I'r Aifft ac yn Ol/Lle bu'r Mab Bychan

Oddi ar Wicidestun
Ar yr Afon I'r Aifft ac yn Ol

gan D Rhagfyr Jones

Ar Fin yr Anialwch

PENOD XXI.

LLE BU'R MAB BYCHAN.

HYNY yw, lle bu'r Mab Bychan yn ol traddodiad. Traethu am f'ymweliad â'r mane hyny yw baich y benod hon.

Hen Eglwys y Coptied oedd un o'r mane 'rwyf yn sôn am danynt.

D'wedwyd wrthyf fod y bobl hyn y'mysg hen frodorion yr Aifft, o'r rhai oedd yn addoli un Duw. Yr enw arnynt unweth oedd Monophistied—enw sy'n myn'd y'mhell i brofi nad o'ent yn credu mewn aml-dduwieth. Tua dechre're'r ail ganrif, unwyd hwy âg eglwys arall oedd yn dal golygiade tebyg ar Berson Crist; a dyna'r pryd y daethant i gael eu galw'n Coptied. Gyda llaw, onid Coptied yw'r aelode hyny sydd ar gynghore addysgol y dyddie hyn y'Nghymru, y rhai nad ydynt wedi eu dewis yn uniongyrchol gan lais y werin? Hwyrach y bydd gwybod y naill yn help i gofio'r llall. Mae'r Eglwys Goptedd yn Cairo mewn cyflwr isel a dilewyrch iawn. Mae ei hoffeiried mor anwybodus a'r bobl, a dygir ei gwasaneth y'mlaen yn yr hen iaith Gopteg, yr hon nid oes neb yn ei deall. Mae'r Coptied yn cyfri' eu hunen yn Grist'nogion, ac y mae marc y Groes ar arddwrn pob un o honynft. Mi a'i gweles ar lïaws o arddyrne. Y mae wedi bod o fantes iddynft weithie, ac o anfantes droion. Ond y maent yn glynu'n rhyfedd wrfth eu heglwys, a hawliant berthynas â Christ'nogion pob gwlad. Nid oes cyfafchrach rhwng y Mahometanied â hwy, ac nid ä'r un Mahometan selog yn agos i'w hanedde ar gyfri'n y byd. Trigant mewn darn o'r hen ddinas, yn drefedigeth anibynol; ac y mae'r darn hwnw yn cael ei roi i fyny'n hollol iddynft hwy, i bob pwrpas ymarferol. Wedi clywed â'm clustie sôn am danynt, yr o'wn yn egru am gyfle i ymwel'd â hwy.

Awyddwn yn enwedig i gael cip ar yr hen adeilad, petawn yn gorfod gadel lleoedd erill ar ol. Mi gês berswâd ar Huws i dd'od hefo mi ryw brydnawn, ar yr amod imi roi cyflenwad iddo o dybaco'r Hen Wlad. Cerddasom yn galed am hir ffordd ac amser, ac nid oedd pethe'n gwella o gwbl wrth fyn'd y'mlaen. O'r diwedd, daethom at borth henafol, yn ymyl pa un yr eistedde dau gardotyn o'r fath druenusa'u cyflwr. Yr o'wn wedi eu harogli y'mhell cyn d'od atynt, a Huws roes esboniad imi ar y tawch. Bron nad allech ei wel'd. Y syndod mwya' i mi oedd sut na b'asent wedi cael eu cario i ffwrdd i fynwes rhywun neu gilydd gan y dyrfa o bryfed oedd mor ofalus o honynt. Aethom drwy'r porth dan wasgu'n trwyne, a bu mwg myglys fy nghyfell o fendith fawr i ni. Cynygies brynu pibell arall iddo, fel y galle ddefnyddio'r ddwy'r un pryd; ond gohirio'r peth a wnaeth y tro hwnw.

Wedi myn'd drwy'r porth, yr o'em y'nhiriogeth y Coptied; a bum yn hir dan yr argraff nad oedd neb yn byw yno. Tai uchel, heb ffenestri iddynt amgen na thylle bychen 'sgwâr hwnt ac yma, nes gwneud ini dybied taw cu cefne oedd ar y 'stryd hono, a taw 'stryd arall oedd yn cael y fraint o wel'd eu gwynebe. Yr oedd golwg felancoledd arswyddus ar bob peth, ac nid oedd sŵn dieithr ein hesgidie ar y palmant cerig yn ychwanegu dim at sirioldeb y gymdogeth. Bob yn dipyn daethom i olwg yr hen eglwys; ac o gwmpas i hon yn unig yr oedd pob gronyn o fywyd oedd yn y lle wedi ymgasglu. Yr oedd yma 'beitu haner dwsin o ferched, a chynifer a hyny o gŵn, crwt neu ddau, a nifer a'mhenodol o fegeried. Y peth cynta' wnaethant oll, oddigerth y cŵn, wedi iddynt ein gwel'd, oedd dangos llun y Groes ar eu garddyrne, i'n hadgofio o'r berthynas, ac i'n rhybuddio y disgwylient i ni eu cofio'n sylweddol cy' myn'd odd'no. Iddynt hwy, nid oes ond Crist'nogion a Mahometanied yn y byd; gwyddent taw nid dilynwyr y gau broffwyd o'em, rhaid felly ein bod yn ddysgyblion y proffwyd o Nazareth fel hwythe.

Os oedd y tai'n uchel, yr oedd yr eglwys yn ddigon isel. Yr oedd yn rhaid disgyn i fyn'd at ei phorth allanol; ac yn y fan hono daeth tamed o ddynolieth i'n cyfarfod, a thamed o Saesneg ar ei dafod. Prin y gallem ei wel'd gan fychaned oedd, a th'wlled y lle. Dan ei arweiniad aethom i fewn. Cydiodd mewn darn o lafrwyn, tebyg i ganwyll frwyn y dyddie gynt; goleuodd hi mewn canwyll oedd yn ole'n barod, ac archodd ni i'w ddilyn. Nid oedd fawr o wahanieth rhwng ei "seis" ef a "seis" y llafrwyn. Huws bïa'r sylw yna. Cawsom ein hunen mewn ystafell tebyg i gapel—a digon anhebyg hefyd—yn llawn cornele, heb fainc i eistedd arni, a'r t'w'llwch yn herio'r dwsin canwylle oedd yno'n esgus goleuo, i feiddio cyffwrdd âg e'. Yr oedd yno banele cywren tu hwnt, a cherflunie arnynt yn gosod allan ryw drafodeth Feibledd. Ceisie'r crwt dd'we'yd wrthym mewn Saesneg tebyg i Saesneg gwaelod Sir Benfro, beth oedd y llunie; ond trwy fod Huws o Sir Gynarfon, a mine o Feirion, nid o'em fawr callach o'i ddehongliad. Tremies drwy'r t'w'llwch, a gweles fath o gangell a desc o'r naill ochr; tybies taw rhan yr offeiriad oedd yn y fan hono, ac ni chenfigenwn wrtho.

Yr o'wn wedi meddwl yn sicr nad oedd modd myn'd yn îs, ond wele'r gŵr bach yn disgyn drachefn dros risie cerig, gryn ddwsin o honynt, a nine wrth ei sodle, nes y cawsom ein hunen mewn ystafell eang arall, a thyrfa o bileri trwchus yn dal ei nenfwd i fyny. Nid oedd yma na phanele, na changell, na dim o'r cyfryw; ond yr oedd yma gelloedd bychen agored yn erbyn y murie. Safasom yn ymyl un o honynt, a thybies fod gŵr y ganwyll frwyn yn d'we'yd rhywbeth gyda mwy o bwysles nag arfer.

"Be' mae o'n ddeud, Huws?" meddwn.

"O, deud mae o mai dyma'r lle y bu'r Mab Bychan yn ymguddio, gyda'i dad a'i fam, tra bu'n aros yn yr Aifft."

Mi apelies at yr arweinydd, rhag ofn fod Huws rhwng difri' a chware', fel y bydde weithie; a gwnes i hwnw fyn'd dros y 'stori wed'yn yn arafach. Ce's fod fy ffrind yn d'we'yd y gwir, p'run bynag a oedd y crwt yn d'we'yd y gwir neu beidio. Nid es i holi, na manylu, na chysoni, na dim: yr o'wn yn y teimlad i dderbyn y 'stori fel gwirionedd. Yr oedd Matthew wedi d'we'yd am fföedigeth y Mab Bychan a'i rïeni i'r Aifft, ac yr oedd yr hen eglwys yn ymddangos o leia'n ddwy fil o flynydde mewn oedran: pa'm lai na all'se pethe fel hyn fod? Yr o'wn wedi myn'd i ganol yr amgylchiade fel yma dros fy mhen, a bu raid i Huws ddihuno tipyn arno'i hun cyn iddo lwyddo i'm dihuno i. Pe cawswn lonydd, yno y b'aswn; yr oedd y 'stori wedi fy swyno gyment. Nid wyf yn siwr nad wy'n ei chredu byth.

Ar ol d'od i fyny drachefn o fysg y tanddaearolion bethe, yr oedd y lle'n llawn o ferched yn dangos eu garddyrne a'u dwylo. Yn yr Eglwys Fahometanedd y dydd o'r blaen, 'doedd dim ond dynion i'w gwel'd; yn yr Eglwys Goptedd heddyw, 'does dim ond merched a phlant i'w gwel'd. Nid yw rhein yn gwisgo gorchudd dros dri chwarter eu gwynebe fel merched Mahomet, ac y maent o bryd a gwedd dymunol iawn. Haere Huws taw hwy oedd y merched tlysa'n y byd. Yr o'wn yn synu at egni'r llanc, oblegid 'doedd yno neb yn haeru i'r gwrthwyneb. Ond mae'n amheus genyf a fydde rhywun y' Mangor yn blasu'r athrawieth yna. Yr oedd y mynediad i mewn yn rhad, ond yr oedd y mynediad allan trwy dalu. Nis gall'swn lai na theimlo echryd yn gwisgo drosof wrth edrych ar y tai drachefn. Yr o'ent mor debyg i hen gewri wedi tynu eu llyged allan. Yr oedd y ddau Lazarus yn ymyl y porth o hyd, a'r pryfed heb fyn'd a nhw. Dilynwyd ni gan y cŵn a'r begeried erill hyd at y porth allanol, a da oedd genym gael gwared o'r gelach ddig'wilydd.

Dro arall, aeth Jones â mi i ben fy helynt i rywle,—rhywle nad oes genyf fawr o gyfri' i'w roi am dano. Yr wyf yn cofio ini gymeryd trên, ond nid yn yr orsaf y de's iddi o Alecsandria. Aeth y trên â ni drwy amryw orsafe, a heibio golygfeydd oedd a mwy o'r Dwyren yn perthyn iddynt na dim a weles. Wedi teithio 'beitu pymtheg milldir wrth fesur ffansi, disgynasom, a cherddasom eilwaith 'beitu milldir ar hyd ffordd oedd a'i magwyrydd yn goed blode a ffrwythe, a'i hawyr yn bersawr hyfryd. Nid oedd ond ychydig dai'n y golwg, ac yr oedd y wlad yn fflat fel eich llaw.

"Wel, Jones," meddwn, "gyda phob dyledus barch i'ch pwyll a'ch amynedd, yr wyf o'r farn ei bod yn llawn bryd i chwi ddatguddio cyfrinach y lle hwn i mi."

"O'r gore'," ebe Jones; ac heb ragor o ymdroi, d'wedodd wrthyf enw'r lle ar hyn o bryd. Pe cynygiech ganpunt imi am gofio hwnw, byddech yn eitha' dïogel; ond pan y chwanegodd taw'r hen Heliopolis ydoedd, a dinas On cyn hyny, teimlwn fel pe bawn ar wastad Tywi'n union. Meddienes y lle ar unweth. A dyma lle cafodd Joseph ei wraig! Lle'r oedd tŷ Potiphera', ei dady'nghyfreth, 'sgwn i? A fu Asnath yn cerdded y ffordd hon pan yn ferch ifanc, tybed? Dyma ddarn hirfen, uchel, yn codi o 'mlaen yn syth a sydyn, tebyg i nodwydd Cleopatra, yn llawn saetheirie, heb le i chwi roi eich ewin rhyngddynt.

"Dyma'r unig weddillyn sy'n aros o'r hen amser y ffordd yma," ebe'm cyfell. "Tyhir ei fod yn dair mil o flynydde mewn oedran."

"Os felly," meddwn, wrthyf fy hun yn fwy nag wrth Jones, "bu Moses, a Joseph, ac Abr'am yn syllu ar hwn!"

Troisom yn ol i gyfeiriad arall, ac wedi myn'd i mewn i lecyn cysgodol o'r neilldu, cyfeiriwyd fy sylw at hen bren oedd yn ymddangos yn rhy grin i sefyll ar ei draed. Yr oedd yn ganghenog a llydanfrig, a dyge olion toriade â chyllill drosto 'mhob man, hyd y'nod i'w gangen ucha'. Barnwn fod pob llythyren y'mhob gwyddor ar ei foncyff, ac yn fuan chwaneges ine f'eiddo at y llïaws.

"Be 'di hwn, Jones?" meddwn.

"Hen bren y d'wed traddodiad am dano ddarfod i'r Mab Bychan a'i rieni lechu dan ei gysgod ar eu ffordd i'r Aifft," ebe Jones, sobred a mwnc.

Yn rhyfedd iawn, meddianwyd fi'n union gan deimlade tebyg i'r rhai a ddaethant drosof yn yr hen eglwys ddiwrnod neu ddau cyn hyny. Y Mab Bychan eto? A fu ynte'r ffordd hon? Ar ol teithio mor bell, ai tybed iddo grïo gan flinder dan y goeden, fel rhyw blentyn arall? Pa gân a gane Mair wrth geisio'i lonyddu dan y sêr? A pha sawl angel oedd y'mhob seren yn edrych arno?

Pan dd'es ataf fy hun o'r tir pell hwn, dyna lle'r oedd Jones ar ben y pren yn pocedu'r brige. Es ine'n hy' ar y rhisgl wed'yn. Mae'r brige a'r rhisgl y'Nhreorci bellach er's dros dair blynedd.