Neidio i'r cynnwys

I'r Aifft ac yn Ol/Ffawd a Ffwdan

Oddi ar Wicidestun
Trem oddiar y Trothwy I'r Aifft ac yn Ol

gan D Rhagfyr Jones

Ar Grwydr

PENOD XIII.

FFAWD A FFWDAN.

 AE Alecsandrida'n ddinas fawr, a'i phoblogeth dros dri chan' mil; ond ni weles ei haner. Mae ynddi rai 'strydoedd gwychion, a llu o adeilade fydde'n gredyd i Paris; ond culion a brwnt oedd y rhan fwya'. Wedi 'sgriwio drwy haner dwsin o'r rhai cula', a dyodde' dirdyniade heb fesur oherwydd a'mhwylledd y gyriedydd ac arafwch y gwŷr traed i symud oddiar y ffordd, ryw ddiwrnod ce's fy hun yn sydyn yn y Grand Square, a'r cadben hefo mi. Mae'r 'sgwâr hwn yn deilwng o unrhyw ddinas yn Ewrob. Dyma lle mae'r bancie, a'r gyfnewidfa, a'r prif fasnachdai, a'r swyddfeydd pena', a'r gwestai gwycha'. Y'nghanol y 'sgwâr y mae cofadel i Mahomet Ali (os wy'n cofio enw'r gŵr yn iawn), un o gynfawrion y tir, a gerddi, a sedde; tra y rhuthra olwynion masnach a phleser heibio o bob tu ac i bob cyfeiriad. Cedwir y 'sgwâr yn lân a chryno, ac y mae i'r llygad fel darn o Baradwys y'nghanol yr anialwch. Allan o hono y rheda'r brif heol a elwir ar enw Cherif Pasha, ac yma de's i gyffyrddiad â'r Cymro twym'galon a gwladgarol y soniaf am dano yn fy Rhagymadrodd. Oni b'ase am dano ef a'i frawd yn Cairo, mae'n anodd gwybod pa beth a ddaethe o honof yn y wlad bell hono. Er yn frodor o Sir Gynarfon, mae wedi enill ei blwy' yn yr Aifft er ys agos i ugen mlynedd; a'i frawd yr un modd. Nid oes ei barchusach y'mhlith dinaswyr Alecsandria. Masnachu y mae mewn nwydde Seisnig, a'i lwyddiant yn gyfiawn ac yn sicr. Y'mhlith ei wasanaethwyr yr oedd bachgen o Gymro o'r enw Huws o Abergele, a bachgen melynddu o'r enw Selim, y rhai fuont arweinwyr i mi o bryd i bryd. Preswylia'r boneddwr ychydig allan o'r ddinas, a che's y mwynhad o dreulio un prydnawn Sabbath o dan ei gronglwyd. Mewn "fflat" y trigai—y "fflat" ucha'n yr adeilad, yr hwn oedd yn sicrhau nen y tŷ at wasaneth y teulu. Yr oedd yn cynwys amryw 'stafelloedd, wedi eu dodrefnu'n bena'n ol y dull Dwyreiniol. Yr oedd yr holl ffenestri'n agored, a'r awel garedica'n tramwy drwy'r tŷ. Oddiar nen y tŷ ceid golwg braf ar y ddinas a'r wlad oddiamgylch; ac mewn congl gerllaw fe gane ceiliog yn Gymraeg, ac fe ymdreche iar neu ddwy glochdar yn yr un iaith. Boneddiges o Aberystwyth yw Mrs. Bryan, ac yr oedd ganddi, pan o'wn i yno, beder o'r merched bach tlysa' fu gan fam erioed. Gwyn oedd fy myd I'r prydnawn hwnw; bydded hwythe wynfydedig byth gan yr Arglwydd.

Yr wyf y'meddwl imi ddechre'r benod hon gyda chyfeiriad at y cadben a mine y'myn'd i mewn i'r 'sgwâr yn y cerbyd ar ryw ddiwrnod, ac yr wyf y'meddwl hefyd taw'r diwrnod y glanies oedd y diwrnod hwnw. Ar ol bod yn y llong am bythefnos, yr oedd fy aelode isa' dipyn yn chwareus, a chawn fy hun yn taro'n erbyn rhyw Ismaeliad o hyd. Anodd oedd peidio, gan mor aml y dynion a chul yr heolydd. Cymerasom y traed cyn cymeryd y cerbyd, ac wedi pasio drwy un o byrth y deyrnged, cawsom ein hunen y'nghanol y dyrfa. Croesasom y 'stryd—anturieth heb fod yn ddiberyg', o herwydd y cerbyde o bob math a chwim-basient i fyny ac i lawr. Heb fod nepell oddi-yma y mae palas y Khedive, brenin yr Aifft. Gorchuddia ddarn mawr o dir, ac nid oes dim yn brydferth ynddo. Llanastr o dŷ isel ydyw, yn wỳn i gyd drosto, yn ffenestri bob tamed o hono, ac yn gwynebu i'r môr. Yr oedd yn anodd dal i edrych arno, gan fel yr oedd yr haul yn t'w'nu ar ei furie gwynion a'i ffenestri gloewon. Nid yw y brenin yn byw yma'n barhaus. Yn Cairo y mae ei brif balas; ond pan ä'n rhy boeth i fyw yno'n gysurus, symuda i Alecsandria, i gael y fantes o awelon y môr. Dilynir ei esiampl gan y rhan fwya' o'r mawrion. Troisom ar y dde i heol gul, oedd yn llawn siope, a swydd-dai, a cherbyde, a phobl, a phlant. Yr oedd yr heol guled fel, pe safech ar ei chanol, y gallech ysgwyd dwylo'n dalïedd â'r dynion oedd bob ochr i chwi. Yr oedd lled llaw o balmant yn rhedeg gyda'r ochre' ond camp i chwi fydde sefyll arno am ragor nag eiliad. A phan wthid chwi oddiarno gan rywun neu gilydd un foment, gyrid chwi'n ol y foment nesa' gan ryw Jehu a fygythie redeg drosoch. Yr oedd siope agored bob ochr i'r 'stryd, tebyg i stondine ffeirie Cymru, yn y rhai yr oedd pob math o nwydde, a dau neu dri o beryt yn crogi wrth eu cewyll oddiallan, ac yn 'sgrechen Arabeg i dynu sylw'r dyrfa. A mi wna lw nad oedd sylw neb yn fwy effro na f'eiddo i.

I b'le bynag y crwydrwn yn Alecsandria, deuwn yn ol, fel swllt drwg, i'r llong erbyn pob hwyr i gysgu. Weithie'n gynar, weithie'n ddiweddar: dibyne hyny ar hŷd y daith am y diwrnod, ac ar y cwmni, ac ar yr amgylchoedd y cawn fy hun ynddynt. Nid o'r un cyfeiriad y deuwn bob tro, ac nid ar fy nhraed y byddwn bob amser. Dïogelach oedd llogi cerbyd pan fydde wedi myn'd yn hwyr iawn, er hwyrach y byddem yn ddau a thri mewn nifer. Gwneud cilwg gâs ar dramorwr o'r Gorllewin mae dosbarth o'r Arabied, ac ysgyrnygant ddanedd arno pan dybiant y gallant wneud hyny a bod yn groeniach. Ymddygant felly liw dydd gole'; afred yw d'we'yd eu bod yn fwy haerllug liw nos pan gânt gyfle. Ni fum i heb gwmni'n cerdded i'r llong gyment ag unweth, ond bum yn un o ddau gryn ddwsin o weithie; ac er na ddigwyddodd i mi na niwed nac anffod yn y gwibdeithie nosol hyn, mi ge's beth braw ragor na siwrne. Bernwch chwi.

Yr oedd y cadben a mine wedi bod ar ein hynt yn rhywle, ac wedi cael ein hunen rywbryd gyda'r nos, rhwng dau ole', yn bur bell o'r fan lle'r oedd y llong yn gorwedd, ac wedi blino heb gellwer: y gwyneb a'r dwylo'n 'stiff gan lwch a haul, y pen yn poeni, a'r traed yn poethi—yr o'em wedi myn'd i hercian fel dau drempyn er's meityn, ac yn hiraethu am y caban bach yn y llestr, er lleied oedd. Drwy ryw gydymdeimlad cyfrin, daethom i ddeall beth oedd prif angen y naill a'r llall yr un pryd; a'r canlyniad oedd, ini alw'n dau yr un pryd ar gerbydwr a ele heibio, yr hwn, ar ol cymeryd arno ei fod yn gwybod y cwbl ac yn deall rhagor, a'n cymerodd o'r fan hono yn ei gerbyd. Ac O, gyfnewidiad cysurus! Rhoisom raff i'n mwynhad, a buom ddall, mud, a byddar i bobpeth arall am ysbed chwarter awr. Tybiaf ini dd'od 'nol i'n hamgylchoedd agosa' tua'r un adeg. Beth bynag, tynodd y cadben fy sylw i at gymeriad amheus y gym'dogeth yr aem drwyddi, a thynes ine ei sylw ynte at gymeriad amheus y gyriedydd a eistedde o'n blaen.

"Nid dyma'r ffordd i'r doc!" ebe'r cadben.

"Nid hwn yw'r dreifer a logasom!" ebwn ine.

Yr oedd y cadben y'nes i'w le na mi. Gwge hen furddynod hagr arnom ar bob llaw, sarheid ein ffroene diniwed gan arogliade amryw a dieithr, a merwinid ein clustie gan gri begeried. "Bwrw tân" atom y bydde ambell i lygad wrth basio; ac er galw ar Jehu, ni chymere arno'n clywed, ond gyru'n ynfyd a wnai. Y'mhen hir a hwyr, daethom at ffordd haiarn, ac yr oedd yn rhaid ei chroesi neu droi'n ol. Er fod y clwydi'n gauad, nid oedd na thrên na pheiriant yn y golwg. Disgynodd Jehu i agor y clwydi o'r ochr hyn, ac wedi arwen y ceffyl a nine i ganol y cledre, dyma chwibaniad! a dyma'r swyddog oedd yn gofalu am y groesffordd yn d'od allan o'i focs, yn cydio y'mhen y crëadur o law'r crëadur arall, ac yn gollwng allan y diluw mwya' 'sgubol o fras hyotledd. "Tra yr oedd hwn yn llefaru," dyma ruthr o gyfeiriad y clwydi cyferbyniol, lle'r oedd dynion a cherbyde ganddynt yr ochr arall, ac yn disgwyl am gyfleusdra i groesi. Heb estyn dim at y 'stori, yr oedd yno gryn haner cant o'r tafode grymusa', yn cael eu helpu gan draed, a dwylo, a llyged, a danedd, duon a gwynion, fflachiade mellt y'nghanol caddug—y cerbyd, a nine ynddo, ar ganol y rheilie—dim posib' myn'd y'mlaen, dim siawns i fyn'd yn ol—trên yn ymyl a'i beiriant yn 'sgrechen ei anadl allan—a'r Pandemonium mwya' cysurus o amgylch ogylch! Golygfa i'w chofio ydoedd. Deallem eu bod oll y'mhen ein gyriedydd ni, ond haws oedd deall iaith gwydde Cymru amser Nadolig, na iaith y gwerinos hyn. Yr oedd gwyneb y cadben wedi newid ei liw droion, ac nid oedd fy ngwep ine ronyn gwell, mi wn. Yr oedd e' o'r farn taw gwell oedd disgyn; barnwn ine taw gwell oedd ini lynu wrth y cerbyd, ar dir rheswm a 'sgrythyr. A dyna fu ore'. Wedi ymryddhau o'r criw 'stwrllyd, a chael llwybr clir drachefn, cawsom digon o achosion i ddïolch taw nid ar ein traed yr o'em. Yr oedd y cerbydwr wedi colli'r ffordd cyn cyredd y clwydi, a chollodd ei ben wed'yn; y canlyniad oedd, ini gael awr arall o chw'sfa cyn cyredd y doc, rhwng ofn a phryder a phobpeth. Chwarddasom yn galonog y noson hono, ar ol ini gael ein traed ar ein tomen ein hunen.

Pan o'wn wedi bod yn treulio'r prydnawn Sul hwnw gyda'r ffrind o Gymro y sonies am dano, tua chwech o'r gloch mi feddylies ei bod yn bryd i mi gychwyn yn ol, os o'wn am gael odfa bregeth yn y Sefydliad i'r Morwyr, yn ol y cynllun. Yr oedd genyf awr o amser wrth gefn. Cymerodd fy nghyfell boen i'm cyfarwyddo sut i gael gafel ar y tram, ond bum yn hir cyn d'od o hyd iddi. Cerddes fwy na mwy, ac er holi, nid oedd neb yn fy neall, na mine'n deall neb. O dïolch, dyma hi o'r diwedd—ond mae hon yn rhy lawn i gynwys rhagor. Gadewes iddi fyn'd, ac aroses am y nesa'. Wel, wel, mae hon yn llawnach na'r llall, ac yn colli drosodd o ddynion! Rhaid imi dreio bachu'r drydedd, neu ffarwel i'r odfa. Neidies i fyny, a ches led troed ar y grisyn i sefyll. Ni welsoch gynifer o bobl erioed mewn un cerbyd. Dringent ar hyd ei ochre fel gwybed. Yr oedd yn rhaid i'r tocynwr dreisio'i ffordd drwy'r dyrfa, a synwn at ei amynedd. Mor bell ag y gall'swn wel'd, myfi oedd yr unig ddyn gwyn o fewn i'r lle; a mi'r o'wn getyn gwynach nag arfer hefyd. Dywedase fy nghyfell wrthyf fod y tram y'myn'd drwy'r Grand Square, a llygadwn am hwnw'n bryderus. G'yd y deuem iddo! Tybed fy mod wedi camgymeryd y cerbyd! Ond para i redeg a wnae ar hyd heolydd culion—mor gulion, nes peri i mi wasgu fy hun yn erbyn ochr y cerbyd rhag fy 'sgathru gan y murie. Mi benderfynes lynu wrtho b'le bynag yr ae, deled a ddele i'm cyfarfod. Cofiwn i hyny dalu'r ffordd imi'n ddiweddar. Mi ofynes i'r swyddog fy ngosod i lawr yn ymyl y Gabara, neu'r carchar. Nid am fy mod wedi bod ynddo, ond am y gwyddwn fy nghyfeiriad oddiwrtho. Eithr ysgwyd ei ben a dangos ei ddanedd wnae'r swyddog pan dd'wedes y gair, ac y mae mor debyg a dim nad o'wn yn ei seinio'n briodol. O'r diwedd, dyma'r 'sgwâr, a dyma ben ar fy mhenyd ine. Milldir arall, a disgynes ar gyfer y Gabara; ac ar ol ugen munud o gerdded cyffrous, mi gyrhaeddes y Sefydliad yn brydlon erbyn y bregeth.

Yr ochr nesa' i'r ddinas o'r tollborth sy'n arwen o'r docie mae tua dwsin o dafarne, isel y'mhob ystyr, y rhai sy'n byw'n bena' ar arian a dillade'r morwyr. Cedwir nifer o sharcied ar lun dynion yn y tylle hyn, a denant Jac i fewn; yna dygir ei synwyre oddiarno gan y gwenwyn a ŷf, a theflir ef allan i'r heol agos y'noethlymun. Dilynodd dau o'r giwed hyn myfi ac un arall un noson am bellder ffordd, a chynyddent mewn beiddgarwch er gwaetha'n protestiade. 'Doedd dim i wneud ond troi arnynt. Prynaswn ffon o groen rhinoceros ychydig cyn hyny, a phan y bygythies hwy â hono, ciliasant yn eu hole fel dau whelpyn wedi eu curo. Da i mi na wyddent beth dd'wede fy nghalon!