I'r Aifft ac yn Ol/Yn y Tren i Gairo

Oddi ar Wicidestun
Ar Grwydr I'r Aifft ac yn Ol

gan D Rhagfyr Jones

Cairo wedi'r Dydd

PENOD XV.

YN Y TREN I GAIRO.

 MAE gwel'd trên yn yr Aifft yn ysbeilio'r wlad henafol hono o swm nid bychan o'r gogoniant gysylltir â hi'n gyffredin, ac â phob gwlad o'i bath. Bid siwr, ceir ynddi gamelod ac asynod, ychen a dromedaried, y'nghyda phedwaried cyffelyb; ond ceir ynddi drên hefyd, ac y mae hwnw'n Gorllewineiddio pethe'n anghyffredin. Ac eto, oni bai am y trên, sut y galle teithwyr glirio cyment o dir mor ddidrafferth, a gwel'd cynifer o ryfeddode mewn can lleied amser? Yr oedd y pryd hwnw'n rhedeg i Cartŵm, pellder o ddwy fil o filldiroedd; ac y mae wedi rhedeg bwer y'mhellach oddiar hyny. Tebyg yw na orphwysa mwy nes y tramwya o eitha'r Gogledd i eitha'r De. Pan yn codi tocyn o Alecsandria i Cairo, mi ofynes o gywreinrwydd pa faint a gostie tocyn o Alecsandria i Cartŵm un ffordd: a be' feddyliech oedd yr atebiad? "Deg punt ar hugen!" Mi wnes fy meddwl i fyny'n union taw gwell i mi oedd peidio myn'd mor bell a hyny y tro hwn, gan'ad sut y bydde wed'yn. Gorwedda dros chwech ugen milldir o dir gwastad i'r llygad rhwng Alecsandria a Cairo, a rhedasom y pellder yna, neu rhedodd y trên a ni, mewn teirawr, yn gwneud cyfartaledd o ddeugen milldir yr awr. Pan gofiwch nad yw'r peiriant na'r peirianwyr i fyny y'mhopeth ag eiddo'n gwlad ni, chwi gydnabyddwch ini redeg yr yrfa'n òd o ebrwydd. Mi dybia' fod y daith hon yn werth penod, ac felly cychwynwn yn ddiymdroi.

Codir y tocyn o'r tu allan i'r orsaf: ni cheir mynediad i mewn hyd y'nod i'r ystafell aros, heb sôn am y platfform, heh docyn teithio. Hyny yw, at wasaneth teithwyr, a theithwyr yn unig, mae'r orsaf yn Alecsandria. Cyflwynaf y wers i awdurdode rheilffyrdd y wlad hon. Nid yw Cairo cystal. Mae tri dosbarth yn perthyn i drên yr Aifft fel trên Lloegr, gyda hyn o wahanieth,—nid yw'r trydydd i'w gael gyda'r cyntaf a'r ail. Ymffurfia hwnw'n drên ar ei hen ei hun. Ce's gip arno pan yn aros yn un o'r gorsafe, a thebygwn ef yn fy meddwl i drycie dâ'r T. V. R. ugen mlynedd yn ol! Es i fewn i gerbyd o'r ail ddosbarth. Mae tri neu bedwar o'r rhein mor agos gysylltiedig â'u gilydd, fel y gellwch gerdded yn gysurus o un pen i'r naill i'r pen arall i'r llall. Mae llwybr i'w gael o bwrpas i'r perwyl. Rhwng pob cerbyd mae platfform isel, i fyny'r hwn yr ewch wrth fynd i fewn, ac ar yr hwn y gellwch sefyll, os dewiswch, ac os na thry eich pen yn Brotestant, c'yd ag y mynoch, yn yr awyr agored, ac heb ddim rhyngoch a'r wlad oddiallan. Bum yn sefyll arno droion am amser hir, a mi dd'wedaf wrthych yn union pa'm.

Yr oedd y trên yn llawn o deithwyr, ac ni fum yn cyd-drafaelu â theithwyr rhyfeddach yn fy nydd erioed. Brodorion y wlad o'ent gan mwya', yn dduon, a melynion, a chochion,—a budron hefyd lawer o honynt. Eisteddent ar y sedde a'u traed odditanynt fel teilwried, ac ysmygent sigreti'n ddidor. Ychydig sylw wnaent o'u gilydd, a llai fyth o'm siort i, os na fydde eisie tân arnynt; dïolchent am fatsen fel pe bai ffortiwn. Bum am ysbed heb wel'd neb arall, a thybiwn taw myfi oedd yr unig ddyn gwyn yn y lle,—er y gell'sid ame' fy lliw ine. Ond mi gwrddes â dau Ellmyniad yn fuan ar fy hynt drwy'r cerbyde, y rhai a edrychent can wyllted a geifr ar darane. Yr o'wn wedi eu gwel'd o'r blaen y'ngerddi'r Brenin yn Alecsandria. Wrth eu clywed yn ymddifyru gyda'r "ch," mi ofynes iddynt yn Gymraeg:

"Ai sych yr ymbesychasoch?"

Ond edrych arnaf mor hurt a lloi a wnaent. Treies wedy'n:

"Ai chwech-a-chwech yr un a roisoch am berchyll bychen cochion eich hwch goch chwychwi a'ch chwaer?"

Bobl anwyl! Dyma'r gafod greulona'n dilyn mewn atebiad, nes y bu gorfod i mi droi at ryw hen "shêch" a eistedde gyferbyn â mi am amddiffyniad, yr hwn oedd yn dangos ei ddanedd fel pe'n deall y cwbl.

Yr oedd digon o ffenestri yno i foddloni ffatri, ac yr o'ent oll yn agored. Y canlyniad oedd fod y gwynt mwya' dïarbed yn tramwy pob cwr o'r trên, yn cario lon'd ei gôl o dywod, ac yn ei daflu i'ch llyged ac ar draws eich dillad mor ddiseremoni a phe baech wedi rhoi archeb am y cwbl. Lle ofnadwy ydoedd i ddyn oedd yn ferthyr i'r ddanodd! Weithie, fe ddeue'r gwynt gyda'r fath ruthr direidus nes dynoethi'ch pen, oni fyddech ar eich gwyliadwrieth. Gwnaeth hyny â mi siwrne, a bu mor anfoesgar a bwrw fy nghapan i wyneb yr hen "shêch" y sonies am dano. Bu raid i mi wneud ymddiheurad i hwnw drosof fy hun a'r gwynt, a'r aberth cymod oedd haner dwsin o "fatsus." Dyna pa'm y safwn am ysbed ar y platfform, i gael llai o wynt a mwy o gysgod. Ond 'roedd yno ddigon wed'yn i droi meline Sir Fôn bob un! Gwell oedd peidio ffraeo âg ef, oblegid yr oedd meddyginieth yn ei esgyll oddiwrth wres a phob drwg-arogl.

Yn rhyfedd iawn, ni welwn un o'r "rhyw deg" yn un man wrth gychwyn, dim ond dynion geirwon lle bynag yr awn. Ai tybed fod merched yr Aifft yn fwy ceidwadol na'r dynion, gan ddewis yn hytrach lynu wrth yr asyn a'r camel na chymeryd eu llusgo wrth gynffon yr agerbeiriant? Ond cyn cyredd Cairo, mi ge's allan fod ganddynt hwy eu cerbyd eu hunen, a gwae'r crëadur y gelwir "dyn" arno fuase'n anturio i'w presenoldeb! Y fath chwedleua raid fod yn y cerbyd hwnw! Oblegid mae'r foneddiges o'r Dwyren mor hoff o 'stori ag yw ei chwaer o'r Gorllewin am ei danedd.

Sut yr edrycha pethe oddiallan? Drwy ba fath wlad y teithiwn? Wel, mae pethe oddi allan mor hynod ag yw pethe oddifewn. Nid trwy ganol caëe gwair a meusydd llafur, coed a pherthi, mynydde a brynie, heirdd drefi a harddach pentrefi y teithiwn, fel pe bawn y'Nghymru, ond dros wastadedd o dywod, a mwd, a dwfr,—tywod, a mwd, a dwfr,—tywod, a mwd, a dwfr. Pasiwn heibio i wmbredd o bentrefi, yn fwy ac yn llai, a 'doedd dim yn hardd ynddynt i lygad a chwaeth Cymro. Tomene o laid wedi sychu'n yr haul nes bod fel y gallestr—nen y tŷ'n fflat, lle mae dillade'n crogi, dynion yn gorwedd, a ffowls yn ffraeo—yr ochre wedi eu rhidyllu bob hyn-a-hyn, y tylle mwya'n golygu'r dryse, a'r tylle lleia'n golygu'r ffenestri. Plant yn chware' heb bilin yn eu cylch i'w cloffi—y mame'n clebran â'u gilydd yn y cywer C dwbl—y gwŷr yn ceisio dal pen rheswm â'u hasynod a'r asynod y'methu cydwel'd. Ychydig o balmwydd talion yn ysgwyd eu dail uwch eu pene, a'r amgylchoedd pell ac agos yn cyfranogi'n bena' o dywod, a mwd, a dwfr—tywod, a mwd, a dwfr.

Dyna'r pentrefi; a'r unig wahanieth rhyngddynt a'r trefi oedd fod yr ola'n domene mwy eu maint. Ymsaetha pinacl y "mosc" i fyny o ganol y pentre' gwaela', ac y maent i'w gwel'd yn y trefi draw bron can amled a'r tai. Heb fod nepell o'r pentrefi agosa', gwelwn ddarn o dir wedi ei gau i fewn, a chodiade trefnus a chyfartal dros y rhan fwya' o hono. Wedi imi gael esboniad, mi ddealles taw mynwentydd o'ent, y rhai a gedwir gan yr Arabied lawer glanach na'u tai. I dori'r unffurfieth, gan fod yn help i'r llygad orphwys, fe ddeue i'r golwg weithie gaëe gleision o ryw fath o borfa i ddyn ac anifel. Ymddangose'n dehyg i'r llysie y gelwir "berw'r dw'r" arnynt; a mi weles sacheidie o hono wed'yn yn Cairo gan yrwyr anifeilied, y rhai a'i bwytaent bob yn ail a'u gilydd, a'r naill mor awchus a'r llall.

Trwy gydol yr amser yr oedd miloedd o bobl yn pasio i fyny ac i lawr—llu ar draed, lluaws ar anifeilied, a lluoedd mewn cerbyde o bob math—a neb yn brysio, ond pawb yn ysgafala. Gwelwn y Nile o hyd, ac ar y cynta' cawn fy nyrysu gan ei thröade sydyn a diddeddf. Bron na wnai imi gredu ei bod y'mhobman yr un pryd. Ond pan gofies fy mod y'myn'd drwy ei delta, a bod iddi saith tafod o'r pen meina' i'r pen lleta', sef o Gairo i'r môr (yn ol yr Ysgrythyre), darfyddodd fy nyryswch yn y fan. Yr afon ryfedda'n y byd yw'r Nile. Yr un ffurf yn union sydd i'r Pyramidie ag sydd i ddelta'r afon: ai tybed taw oddiwrth yr ola' y ca'dd cynllunydd y blaena' ei syn iad? Tra'r o'wn mewn syn-fyfyrdode o'r natur yna, dyma gyffro y'mysg y teithwyr—mae'r trên yn arafu—ac heb ragor o ragymadrodd, ce's fy hun y'ngorsaf Cairo. Yn siwr i chwi, nid wyf bell o dŵr Babel o ran lle nac amser. Nid oedd genyf ond un celfigyn yn fy llaw, eithr ymestyne cant o ddwylo duon am dano. Yr oedd pawb yn siarad ond myfi, ond yr wyf y'meddwl taw myfi oedd yr unig un oedd yn gwrando. Syllwn hefyd o'm cwmpas yn bur bryderus am y gŵr oedd wedi addo fy nghyfarfod; a phan oedd fy nghalon ar fin cychwyn ei thaith i lawr i gym'dogeth f'esgidie, clywn rywun yn gwaeddi:

"Ai Cymro ydych?"