Iar Dda (Yr Hwiangerddi, O M Edwards)

Oddi ar Wicidestun
Yr Hwiangerddi (O M Edwards). Rhagymadrodd a Chynhwysiad
Cynt – Dwy Wŷdd Radlon
Nesaf – Ple’r A’r Adar

Mae Iar Dda yn hwiangerdd a gasglwyd gan O M Edwards ac a gyhoeddwyd ym 1911 yn ei lyfr Yr Hwiangerddi


'Roedd gen i iar yn gori
Ar ben y Frenni Fawr;
A deg o wyau dani,–
Daeth un ar ddeg i lawr.