I'r Aifft ac yn Ol/Ar Grwydr

Oddi ar Wicidestun
Ffawd a Ffwdan I'r Aifft ac yn Ol

gan D Rhagfyr Jones

Yn y Tren i Gairo

PENOD XIV.

AR GRWYDR.

 CERBYD sy' mewn bri mawr yn yr Aifft yw yr un y gelwir arabeyah arno. Tebyga i hansom cab ein gwlad ni, ond ei fod yn ysgafnach na hwnw, a'r gyrwr o'ch blaen yn lle o'ch ol. Yr wyf yn meddwl fy mod wedi eich dwyn i gyffyrddiad a'ch gilydd yn y benod flaenorol. Mae canoedd o honynt i'w cael yn y prif drefi, a'r oll yn gyfrifol i'r Llywodreth. Maent wedi eu rhifo'n ofalus, a'r gyrwyr hefyd, yr un modd a nine. Eto, prin yr anturiech i ambell un o honynt, gan mor ddigymeriad yr ymddengys y cerbyd a'r cerbydwr. Ac os anturio wnewch, yr ydych yn y purdan c'yd ag y byddwch ynddo. Mi allwn dybied nad oes yno un ddeddf yn gwahardd ac yn cosbi gyru eithafol. Paradwys i "yrwyr ynfyd" o ddosbarth motorwyr a dwy-rodwyr y Gorllewin; ac ni fydde gan aml i amaethwr wrthwynebiad i ryddid gogoneddus o'r fath wrth ddychwelyd o'r dre' brydnawn Sadwrn. Y syndod i mi oedd, sut na fase llawer yn cael eu hanafu a'u lladd, yn enwedig o blant, gan mor llawn a chulion y 'strydoedd, a chan mor ddireswm y gyrid. Ni chlywsoch y fath Babel erioed ag sy' rhwng y gyrwr yn dirwyn ar y ceffyl ac yn gwaeddi ar y dyrfa i symud oddiar y ffordd, ar y naill law, a'r dyrfa hithe yn tywallt anatheme ar ei ben, ar y llaw arall.

Pe gallech feddianu eich hun i gymeryd 'stoc o'r amgylchoedd, deuech yn fuan i fod o'r farn taw un o'r cyfrynge gore' i wel'd bywyd cyffredin y bobl yw yr arabeyah. Yr ydych yn eu canol, ac eto'n ddidoledig oddiwrthynt. Ond bydd chwarter o ysgol, a d'we'yd y lleia', yn ofynol cyn y llwyddwch i gyredd y 'stad ddymunol yna. Rhaid i mi gyfadde i mi fethu. Y tro cynta'r es iddo, yr oedd yn ferthyrdod perffeth. Sôn am 'storm ar y môr! Yr oedd yn felus o'i chymharu â chwarter awr mewn arabeyah! Ni weles neb mor ddibris o einioes a meddiane.

Yr wyf wedi sôn am olwg ddiolwg y cerbyd a'r cerbydwr; mae'n ddrwg genyf orfod d'we'yd am y ceffyl, nad oedd ynte, druan, ddim gwell. Yr oedd edrych arno ef, a'i gyd-grë'duried yn dwyn i'm cof bob 'stori a glywes am geffyle tene erioed. Cofiwn am y gŵr cyflym hwnw a basie heibio i efel gôf pan oedd ceffyl yn aros i'w bedoli. P'run ai sefyll ai gorwedd oedd y crëadur, mae'n anodd d'we'yd gan mor dene ydoedd.

"Ai dyma lle ma' cyffyle'n ca'l u gneud?" gofyne'r gŵr cyflym i'r gôf.

"Eu gneud!" ebe mab Vulcan, heb wel'd yr ergyd; "bewt ti'n feddwl?"

"O, dim ond 'mod i'n gwel'd ffrâm ceffyl yn y fan yma, dyna i gyd!" ebe'r arabus; a ffwrdd ag e'. Gyda llaw, fe dd'wedwyd i mi fod y gôf hwnw heb wel'd yr ergyd byth! Un go dew ei fenydd yw ambell i ôf, ysyweth.

Sonie Kilsby am gi oedd mor dene nes ei bod yn angenrheidrwydd poenus arno i bwyso yn erbyn y wàl bob tro y cyfarthe!

Pan o'wn yn byw ar Gefncoedcymer, yr oedd yna bydler yn gweithio y'ngwaith y Gyfarthfa a chanddo gi can deneued a'r teneugi teneua' a welsoch mewn deng mlynedd. Llusge'r ci ar ol ei feistr i'r gwaith bob dydd. Gofynodd rhywun iddo—nid i'r ci, ond i'r pydler:

"B'le ce'st ti'r ci 'na, Ianto?"

"Dw i ddim wedi ga'l o yto," ebe Ianto.

"Sut hyny, bachan?"

"O, d'od ma's yn rhana' ma' fa," ebe'r pydler. "Pan ddaw a ma's i gyd, mi fydd yn gyfrol biwr ddigynyg!"

Perthyn i'r dosbarth yna o bedwar-carnolion ysgerbydol yr oedd y ceffyl a lusge'r cerbyd y bum i ynddo ar un achlysur yn Alecsandria. Tebyg i'r buchod a welse Pharo'n ei freuddwyd—drwg yr olwg a chul o gig. Yr oedd ffrewyll y gyrwr ar ei wàr a'i ochre'n ddibaid, a'i lais cryglyd yn gwaeddi ar y bobl am droi o'r neilldu'n ddïatal. Lletye 'nghalon yn fy ngwddf c'yd ag yr eisteddwn o'r tu ol iddo. Gwelwn ddynion a merched yn cael eu gwasgar o'i flaen fel haid o ddefed; a chauwn fy llyged yn dỳn pan dybiwn fod cerbyd arall y'myn'd i'n rhedeg i lawr.

Yr unig dro y mwynhês i fy hun mewn arabeyah oedd pan aeth y cadben a mine am ddarn diwrnod allan o'r dre' i wel'd Colofn Pompi, y Bedde Tanddaearol, Gerddi'r Brenin, glane'r Nile, a Ramle, un o'r maesdrefi. Ac am y tro hwnw yr wyf y'myn'd i sôn yn awr.

Heblaw Jehu, llogasom ddyn o'r enw Moses yn arweinydd i ni; ac yr oedd yr enw a'r swydd yn taro eu gilydd i'r dim. Arabiad oedd Moses, ac arno ef yr oedd gofal y llong yn y nos c'yd ag yr oedd yn y doc. Edryche'n frwnt ddiraen wrth ei waith, ond y prydnawn hwn yr oedd wedi ymbincio'n anghyffredin; yr oedd ei wisg yn wèn fel eira, a'i ymddangosiad yn foneddigedd dros ben. Efe oedd yr unig Arabiad a glywes yn ceisio siarad Cymraeg; ond cystal i mi ei dd'we'yd a pheidio, nid oedd ei eirie'n yr hen iaith mor ddewisol ag y b'aswn yn caru eu bod. Yr oedd ganddo ddwy wraig a thri o blant. Bydde'r prif swyddog yn hoff o gellwer ag ef.

"P'sawl gwraig, Moses?"

"Dwy."

"P'sut wyt ti'n gallu rheoli dwy, a fine'n methu rheoli un?"

"Rhoi un i ofalu am y llall, a fine i ofalu am hono," ebe Moses. "Faint o blant sy' genti?"

"Tri."

"O, un-a-haner bob un, ai e? Oes cynffone gyda nhw, Moses?"

"Nag oes," ebe'r Arab yn syn.

"Siwr o fod—mwncis bach ydyn' nhw, Moses,—chwilia di am u cynffone nhw heno!" Ni ddangose Moses gysgod anfoddlonrwydd i'r cateceisio manwl hwn, ond fe ddangose'i ddanedd gwynion mewn llawn tymer dda.

Y lle cynta' y daethom iddo oedd Colofn Pompi a'r Bedde. Un darn anferth yw'r Golofn, sydd yn peri i chwi synu sut y gosodwyd hi ar ei phen erioed. Un o gadfridogion Rhufain oedd Pompi, yn byw oddeutu haner cant o flynydde cyn Crist. Ai ganddo ef ei hun, ynte gan rywun arall er cof am dano, y codwyd y golofn, 'does neb a ŵyr. Ond mae'n sicr o fod yn hen iawn, fel bron bobpeth sydd yn y wlad 'rwy'n traethu am dani.

Yn ymyl mae'r Catacombs, neu'r Bedde Tanddaearol. Yn gynta', eir i lawr ddeugen o risie'n yr awyr agored; yn ail, eir i fewn yn sydyn i fath o dwnel; ac yn drydydd, disgynir yn raddol wrth ole' canwylle nes y deuir i d'w'llwch y gellir ei deimlo. Tybir taw'r Crist'nogion Coptaidd cynta' gleddid yn y bedde hyn; ond mae'r cyrff oll wedi eu symud i'r Amgueddfa yn Alecsandria. Mi weles nifer o honynt yr un diwrnod wrth ddychwelyd. Y bedde'n unig oedd yma. Math o dylle hirgul oedd y rhein, wedi eu gweithio i fewn i'r ochre, ac i'w cael ar bob llaw i'r llwybre. Mae'n hawdd i ddyn golli ei ffordd yn y dyrysle hwn, ac oni bai fod genym arweinydd lleol,—ein harwen at y lle'n unig wnai Moses,—mae'n amheus genyf a wele'r cadben a mine ole' dydd drachefn. Wesul tipyn, daethom i 'sgwâr, o'r hwn yr oedd yr holl lwybre'n rhedeg, ac i'r hwn y dychwelent. Ar ganol y 'sgwâr yr oedd careg anferth o dywod wedi caledu, a throsti yr oedd canoedd o enwe wedi eu 'sgriblo gan bersone fuont yno, fel fy hunan, yn aberthu i dduw henafieth. Ar ol chwilio am damed glân, tores ine f'enw y'mhlith y llu, er afrwydded oedd. Yr oedd hyn yn fwy o gamp nag a feddyliech; ac wedi gorffen, dyhewn am dd'od o'r twll myglyd i anadlu awyr iach Duw'r Nefoedd. Pan ddaethom allan, yr oe'm yn chw'su fel tanwyr, yn chw'thu fel cŵn ar wres mawr, yn wincio ar yr haul fel dallhuanod, ac yn siglo fel dynion wedi meddwi. Ac wedi meddwi yr o'em ar beth gwaeth na chwrw a licwr,—ar awyr wenwynig, yr hon y buom awr gron gyfan yn drachtio o honi.

Ffwrdd a ni wed'yn i gyfeiriad yr afon, a buom yn olwyno gyda'i glane am hir ffordd. Yr ochr arall iddi yr oedd canoedd o fwdgabane, a dynion yn ymolchi ynddi ac yn yfed o honi. Yr ochr hyn iddi yr oedd gerddi gorwych, pyrth henafol yn arwen i mewn i balase teg, ac hyd y'nod i hen furddyne adfeiliedig. Gwelwn ambell i fad afrosgo'n croesi, ac weithie'n glynu'n yr hesg. Tyfe'r hesg yn dew ac yn uchel dros rane o'r afon,—mor dew ac mor uchel nes cuddio peryg' i'r ymdrochwyr a'r gwehynwyr dwfr. Welwch chi'r tamed tywyll acw sydd yn edrych fel darn o bren pwdr y'nghanol y llafrwyn? Ha! dyna fe'n symud, ac yn llithro'i lawr i'r dw'r. Beth yw hwna, Moses? Dyna un o grocodilied yr afon, y rhai a ddeuant i lawr can ised a hyn yn amser newyn, a'r rhai a addolir gan y bobl fwya' anwybodus, fel na wnant ddim iddynt i achub eu bywyd eu hun na bywyde eu gwragedd a'u plant.

Ar ol teithio tair milldir neu ragor gyda glàn yr afon, troisom i fewn i erddi'r Brenin. Maent yn eang ac yn ffrwythlon, ond mor afler a'r tamed gardd sydd genyf fi y tu cefn i'r tŷ lle'r wyf yn byw. Ceir ynddynt goed palmwydd wrth y miloedd, yn enwedig y date-palm. Tŷf y rhai'n yn dalion iawn. Mi weles ddynion yn rhedeg i fyny i'w brige ucha' fel gwiwerod, i'w talfyru. Rhwymant wregys cryf am eu canol, ac am y pien, ac esgynant mewn cyfres o herciade. Mae yma hefyd nifer fawr o goed ffigys a banane. Nid hir y buom cyn myn'd i'r Amgueddfa i wel'd y cyrff fu'n gorwedd ar yr estyll yn y Bedde Tanddaearol. Ni ddeil hon i'w chymharu âg Amgueddfa Ghizeh, yn Cairo. Ei phrif nodwedd oedd hyfdra'r swyddogion ofalent am dani. Codent dreth arnoch am gael anadlu 'mron, a bu gorfod i mi siarad tipyn o Gymraeg â hwy cyn iddynt dewi, er mawr ddifyrwch y cadben. Cafodd amgenach dylanwad arnynt hwy nag a gafodd ar hen sipsiwnen wrth draed y Pyramidie, am yr hon y cewch glwed eto. Bu'r hen iaith o fantes anrhaethol i mi ragor na siwrne. Yr oedd y cnafon yn deall acen a goslef y Sais a'r Ffrancwr; ond nid oedd ganddynt syniad am dafodieth Cwm Rhondda, a gosodwn y diffoddydd arnynt mewn byr amser.

Aethom allan i'r wlad drachefn, o dan gysgod y palmwydd am filldiroedd, nes d'od i Ramle', un o faesdrefi Alecsandria. Dyma lle mae'r bendefigeth yn byw, a braf yw eu byd. Erbyn hyn yr oedd yn dechre' nosi, a throisom yn ein hole. Pan gyrhaeddasom y llong, yr o'em ein dau mor newynog a bleiddied ar amser eira, ac mor flinedig a phlant sy'n talu 'mlaen am eu gwely wrth chware' ar hyd y dydd.

A d'wedwch chwi os na fum yn crwydro y diwrnod hwnw.