Yr Hwiangerddi (O M Edwards)

Oddi ar Wicidestun
Jump to navigation Jump to search
Yr Hwiangerddi

gan Owen Morgan Edwards
Bachgen

Rhagymadrodd[golygu]

Ambell orig daw hen hwiangerdd, fel su melodaidd o gartref pell a hoff, i'r meddwl. Daw un arall ar ei hol, ac un arall, - a chyda hwy daw atgofion cyntaf bore oes. Daw'r llais mwynaf a glywsom erioed i'n clust yn ôl, drwy stormydd blynyddoedd maith; daw cof am ddeffro a sylwi pan oedd popeth yn newydd a rhyfedd. A daw ymholi ond odid.

Beth yw tarddle swyn yr hen gerddi hwian syml hyn? Pa nifer ohonynt fedraf? Pa nifer sydd ohonynt yn llenyddiaeth Cymru? A ydynt yn llenyddiaeth? Beth fu eu dylanwad ar fy mywyd? A adawsant ryw nod ar lenyddiaeth Cymru?

O ble y daethant? Y mae iddynt ddau darddiad. Yn un peth, - y maent yn adlais o ryw hen bennill genid gyda'r delyn. Cofid y rhannau mwyaf melodaidd, rhyw seiniau fynnai aros yn y glust, gan fam neu forwyn, a byddent yn llais i lawenydd y galon wrth suo'r plentyn i gwsg. A ffynhonnell arall, - yr oedd y fam yn creu cerddi hwian, nid i wneud i'r plentyn gysgu, ond i'w gadw'n ddiddig pan ar ddihun. Ac y mae cof gwlad wedi trysori ymgais y mamau mwyaf athrylithgar.

Ar ei fysedd y sylwa plentyn i ddechrau. Hwy ddefnyddia'r fam yn deganau cyntaf. Rhoddir enwau arnynt, - Modryb 'y Mawd, Bys yr uwd, Hirfys, Cwtfys, Bys bach, neu ryw enwau eraill. Gwneir iddynt chware a'i gilydd; llechant yng nghysgod ei gilydd, siaradant a'i gilydd; ant gyda'i gilydd i chware, neu i hel gwlân, neu i ladd defaid i'r mynydd. Yr oedd yr olaf yn fater crogi'r adeg honno, ac felly yr oedd y chware yn un pur gyffrous. Yr oedd i bob bys gymeriad hefyd; bys yr uwd oedd y cynlluniwr, yr hirfys oedd y gweithiwr cryf eofn, y cwtfys oedd y beirniad ofnus, a'r bys bach, druan, oedd yn gorfod dilyn y lleill neu gario dŵr. Yn llenyddiaeth gyntaf plentyn, y bysedd yw'r actors yn y ddrama.

Wedi'r bysedd, y traed oedd bwysicaf. Eid trwy'r un chware gyda bysedd y traed drachefn. A difyr iawn oedd pedoli, curo gwadnau'r traed bob yn ail, a phedoli dan ganu.

Nodwedd bennaf plentyn iach, effro yw, nas gall fod eiliad yn llonydd. Mae pob gewyn ynddo ar fynd o hyd. Ac y mae mynd yn yr hen hwiangerddi. Gorchest arwrol gyntaf plentyn yw cael ei ddawnsio'n wyllt ar y glin. "Gyrru i Gaer" yw anturiaeth fawr gyntaf dychymyg y rhan fwyaf o blant Cymru. Ac y mae afiaith mawr i fod ar y diwedd, i ddynodi rhyw drychineb ysmala, - dod adre wedi priodi, boddi yn y potes, neu dorri'r pynnaid llestri'n deilchion. Mae'r coesau a'r breichiau bychain i fynd ar eu gwylltaf, ac y mae edyn man dychymyg y plentyn yn chware'n wyllt hefyd.

Yr un cerddi hwian, mewn llais distawach, dwysach, a suai'r plentyn i gwsg. Ai'r llong i ffwrdd yn ddistaw, carlamai'r cêl bach yn esmwyth, doi'r nos dros furiau Caer.

A yw'r hwiangerddi'n foddion addysg? Hwy rydd addysg orau plentyndod. Am genedlaethau'n ôl, ceisid dysgu plant yn yr ysgol o chwith. Ceisid eu cadw'n llonydd, a hwythau'n llawn awydd symud. Ceisid eu cadw'n ddistaw, a hwythau'n llawn awydd parablu. Dofi, distewi, disgyblu oedd o hyd. Erbyn hyn deallir egwyddorion dysgu plentyn yn well. Gellid rhoddi rhestr hir o athronyddion dysg plant, a dangos fel y gwelsant, o un i un yn raddol, wir ddull dysgu plant. A'r dull hwnnw yw, - dull yr hwiangerddi. Dysgir y plentyn i astudio'i fysedd. Ca fynd ar drot ac ar garlam yr adeg y mynno. Ac ymhob cerdd, daw rhyw agwedd drawiadol ar y natur ddynol i'r golwg. Ei siglo'n brysur ar y glin i sŵn rhyw hen gerdd hwian, - dyna faban ar ben gwir lwybr ei addysg. Ni fyddaf yn credu dim dweud yr athronwyr am addysg babanod os na fedrir ei brofi o'r hwiangerddi. Ynddynt hwy geir llais greddf mamau'r oesoedd; o welediad clir cariad y daethant, ac o afiaith llawenydd iach.

A yw'r cerddi hwian yn llenyddiaeth? Ydynt, yn ddiamau. Y mae iddynt le mor bwysig mewn llenyddiaeth ag sydd i'r plentyn yn hanes dyn. Y mae llenyddiaeth cenedl yn dibynnu, i raddau mawr, ar ei hwiangerddi. Os mynnech ddeall nodweddion cenedl, y dull chwilio hawddaf a chrymaf a sicraf yw hwn, - darllenwch ei cherddi hwian. Os ydynt yn greulon ac anonest eu hysbryd, yn arw a chras, yn fawlyd a di-chwaeth, rhaid i chwi ddarllen hanes cenedl yn meddu'r un nodweddion. Os ydynt yn felodaidd a thyner, a'r llawenydd afieithus yn ddiniwed, cewch genedl a'i llenyddiaeth yn ddiwylliedig a'i hanes yn glir oddi wrth waed gwirion. Nis gall y Cymro beidio bod a chlust at felodi, wedi clywed y gair "pedoli" bron yn gyntaf un, a hwn yn gyntaf pennill, -

"Mae gen i ebol melyn,
Yn codi'n bedair oed;
A phedair pedol arian,
O dan ei bedwar troed."

Disgwylir i mi ddweud, mae'n ddiau gennyf, ymhle y cefais yr holl gerddi hwian hyn. Gwaith araf oedd eu cael, bum yn eu casglu am dros ugain mlynedd. Ychydig genir yn yr un ardal, daw'r rhai hyn bron o bob ardal yng Nghymru. Cefais hwy oddi wrth rai ugeiniau o gyfeillion caredig, yn enwedig pan oeddwn yn olygydd Cymru'r Plant. A chefais un fantais fawr yng nghwrs fy addysg, - nid oes odid blentyn yng Nghymru y canwyd mwy o hwiangerddi iddo.

Hyd y gwn i; Ceiriog ddechreuodd gasglu hwiangerddi Cymru, yn yr Arweinydd, yn 1856 ac 1857. Condemnid y golygydd, Tegai, am gyhoeddi pethau mor blentynnaidd. Ond daeth yr hanesydd dysgedig Ab Ithel, oedd wedi cyhoeddi'r Gododdin ac yn paratoi'r Annales Cambriae y Brut y Tywysogion i'r wasg, i'w amddiffyn yn bybyr. Cawr o ddyn oedd Ab Ithel; y mae rhai o ŵyr galluocaf a mwyaf dysgedig Cymru, yn ogystal â phlant ysgol, wedi'm helpu innau i wneud y casgliad hwn. Cyhoeddwyd casgliad Ceiriog wedi hyn yn "Oriau'r Haf." Nid oes ynddo ddim o gerddi hwian y De. Cyhoeddodd Cadrawd rai o gerddi hwian Morgannwg yn ei "History of Llangynwyd Parish" yn 1887. "Yn ddiweddarach cyhoeddwyd casgliad gyda darluniau prydferth yng Nghonwy, {0a} a chasgliad gan Cadrawd gyda cherddoriaeth o drefniad Mr Harry Evans ym Merthyr Tydfil.

Nid y lleiaf o arwyddion da am ddyfodol Cymru yw bod yr hen hwiangerddi swynol hyn i'w clywed eto yn ei chartrefi ac yn ei hysgolion.

OWEN M. EDWARDS.


Cynnwys[golygu]

  1. Bachgen
  2. Yr Ebol Melyn
  3. Gyrru i Gaer
  4. I'r ffair
  5. Dau Gi Bach
  6. Cerdded
  7. Y Ceffyl Bach
  8. Sion a Sian
  9. Mynd i Lundain
  10. Gwlad Braf
  11. Cysur Llundain
  12. Llong yn Mynd
  13. Dafad Wen
  14. Iâr Fach Dlos
  15. Gwcw Fach
  16. Llygod a Malfod
  17. I'r Dre
  18. I Gaerdydd
  19. Y Ceffyl Du Bach
  20. I'r Ffair (2)
  21. Ar Drot
  22. Ar Garlam
  23. Y Ddafad Felen
  24. Cnul y Bachgen Coch
  25. Colli Esgid
  26. I'r Felin
  27. Ianto
  28. Deio Bach
  29. Y Bysedd
  30. Holi'r Bysedd
  31. Rhodd
  32. I'r Ysgol
  33. Lle Difyr
  34. Colli Blew
  35. Boddi Cath
  36. Wel, Wel
  37. Pwsi Mew
  38. Calanmai
  39. Da
  40. Dacw Dŷ
  41. Cofio'r Gath
  42. Ysturmant
  43. Ysguthan
  44. Sian
  45. Sian a Sion
  46. Sion a Sian (2)
  47. Y Crochan
  48. Ust
  49. Cysgu
  50. Ffafraeth
  51. Merch ei Mam
  52. Merch ei Thad
  53. Colled
  54. Anodd Coelio
  55. Dodwy Da
  56. Byw Detheu
  57. Da
  58. Go-Go-Go!
  59. Taith Dau
  60. Ysgwrs
  61. Hoff Bethau
  62. Cloc
  63. Dwy Fresychen
  64. Toi a Gwau
  65. Malwod a Milgwn
  66. Gwennol Fedrus
  67. Llyncu Dewr
  68. Y Ddafad yn y Bala
  69. Iar y Penmaen Mawr
  70. I Ble?
  71. Morio
  72. Llong Fy Nghariad
  73. Cwch Bach
  74. Glan y Mor
  75. Dwr y Mor
  76. Tri
  77. Wedi Digio
  78. Carn Fadryn
  79. Siglo'r Cryd
  80. Y Lleuad
  81. oes un Ddel
  82. Y Bryn a'r Afon
  83. Dechreu Caru
  84. Siglo
  85. Arfer Penllyn
  86. Dillad Newydd
  87. Lle Rhyfedd
  88. Sel Wil y Pant
  89. Cario Ceiliog
  90. Fe Ddaw
  91. Cel Bach, Cel Mawr
  92. I’r Dre
  93. I Ffair Henfeddau
  94. I Ffair y Rhos
  95. I Ffair y Fenni
  96. Cel Bach Dewr
  97. Ceffyl John Jones
  98. Mari
  99. Trot, Trot
  100. Ffidil a Ffon
  101. Ennill
  102. Dyna’r Ffordd
  103. Robin A’r Dryw
  104. Y Ji Binc
  105. Y Fran
  106. Robin Goch
  107. Jac y Do
  108. Dawns
  109. Mynd i Garu
  110. Fy Eiddo
  111. Sen I'r Gwas
  112. Prun?
  113. Damwain
  114. Coed Tân
  115. Ffair Pwllheli
  116. Bore Golchi
  117. Bore Corddi
  118. Seren Ddu
  119. Benthyg Lli
  120. Llawer o Honynt
  121. Lle Mae Pethau
  122. Hen Lanc
  123. Caru Ffyddlon
  124. Caru Ymhell
  125. Elisabeth
  126. Shontyn
  127. Glaw
  128. Y Carwr Trist
  129. John
  130. Breuddwyd
  131. Pedoli, Pedinc
  132. Pedoli, Pedrot
  133. Pedoli’r Ceffyl Gwyn
  134. Robin Dir-rip
  135. Gwcw!
  136. Gardyson
  137. Esgidiau
  138. Robin Goch
  139. Chware
  140. Cariad
  141. Dewis Ofer
  142. Ladi Fach Benfelen
  143. Cydymdeimlad
  144. Apêl
  145. Saethu Llongau
  146. Ceiniog i Mi
  147. Y Tywydd
  148. Calanmai
  149. Mynd a Dod
  150. Gyru Gwyddau
  151. Bwrw Eira
  152. Beth sydd Gennyf
  153. Tair Gwydd
  154. Cariad y Melinydd
  155. Cariad Arall
  156. Gwraig
  157. Pry Bach
  158. Y Bysedd
  159. Bwgan
  160. Yr Eneth Benfelen
  161. Y Wylan
  162. Fy Nghariad
  163. Dau Ddewr
  164. Llanc
  165. Ymffrost
  166. Y Rhybelwr Bach
  167. Llifio
  168. Golchi Llestri
  169. Cap
  170. Clocs
  171. Glaw
  172. Merched Dol ’r Onnen
  173. Lliw’r Gaseg
  174. Berwi Poten
  175. Wrth y Tân
  176. Pawb Wrthi
  177. Te a Siwgr Gwyn
  178. Si So
  179. I’r Siop
  180. Cadw Cath Ddu
  181. Newid Byd
  182. Siom
  183. Rhy Wynion
  184. Dim Gwaith
  185. Pwy Fu Farw?
  186. P’le Mae Dy Fam?
  187. Dau Robin
  188. Sion
  189. Aber Gwesyn
  190. Corwen
  191. Dyfed
  192. Rhuddlan
  193. Amen
  194. Jini
  195. Dafydd
  196. Mam yn Dod
  197. Robin yn Dod
  198. Bachgen Bach Od
  199. Cam a Fi
  200. Ned Ddrwg
  201. Oed y Bachgen
  202. Y Bysedd (3)
  203. Si Bei
  204. Ga i Fenthyg Ci?
  205. Chwalu
  206. Pont Llangollen
  207. Robin Goch Rhiwabon
  208. Medr Elis
  209. Bwch y Wyddfa
  210. Ceffyl John Bach
  211. Dadl Dau
  212. Yr Hafod Lom
  213. Coed y Plwy
  214. Hen Wraig Siaradus
  215. Mochyn Bach
  216. Rhyfedd Iawn
  217. Y Stori
  218. Carlam
  219. Calennig
  220. Cartref
  221. Dafad
  222. Aderyn y Bwn
  223. Taith
  224. Cyfoeth Shoni
  225. A Ddoi Di?
  226. Gwlan Cwm Dyli
  227. Bum yn Byw
  228. Pen y Mynydd Du
  229. Gwaith Tri
  230. Ladis
  231. Y Daran
  232. Enwau
  233. Padell Ffrio
  234. Coes y Fran
  235. Calennig 2
  236. Dwy Wŷdd Radlon
  237. Iar Dda
  238. Ple’r A’r Adar
  239. Wel, Wel 2
  240. Teimlad Da
  241. Dau Ganu
  242. Tarw Corniog
  243. Pe Tasai
  244. Tro Ffôl
  245. Fel Daw Tada Adre
  246. Buwch
  247. Lle Pori
  248. O Gwcw
  249. Llifio (2)
  250. Ar ôl y Llygod
  251. Eirinen
  252. Crempog
  253. Yr Awyr
  254. Nyth y Dryw
  255. Nyth yr Ehedydd
  256. Nyth Robin
  257. Caru Cyntaf
  258. Chwythu
  259. Camgymeriad
  260. Can Iar
  261. Can Iar Arall
  262. Mynd
  263. Amser Codi
  264. Iar Fach
  265. Medde Bibyn Wrth Bobyn
  266. Storïau Hen Gaseg
  267. Gynt
  268. Y Deryn Bach Syw
  269. Tlodi
  270. Uno
  271. Priodi Ffôl
  272. Brith y Fuches
  273. Calon Drom
  274. Nos Da