I'r Aifft ac yn Ol/Rhagor am y Criw a'r Swyddogion

Oddi ar Wicidestun
Y Llong a'i Phreswylwyr I'r Aifft ac yn Ol

gan D Rhagfyr Jones

Bywyd bob Dydd

PENOD III.

RHAGOR AM Y CRIW A'R SWYDDOGION.

 GWYDDEL oedd un, a llanc o'r Eidal oedd y llall. Hen grëadur difyr a dyddan oedd y blaena', a'i brofiad o'r môr yn haner cant oed. Ryan oedd ei enw. Yr oedd yr ola' drachefn mor ffyddlon a pharod a neb ar y llong, a'i enw'n Angelo. Ffrindie calon oedd y ddau, fel y profa'r 'stori wyf y'myn'd i'w hadrodd.

Pan oedd y llong yn ymyl y cei yn Alecsandria, yr oedd Ryan yn paentio'r ochr tu fa's iddi. Safe ar rafft oedd a'i dadgysylltiad lawer y'nes na dadgysylltiad yr Eglwys Wladol; ac yr oedd wedi d'od ar ei hynt i ymyl gwàl y cei, pan y tarodd yn ei ben i ddringo'r wàl gyda help ochr y llestr, yn hytrach na throi'n ol i'r fan lle'r oedd yr ysgol. Ond buan y cafodd Ryan wybod taw'r ffordd bellaf yw'r ffordd agosaf, ac felly, trwy gwrs o ymresymiad greddfol, taw'r ffordd feraf yw'r ffordd hiraf yn aml. Pan dybiodd ei fod wedi cael un droed i wagle dïogel yn y wàl, gan ddefnyddio'r ddwyfraich i wasgu'n erbyn y wàl ar y naill du, ac yn erbyn ochr y llong ar y tu arall— rhoddodd wth i'r rafft oedd dano â'r droed oedd yn segur, nes ymsaethu o honi i bellder boddhaol. Pan ddes i droi'r peth yn fy meddwl wedy'n, bu raid i mi adde' i mi fy hun fod y Gwyddel yn siwr o fod wedi cael ffit o'r bendro. A mi dd'wedaf y rheswm pa'm.

'Doedd dim yn galw arno i yru y rafft i ffwrdd mor ddiseremoni. Ni fuase ar ei ffordd o gwbl, oblegid i fyny'r amcane'r dyn fyn'd, ac nid i lawr; ond bu ei waith yn gwneud i ffwrdd â hi y'mron a sicrhau ei fynediad i lawr yn lle i fyny. A dyna lle'r oedd yn hongian gerfydd ei freichie, neu wrth ei benelinoedd yn hytrach—un droed yn y wàl, a'r droed arall yn siglo fel pendil cloc uwchlaw'r dw'r. Yr oedd fel pe b'ai mewn feis; ni fedrai newid ei safle pe gwelai sharc yn ffroeni ei sawdl. Aeth i ddechre gwanhau. Bygythie ei ddwyfraich ei ollwng i'r dyfnder odditanodd; ac yn y sefyllfa beryg' hono, dyma rês o'r oernade mwya' torcalonus yn dod oddiwrtho:

"Angelo! Angelo!"

Digwyddwn fod yn eistedd ar y pŵp uwch ei ben, mewn anwybodaeth cysurus o'r helynt ddifrifol odditanaf; a phan ddaeth y floedd, bu agos imi neidio dros y bwrdd gan ei sydynrwydd a'i gwawch. Edryches i lawr, a dyna lle'r oedd Ryan, druan, yn edrych fel 'sgadenyn wedi ei 'sgiwrio, ac yn gwaeddi "Angelo!" nes rhwygo'r awyr. Yr oedd gwàl y cei bellach yn frith o frodorion; ac yn lle estyn llaw o gymorth i'r creadur, chwarddent am ei ben, a dynwaredent ef yn galw ar Angelo. Mae hwnw'n d'od yn union, a'i wynt yn ei ddwrn; ac ar ol eryn ffwdan, codwyd y Gwyddel i'r làn yn fwy marw na byw. Os oedd lle, yr oedd y ddau yn hoffach o'u gilydd nag y buont erioed.

Dyn tàl, tene', oedd y cogydd, mewn tipyn o oed, tebyg i grydd, brasderog ei olwg, a bysedd un o'i ddwylo heb fod ganddo. Nid oedd cofio am y cogydd yn un help i mi i fwyta pryd o fwyd, a gwnawn fy ngore' i wadu ei fodolaeth cy'd ag y byddwn wrthi.

Personolieth tra gwahanol oedd i'r stiward. Dyn byr, tew, oedd efe, o'r un hyd a'r un lêd, glân ei groen a syber ei wisg—a'r gore' o neb oedd ar y llong i gerdded y dec pan fydde'r llestr yn chware' Euclid ac yn delio mewn ongle. Yr oedd ei ystafell o dan yr un tô a'r prif gaban, a da oedd genyf gael ei gwmni pan fydde'r elfene'n gwneud pêl droed o'r hen long. Mi weles y 'storm yn gwneud galanas enbyd ar ei lestri un tro—ymdroellent o gwmpas ein pene fel cerig, a tharawent yn erbyn eu gilydd yn y modd mwya' nwydwyllt a dïalgar. Mi glywes y weilgi wyllt oddiallan yn taro'n erbyn y pared ddwseni o weithie tra'r eisteddwn gyda'r 'stiward, a hyny gyda'r fath swn a nerth, nes credu o honof fod y cwbl yn d'od i fewn, a rhagor. Prin y rhodde neb bisin grôt am fy hoedl y prydie hyny; ac oni buase fod y stiward genyf yn gwmni, mi fuase'n ddrud am bisin tair. Mae genyf gof pleserus am ei garedigrwydd didrwst sgoroedd o weithie; ac yr oedd gwel'd ei wyneb crwn, heulog, wrth fy ngwely bob bore', ar wahan i'r coffi sawrus a gariai yn ei law, i mi fel gwel'd gwyneb angel.

Deuaf yn awr at y swyddogion a'r cadben.

Cydwladwr i Ryan oedd yr ail swyddog, 'beitu dwy ar hugen oed, heb flewyn ar ei wyneb na deilen ar ei dafod, yn forwr bob modfedd o hono, a'i symudiade'n d'we'yd yn uwch am y llong hwylie nag am y llong ager. Yr oedd cystal chwibanwr a'r ail beirianydd am ei ddanedd, ond ni chlywes i rêg erioed yn d'od allan o'i ene', er ei fod yn d'od i gyffyrddiad agosach â'r criw na'r prif swyddog. Bu hefo mi mewn gwasanaeth crefyddol ragor na siwrne. Presbyteriad oedd o ran y ffydd. Nid oedd ganddo y cydymdeimlad gwanaf â Home Rule, am y crede fod hyny'n gyfystyr â Rome Rule yn syniad y cynhyrfwyr Gwyddelig.

Brodor o Denmarc oedd y prif swyddog, prin ddeugen oed, a golwg tywydd garw ar ei wyneb-pryd. Mae'n debyg fod ei gyfran o hwnw'n fwy na'r cyffredin. Yr oedd croen ei wyneb wedi myn'd fel memrwn, a difyr oedd ei glywed y'myn'd dros ei helyntion. Mi dreulies lawer awr yn ei gwmni ar y bont ac yn ei gaban; ac ni rodde dim fwy o foddhad iddo na sôn am ei wraig a'i blant, at y rhai y medde gariad y tu hwnt i bobpeth. Croge darlun mawr o honynt uwchben ei wely, ar yr hwn y sylle nes cwympo i gysgu; ac yr oedd darlunie llai yn britho'r ystafell drwyddi. Ysgrifenu gartre' oedd ei bleser mwya', ac ni weles ddyn erioed yn gallu taflu ei gydwybod yn llwyrach i'w waith. Ni wnele eithriad o bryd bwyd, ond clirie beth bynag a osodid ger ei fron gyda'r cydwybodolrwydd mwya' cysurus.

Un o Canada oedd y cadben. Hon oedd ei long gyntaf a'i ail fordeth yn y cymeriad hwnw. Dyn byr, tywyll, 'sgwarog, penderfynol ydoedd—ei drem yn waharddiad, a'i air yn ddeddf. Fel rheol, prin oedd ei eirie a phell ei osgo. Ond ryw noson, pan oedd gwynt cythryblus yn ymosod arnom o Gulfor Lyons, a'n dau yn eistedd yn ystafell y siart, adroddodd ei hanes i gyd wrthyf mewn llai na theirawr. O hyny allan, nid oedd gyment dirgelwch i mi a chynt. Yr oedd yn llwyrymwrthodwr cadarn, yn ysmygwr difefl, yn ddarllenwr mawr, yn fwytawr bychan, yn feistr cryf, ac yn foneddwr o'i goryn i'w sawdl. Bu gwylio'i hunanfeddiant a'i bwyll mewn adege o berygl yn help i mi droion i feddianu f'ened fy hun mewn amynedd. Efe oedd fy nghwmni yn Alecsandria b'le bynag yr awn, a gwydde am bob twll a chornel o'r ddinas. Yr oedd yn ddyn o arg'oeddiade crefyddol dyfnach na chyffredin, a chane done Sanci yn y gwasaneth nos Sul mor galonog nes tynu sylw erill ato. Balch wyf i restru'r cadben y'mysg fy ffrindie gore'.