a thanchwa'r coffi, 'ro'wn bron a myn'd i gredu na fydde genyf dafod na dant erbyn y cyrhaeddwn adre'.

Blinfyd arall oedd ymwisgo. Gelwid y lle y gorweddwn ynddo'r nos yn bunk, ac yr oedd un arall odditano. Dewisais yr ucha' am ei fod yn nes i'r ffenest'; ond y troion cynta' bum bron ei newid am y llall. Rhyw deimlad o urddas a leche rhwng f'asene barodd imi beidio. Cawn drafferth nid bychan i fyn'd iddo; ond 'doedd hyny'n ddim yn ymyl y drafferth a gawn i dd'od o hono. A phe gwelech fi'n ceisio myn'd i mewn i'm llodre', arswydaf wrth ddych'mygu'ch beirniadeth. Prin y mae angen imi dd'we'yd ei bod yn fater o reidrwydd imi gydio âg un o'm dwylo mewn rhywbeth sefydlocach na mi fy hun; ond y funud y gollyngwn fy ngafel, collwn fy nghydbwysedd, ac wrth geisio'i adfer, 'doedd dim dal nad ele'r llodre'n fagl imi, ac nad ar fy hyd ar y llawr y cawn fy hun, a 'mhen wedi d'od i wrthdarawiad â'r bwnc isa'. Ar adege neillduol, yr oedd awr o amser lawer ry fach imi fyn'd drwy'r gwasaneth i gyd; a phan 'r eisteddwn i lawr am wyth o'r gloch i fwyta fy more'bryd, fe fydde peth o ôl y frwydr arna' i fynycha'.

Yr o'em yn bedwar wrth y bwrdd ar brydie bwyd, os bydde amgylchiade'n caniatau—y cadben, y ddau swyddog, a mine. Beth bynag arall ellid ei dd'we'yd am y prydie, byddid yn ddiogel ei wala pe d'wedid am danynt eu bod yn sylweddol. Triphryd y dydd oedd y mesur, gydag ambell i sgwlc 'nawr ac eilweth.

Y peth cynta' geid i frecwast oedd "uwd." Un o ffrindie bore' oes oedd efe; ond nid o'wn wedi ei wel'd yn edrych cystal er pan o'wn yn grwt gartre'. Bob tro y digwyddwn gwrdd âg e' wed'yn, ryw erthyl diymadferth ydoedd, a'i "anelwig ddefnydd" yn pregethu darfodedigeth. Ond yn y llong yr oedd fy hen ffrind dewed ag erioed. Gwedi cyfnewid syniade â'n gilydd, cymerwyd ei le gan ddysgled barchus o gorachod tordyn a brasderog y gelwid "sosinjers" arnynt yn y dyddie gynt. Yr o'ent bron a bod o'r un hyd a'r un led fel y 'stiward; ac yr oedd eu crwyn mor dỳn am danynt, fel nad oedd eisie ond gosod min y gyllell i gyffwrdd â hwy i beri iddynt ymffrwydro'n fygythiol. Nid oedd golwg ddymunoled arnynt wed'yn. Helpid y bechgyn hyn i lawr gan bytatws oedd wedi colli eu hunanieth cyn cyredd y bwrdd, a myn'd yn un i'w gilydd. Yn fy myw y gall'swn gofio imi erioed fwyta pytatws gynared ar y dydd, a deue rhyw hen dorïeth felly rhyngof a'u mwynhau fel y caraswn. Eto, gwnes fy ngore' dan yr amgylchiade; ac erbyn i rif y trydydd ganlyn ar ffurf "pwdin reis," nid oedd genyf ysbryd mwyach i bara 'mlaen. Neu hwyrach taw'r cylla oedd yn cellwair. Yr oedd y cyflenwad olaf hwn yn edrych mor sylweddol a dim oedd ar y bwrdd. Pe bai'r fath beth yn bosib' ag i'r trymaf o honom fedru dawnsio ar ei grystyn—neu pe'i teflid yn enw pêl droed ar hyd y dec nes blino o honom, nid wyf yn meddwl y dygai ddim o'r node, nac y cwynai oherwydd y gamdrinieth.

Dïau taw'r adeiladeth ore' i mi oedd gwylio'r ddau swyddog wrthi. Eisteddwn gyferbyn iddynt, a'r cadben wrth f'ochr. Mi dd'wedes eisoes taw bwytawr bychan oedd y cadben, ond gwnai'r lleill iawn digonol am ei ympryd ef a mine. Cenfigenwn wrth y modd blysig a deheuig yr aent ati; a phan ddeue'r prydie erill heibio'n eu tro, ceid ganddynt ail a thrydydd argraffiad, gydag ychwanegiade, o bryd cynta'r dydd.