I'r Aifft ac yn Ol/Byd ac Eglwys

Oddi ar Wicidestun
Anturiaethus I'r Aifft ac yn Ol

gan D Rhagfyr Jones

Ar yr Afon

PENOD XIX.

BYD AC EGLWYS.

 RYW fore', yr o'em yn chwech mewn nifer ar gyfer un o brif fasnachde Cairo, yn barod i gychwyn i daith ag oedd wedi cael ei threfnu'r diwrnod cynt. Yn ol y dosbarthiad cyffredin, yr oedd y chwech yn cael eu gwneud i fyny o bedwar bôd rhesymol a dau afresymol. Ond fe f'ase'r sylwedydd diduedd yn siwr o droi'r ffigyre'n ol y bore' hwnw, a sicrhau fod y chwech yn cael eu gwneud i fyny o ddau fôd rhesymol a phedwar afresymol. A phan y byddaf yn meddwl yn f'orie hamddenol am yr hynt a'r helynt hono, yr wyf yn cael fy hun yn gogwyddo i'r un farn ag ef. Un o'r trindod ffrindie yr wyf wedi bod yn sôn am danynt eisoes, a mine, dau arweinydd brodorol, a dau asyn oedd yn cyfansoddi'r finte. Chwi allech feddwl ein bod y'myn'd i Timbuctoo. Jones oedd y ffrind, ac Ali a Mustapha oedd enwe'r arweinwyr enwe arnynt o gwbl. Ond yr wyf yn cofio eu teithi meddyliol yn dda, a chofiaf hwynt tra bwy' byw. Ali oedd bïa'r asynod, ond Mahomet oedd bïa Ali, gorff ac ened.

Yr o'em wedi trefnu i fyn'd i ymwel'd â'r "bazaars," ac un o'r prif eglwysi Mahometanedd, a bore' cyfan i gael ei gyflwyno i'r gwaith.

"Dewiswch eich anifel," ebe Jones yn garedig. Yr o'wn, wedi cymeryd stoc o'r ddau'n barod, ac wedi astudio'u pwyntie, da a drwg, yn bur dda, dybygwn i.

"O'r gore," meddwn, "mi gym'ra' i at y brawd yma;" a chyfeiries at yr un a ymddangose i mi y diniweitiaf o'r ddau. Yr oedd y llall yn bradychu drwg-dymer anghyffredin—yn ffroeni ac yn sodli, yn cychwyn ac yn cilio—nes ei bod yn beryg' i Gristion sefyll yn ei ymyl. Ond yr oedd ei frawd yn peri imi feddwl am Issachar, yr hwn y d'wede'i dad am dano ei fod fel "asyn asgyrnog yn gorwedd rhwng dau bwn." Yr unig symudiad a wnai oedd ysgwyd tipyn ar ei ben mewn protest mud pan y deue cleren neu wybedyn i 'sbïo bôn ei glust. Nid o'wn wedi bod mor agos a hyny i asyn pedwartroed er pan o'wn yn hogyn, ac yr oedd hen adgofion am y gymdeithas yn gwneud imi ddyfalu sut y cymerem at ein gilydd.

Bid fyno, wedi gwneud y dewisiad, prysurwyd gwartholion nag y ce's f'argyhoeddi o dwyll y crëadur oedd danaf. Aeth yn grëadur newydd yn y fan. Yn lle ei fod yn Biwritan hyfwyn a thringar, aeth yn wrthryfelwr penboeth, a 'doedd dim posib' ei gael i fyn'd yn ei flaen wrth reol. Ele ar garlam wyllt un eilied, yna fe safe'n sydyn nes d'rysu cydbwysedd y truan oedd ar ei gefn, a'i yru ef yn ei flaen yn ddïewyllys. Desgrifie gylche ac ongle ar y 'stryd mor gywir a dim a welsoch mewn Euclid, ac yr oedd yn ymddangos i mi'r prydie hyny fel pe'n awyddus i wybod safle anianyddol ei gynffon. Yr o'wn yn hollol at ei drugaredd, ac nid hir y bum cyn d'od yn arg'oeddedig fod yn rhaid i mi fod ar ddihun o'm pen i'm traed y diwrnod hwnw os am fod yn groeniach. Wedi gwneud penderfyniad o'r natur yna, yr oedd yn rhaid glynu wrtho; a cha'nad o'wn mewn cyflwr prïodol o ran fy meddwl i fedru gwahaniaethu rhwng y penderfyniad a'r asyn—er fod genyf ryw syniad amrwd fod yna berthynas gyfrin rhyngddynt—mi dybies fod glynu wrth y naill yn gyfystyr a glynu wrth y llall. A dyna fel y llwyddes.

Trwy gydol yr amser, edryche Ali'n dawel arnom; a phan y 'storiwn ddigon o anadl i apelio ato, dyna dd'wede:

"Peidiwch ofni—daw ato'i hun yn union!"

A gwir a dd'wedodd. Ond pan ddaeth ato'i hun, daeth Ali ato hefyd, a dechreuodd ei bastynu'n ddidrugaredd: a dyna sy'n gwneud i mi betruso rhwng y rhesymolion a'r afresymolion. Sut na fase Ali yn ei bastynu pan oedd yr asyn yn an'stywallt, ac nid wedi iddo edifarhau? Ond os o'ent hwy'n deall eu gilydd, pa wahanieth?

Pan y gelles anturio edrych heibio'i ddwy-glust, gwelwn Jones yn y pellder, a'i asyn ac ynte fel pe baent wedi eu morteisio. Mi weles yn union ei fod e'n feistr ar y sefyllfa, ac wedi bwrw'i brentisieth er's blynydde. O, fel y gofidiwn na b'aswn wedi dewis yr asyn arall pan ge's y cyfle! Tra'r o'wn yn ffigyrol fwyta f'ewinedd fel hyn, rhoes Ali bren yn fy llaw, gyda chyfarwyddyd i chwilio am eis y crëadur: gwnes hyny, a che's fy hun yn ymyl pedion y llall fel cyfri' llyfrithen. Mi ddealles fod gogles ar Ned yn y gym'dogeth hono, a bu'r wybodeth o fantes i mi wed'yn.

Gwaith cynil oedd ymlwybro drwy'r dyrfa o ddynion ac anifeilied a cherbyde ar hyd y ffordd, ac mi gredes fy mod yn d'od i helbul ragor na siwrne. Profiad dyeithr i mi oedd bod ar gefn asyn mewn dinas yn y Dwyren—camelod a dromedaried yn f'amgylchu yn lle ceffyle a gwartheg, ac Arabied cilwgus yn lle Cymry rhadlon. Ga'nad beth, 'mhen hir a hwyr cyraeddasom y fynedfa i fewn i un o'r "bazaars," a roedd yn rhaid gadel y dynion a'r asynod o'r tu allan. Nid wy'n cofio perthyn i ba wlad neu genedl yr oedd y gynta'r aethom iddi, ond i lygad anghyfarwydd fel 'r eiddo' fi, ychydig o wahanieth oedd rhyngddynt. Lleoedd culion, hirion o'ent, yn llawn o nwydde a dynion—mor llawn fel taw prin y gallech weithio'ch ffordd y'mlaen gyda'r gradd lleia' o lwyddiant. Yr oedd yn gryn gamp i ni ein dau dena' i gerdded ochr-yn-ochr ambell i getyn. Stondine bychen ar bob llaw, ar dori gan y 'stwff gwerfchfawr a diwerfch a werthid, y'nghyda mynedfa gul yn y canol i'ch arwen i fewn i'r faelfa ryfeddol sy' o'r golwg; a phan y byddwch yn pasio dan edrych o'ch cwmpas, daw'r gwerthwr allan o'i faelfa i'ch cyfarfod yr un fath yn union a phry' copyn yn d'od allan o'i dwll i gwrdd a'i ysglyfeth. Ceid llawer yn gweithio'u crefft y tu allan i'w siop—gwaith ede a nodwydd o'r fath cywreiniaf; ac nid oedd dim yn eu plesio'n fwy na gofyn cwestiyne iddynt am y gwaith oedd yn eu dwylo. Traethent yn hyodl mewn cymysgieth o Saes'neg, a Ffranceg, ac Arabeg, am ddirgelion eu celf; ond pwnc go anodd f'ase penderfynu pa faint o wir a pha faint o anwir a gynwyse eu truth. Nid yw'n bechod i Fahometan dwyllo dyn o grefydd arall mewn gair a gweithred; nid wyf yn siwr nad ystyrir ef yn rhinwedd mawr. Yr oedd ambell un yn daer dros ben: gwthie ei nwydde arnoch, a bron na chydie'n eich braich i'ch llusgo i fewn, bodd neu anfodd, i'w barlwr. Iuddewon a Groegwyr oedd y dosbarth mwya' egr; a difyr oedd gwrando ar Jones yn dal pen rheswm â hwy—yn eu tynu allan i gredu fod ganddynt ddau gwsmer hawdd eu twyllo—ac ar ol eu dwyn i ymyl bargen, yn ysgwyd pen, gan dd'we'yd:

"Mwsh aws!" ystyr yr hyn yw. "Dim eisie!" ac yn cerdded i ffwrdd mor ddihidio a chocosen. Mi fydde'r crëadur cellweirus wedi myn'd yn ei flaen weithie tra fyddwn i'n breuddwydio; a phan y trotiwn ar ei ol, dilynid fi gan furmuron bygythiol y gwerthwr.

"Be' mae o'n ddeud, Jones?" gofynwn, ar golli f'anadl.

"Bwrw anatheme ar eich ol, gorchymyn eich corff i'r fwlturied, a'ch ened i'r poenwyr," ebe'm cyfell, gyda'r un llyfnder ag y dywede'i bader.

"Mae'n dda iddo nad o'wn yn ei ddeall," meddwn, "onide fe'i tanbelenwn â rhai o derme barddonol Dafydd ab Emwnt, fel y gwnaeth Talhaiarn â'r 'sgrech hono o Billingsgate." Chwarddodd fy ffrind yn galonog, a d'wedodd hwyrach y cawswn gyfleusdra arall yn fuan.

"Mae eisie ffon arnaf," ebwn yn sydyn; ac aeth a mi at stondin hen Roegwr a adwaene. Rhoes ar ddeall i hwnw fy neges, a ffwrdd a'r "coryn" deudroed i'w gastell, gan ddwyn odd'no ffon lathr wedi ei gwneud o groen unicorn. Enw arall ar yr unicorn yw rhinoceros.

"Dyma hi," ebe fe, a gwên fuddugoliaethus ar ei wefus fain. "Bargen fawr—plygu fel chwip—dim nam," a throai'r ffon yn bob ffurf yn y byd o flaen ein llyged.

"Bekamde?" ebe Jones; "hyny yw, Beth yw ei phris?"

Ond cyn dweyd ei phris, parhau i dywallt ffrydlif o eirie cymeradwyol i'r ffon a'i rhinwedde wnai'r hen gono, nes bron a gwneud i mi gredu taw hen ffon Moses ydoedd, neu ffon Aaron ei frawd, a dweyd y lleia'; a pharod o'wn i'w phrynu ar unrhyw bris.

"Bekamde?" ebe Jones eilweth, mor swrth a phlismon.

"Eshreim," ebe'r gwerthwr, gan geisio ailddechre. Ond torodd Jones ar ei draws yn ddiseremoni—

"Mwsh aws," ebe fe, a ffwrdd ag e' dan chwibanu. Es ar ei ol, a gofynes iddo pa'm na phrynase'r ffon.

"Am ei fod yn gofyn punt am werth coron." Cauodd ben y mwdwl ar unweth. Y'mhen chwarter awr'ro'em yn pasio heibio stondin y Groegwr drachefn, a dyna lle'r oedd a'r ffon yn ei law o hyd.

"Bekamde?" ebe Jones y drydedd waith, heb aros dim, ac mor anibynol a miliwnêr.

"Arba," ebe ynte'n union; a che's y ffon am bedwar swllt! Hen eillwyr ofnadwy yw gwŷr gwlad Groeg, cystal a gwŷr gwlad Canaan unrhyw ddydd; ac yr oedd geirie Paul yn tori bob ochr pan dd'wedodd nad oedd "gwahanieth rhwng Iuddew a Groegwr."

Aethom drwy'r maelfeydd Tyrcedd, Persiedd, Indiedd, a Melitedd oll yn eu tro, a'u rhyfeddode'n amlhau ac ymehangu bob cam o'r ffordd. Yr oedd cyfoeth a gwychder y lle yn fy synu. Yr oedd fy nghydymeth yn adwaen rhai o'r maelfäwyr, ac yn ei gysgod ce's fwrw golwg dros rai o'r dirgelion oddifewn. Dynion caredig o'ent oll cy'd ag y safech gyda hwy i fargeinio; wn i ddim sut rai all'sent fod wedi i chwi droi cefn heb brynu. Meddent ar allu nodedig i edrych yn serchus ac i edrych yn gâs, fel y bydde'r cymhellion. Y ffordd effeithiolaf i gael llonydd ganddynt oedd siarad yn sarug â hwy, a thynu croen eich talcen dros haner eich llyged. Dyn a'ch helpo os na fedrech wneud hyny; fe'ch blingent yn fyw. I fyny ac i lawr—i'r dde' a'r aswy—y'mlaen ac yn ol—a'r naill le mor debyg i'r llall ag y gallent fod: yr oedd yn syndod i mi sut oedd yr hogyn yn gwybod ei ffordd cystal. O'r diwedd, ar ol troi a throsi, a chamu a chroesi ganoedd o weithie, mi all'swn dybied, dyma whiffyn o'r awyr agored yn disgyn ar fy ffroene—dyna oernad asyn yn disgyn ar fy nghlustie—dacw ddau o honynt yn sefyll yn hamddenol yn y fan draw, a phen y naill wrth gynffon y llall—a dacw Ali a Mustapha'n pwyso arnynt mor hamddenol a hwythau, dan chw'thu colofne o fwg sigarets allan o'u ffroene. 'Roedd deubeth yn peri iddynt fod hamddened—stoicieth eu natur a'u credo, a'r wybodeth taw wrth y dydd y cyflogid hwy.

Ffwrdd a ni drachefn. Yr oedd gwahanol aelode'r finte yn deall eu gilydd yn well erbyn hyn. Gadewes i Jones flaenori, a da i mi fu hyny cyn nemor o amser. Cyfeiriem yn awr i'r eglwys y sonies am dani, ac yr oedd yn rhaid ini fyn'd drwy ganol y farchnad Dyrcedd os am fyn'd yno'r ffordd agosa'. Ceir yma arwerthiant boblogedd bob bore', a'r dyrfa'n dew yn 'i gilydd, ac yn rhifo'i miloedd. Yr o'em yn ei chanol cyn ini'n brin osod ein hunen yn daclus ar y cyfrwy.

"Cauwch cich côt, a meindiwch eich 'watch!'" oedd gorchymyn Jones mewn llais croch, cynhyrfus. Ceisies wneud gore' medrwn, ond yn fy myw y gall'swn guddio'r gadwen o'r golwg, am nad oedd y gôt yn botymu'n ddigon isel. Ni welsoch erioed y fath helynt, ac ni chlywsoch erioed y fath fwstwr. Fel y d'wedes, Jones oedd yr arloesydd, ac yr oedd yn gofyn iddo dreisio'i ffordd yn llyth'renol drwy'r dyrfa—fel pe gwelech aing y'myn'd i mewn i bren. Dilynid ef gan Mustapha, yna, down ine, ac Ali ar f'ol. Gwaedde'r ddau Arab ar ucha'u llais yn ddïatal am i'r bobl glirio; gwaedde Jones c'uwch a'r ddau: ond ce's glywed wed'yn fy mod i wedi myn'd i waeddi c'uwch a'r tri cyn d'od yn rhydd o'r giwed guchiog. Gynted y cyll dyn ei hun dan rai amgylchiade!

Sut bynag, daethom drwyddynt yn ddïogel, a chawsom ein hunen yn fuan wrth gyntedd allanol yr eglwys. Bu raid ini wisgo sandale am ein traed cy' myn'd i mewn, a gadel yr asynod a'r arweinwyr fel o'r blaen y tu allan. Daeth gŵr arall i'n cyfarwyddo, yr hwn a ymgyfathrache â ni trwy arwyddion. Wedi gadel y porth, daethom i gyntedd agored anferth, yn yr hwn yr eistedde ac y gorwedde miloedd o ddynion, yn dỳre ar wahan, fel dosbarthiade mewn Ysgol Sul, ac athraw ar bob dosbarth. Yn llaw pob un yr oedd rhôl fechan, a dealles yn fuan taw darn o'r Coran oedd hwnw. Murmurent yn haner hyglyw ar hyd yr amser, ac yr oedd eu sŵn fel sŵn byddin o gacwn yn llawn gwaith. Pigem ein llwybr yn ofalus ar ol ein harweinydd—weithie'n cwmpasu, ac weithie'n camu dros goes y naill, a dwygoes y llall, a chorff y trydydd. Ni syfle un o honynt gyment a bys er mwyn ini basio'n hwylusach. Yr o'ent oll o dan belydre crasboeth haul y canolddydd, ac ymestyne rhai ar eu hyd, fel pe baent wedi eu llwyr orchfygu ganddo. Aethom i fewn i'r adeilad sy' dan dô, a chawsom ail-argraffiad o'r un olygfa. Ce's fy ngogleisio'n sydyn gan rywbeth neu gilydd wrth groesi'r ystafell hon, a throis at Jones am gydymdeimlad. Nid af i wadu na ddarfu i mi chwerthin yn uwch nag oedd yn weddus, erbyn cofio y'mhle'r o'wn. Ga'nad beth am hyny, dyma lais main, crynedig, yn cyredd fy nghlust:

"Er mwyn y Nefoedd, peidiwch a chwerthin, na siarad yn uchel!"

Mi feddylies fod yno Gymro arall gerllaw, ond dealles mewn pryd taw Jones oedd wrthi; a rhwng y llais a'r geirie, mi lynces yr awgrym, ac ni fum anufudd i'r datguddiad. Mae'n debyg imi beri i rai o honynt golli eu gwers: mi ge's un fy hun nad anghofies mo'ni wed'yn, Erbyn hyn, yr o'em wedi d'od at ystafell y puredigeth. Cymeres gipdrem ar y fan, yne mi drois ar fy sodle'n sydyn, cydies yn dỳn yn fy nhrwyn, a gwadnes hi odd'no gynted y gallwn. Yr oedd yn llawn bryd. Da oedd genyf hefyd gael gwared o'r sandale. Enw'r eglwys hon oedd "Eglwys y Brif-Ysgol," a d'wedwyd i mi fod yno bymtheg mil o eneidie y bore' hwnw, yn ddynion i gyd, heb wraig, na merch, na phlentyn yn agos i'r lle. Cofies am Ysgolion Sul Cymru, ac nis gall'swn beidio cymharu a chyferbynu.

Dyna i ch'i dro byr i fyd ac eglwys. A'r hyn sy'n rhyfedd yw—fod yn rhaid i chwi adel yr asynod allan cyn y cewch fyn'd i fewn i'r naill na'r llall o honynt.