Yr Hwiangerddi (O M Edwards testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Yr Hwiangerddi (O M Edwards)

gan Owen Morgan Edwards

I'w darllen cerdd wrth gerdd gweler Yr Hwiangerddi (O M Edwards)
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Owen Morgan Edwards
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Cyfres y Fil
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Hwiangerdd
ar Wicipedia

Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader



Yr Hwiangerddi

*

CASGLWYD GAN
OWEN M. EDWARDS.

Y DARLUNIAU GAN

WINIFRED HARTLEY
(LOWRIE WYNN)

1911.
Ab Owen, Llanuwchllyn.

Cynnwys

  1. Bachgen
  2. Yr Ebol Melyn
  3. Gyrru i Gaer
  4. I'r ffair
  5. Dau Gi Bach
  6. Cerdded
  7. Y Ceffyl Bach
  8. Sion a Sian
  9. Mynd i Lundain
  10. Gwlad Braf
  11. Cysur Llundain
  12. Llong yn Mynd
  13. Dafad Wen
  14. Iâr Fach Dlos
  15. Gwcw Fach
  16. Llygod a Malwod
  17. I'r Dre
  18. I Gaerdydd
  19. Y Ceffyl Du Bach
  20. I'r Ffair (2)
  21. Ar Drot
  22. Ar Garlam
  23. Y Ddafad Felen
  24. Cnul y Bachgen Coch
  25. Dau Fochyn Bach
  26. Colli Esgid
  27. I'r Felin
  28. Ianto
  29. Deio Bach
  30. Y Bysedd
  31. Holi'r Bysedd
  32. Rhodd
  33. I'r Ysgol
  34. Lle Difyr
  35. Colli Blew
  36. Boddi Cath
  37. Wel, Wel
  38. Pwsi Mew
  39. Calanmai
  40. Da
  41. Dacw Dŷ
  42. Cofio'r Gath
  43. Ysturmant
  44. Ysguthan
  45. Sian
  46. Sian a Sion
  47. Sion a Sian
  48. Y Crochan
  49. Ust
  50. Cysgu
  51. Ffafraeth
  52. Merch ei Mam
  53. Merch ei Thad
  54. Colled
  55. Anodd Coelio
  56. Dodwy Da
  57. Byw Detheu
  58. Da (2)
  59. Go-Go-Go!
  60. Taith Dau
  61. Ysgwrs
  62. Hoff Bethau
  63. Cloc
  64. Dwy Fresychen
  65. Toi a Gwau
  66. Malwod a Milgwn
  67. Gwennol Fedrus
  68. Llyncu Dewr
  69. Y Ddafad yn y Bala
  70. Iar y Penmaen Mawr
  71. I Ble?
  72. Morio
  73. Llong Fy Nghariad
  74. Cwch Bach
  75. Glan y Mor
  76. Dwr y Mor
  77. Tri
  78. Wedi Digio
  79. Carn Fadryn
  80. Siglo'r Cryd
  81. Y Lleuad
  82. Coes un Ddel
  83. Y Bryn a'r Afon
  84. Dechreu Caru
  85. Siglo
  86. Arfer Penllyn
  87. Dillad Newydd
  88. Lle Rhyfedd
  89. Sel Wil y Pant
  90. Cario Ceiliog
  91. Fe Ddaw
  92. Cel Bach, Cel Mawr
  93. I'r Dre (2)
  94. I Ffair Henfeddau
  95. I Ffair y Rhos
  96. I Ffair y Fenni
  97. Cel Bach Dewr
  98. Ceffyl John Jones
  99. Mari
  100. Trot, Trot
  101. Ffidil a Ffon
  102. Ennill
  103. Dyna'r Ffordd
  104. Robin A'r Dryw
  105. Y Ji Binc
  106. Y Fran
  107. Robin Goch
  108. Jac y Do
  109. Dawns
  110. Mynd i Garu
  111. Fy Eiddo
  112. Sen i'r Gwas
  113. Prun?
  114. Damwain
  115. Coed Tân
  116. Ffair Pwllheli
  117. Bore Golchi
  118. Bore Corddi
  119. Seren Ddu
  120. Benthyg Lli
  121. Llawer o Honynt
  122. Lle Mae Pethau
  123. Hen Lanc
  124. Caru Ffyddlon
  125. Caru Ymhell
  126. Elisabeth
  127. Shontyn
  128. Glaw
  129. Y Carwr Trist
  130. John
  131. Breuddwyd
  132. Pedoli, Pedinc
  133. Pedoli, Pedrot
  134. Pedoli'r Ceffyl Gwyn
  135. Robin Dir-rip
  136. Gwcw!
  137. Gardyson
  138. Esgidiau
  139. Robin Goch
  140. Chware
  141. Cariad
  142. Dewis Ofer
  143. Ladi Fach Benfelen
  144. Cydymdeimlad
  145. Apêl
  146. Saethu Llongau
  147. Ceiniog i Mi
  148. Y Tywydd
  149. Calanmai
  150. Cath Ddu
  151. Mynd a Dod
  152. Gyru Gwyddau
  153. Bwrw Eira
  154. Beth sydd Gennyf
  155. Tair Gwydd
  156. Cariad y Melinydd
  157. Cariad Arall
  158. Gwraig
  159. Pry Bach
  160. Y Bysedd
  161. Chware'r Bysedd
  162. Bwgan
  163. Yr Eneth Benfelen
  164. Y Wylan
  165. Fy Nghariad
  166. Dau Ddewr
  167. Llanc
  168. Ymffrost
  169. Y Rhybelwr Bach
  170. Llifio
  171. Golchi Llestri
  172. Cap
  173. Clocs
  174. Glaw
  175. Merched Dol'r Onnen
  176. Lliw'r Gaseg
  177. Berwi Poten
  178. Wrth y Tân
  179. Pawb Wrthi
  180. Te a Siwgr Gwyn
  181. Si So
  182. I'r Siop
  183. Cadw Cath Ddu
  184. Newid Byd
  185. Siom
  186. Rhy Wynion
  187. Dim Gwaith
  188. Pwy Fu Farw?
  189. P'le Mae Dy Fam?
  190. Dau Robin
  191. Sion
  192. Aber Gwesyn
  193. Corwen
  194. Dyfed
  195. Rhuddlan
  196. Amen
  197. Jini
  198. Dafydd
  199. Mam yn Dod
  200. Robin yn Dod
  201. Bachgen Bach Od
  202. Cam a Fi
  203. Ned Ddrwg
  204. Oed y Bachgen
  205. Y Bysedd (3)
  206. Si Bei
  207. Ga i Fenthyg Ci?
  208. Chwalu
  209. Pont Llangollen
  210. Robin Goch Rhiwabon
  211. Medr Elis
  212. Bwch y Wyddfa
  213. Ceffyl John Bach
  214. Dadl Dau
  215. Yr Hafod Lom
  216. Coed y Plwy
  217. Hen Wraig Siaradus
  218. Mochyn Bach
  219. Rhyfedd Iawn
  220. Y Stori
  221. Carlam
  222. Calennig
  223. Cartref
  224. Dafad
  225. Aderyn y Bwn
  226. Taith
  227. Cyfoeth Shoni
  228. A Ddoi Di?
  229. Gwlan Cwm Dyli
  230. Bum yn Byw
  231. Pen y Mynydd Du
  232. Gwaith Tri
  233. Ladis
  234. Y Daran
  235. Enwau
  236. Padell Ffrio
  237. Coes y Fran
  238. Calennig 2
  239. Dwy Wŷdd Radlon
  240. Iar Dda
  241. Ple'r A'r Adar
  242. Wel, Wel 2
  243. Teimlad Da
  244. Dau Ganu
  245. Tarw Corniog
  246. Pe Tasai
  247. Tro Ffôl
  248. Fel Daw Tada Adre
  249. Buwch
  250. Lle Pori
  251. O Gwcw
  252. Llifio (2)
  253. Ar ôl y Llygod
  254. Eirinen
  255. Crempog
  256. Yr Awyr
  257. Nyth y Dryw
  258. Nyth yr Ehedydd
  259. Nyth Robin
  260. Caru Cyntaf
  261. Chwythu
  262. Camgymeriad
  263. Can Iar
  264. Can Iar Arall
  265. Mynd
  266. Amser Codi
  267. Iar Fach
  268. Medde Bibyn Wrth Bobyn
  269. Storïau Hen Gaseg
  270. Gynt
  271. Y Deryn Bach Syw
  272. Tlodi
  273. Uno
  274. Priodi Ffôl
  275. Brith y Fuches
  276. Calon Drom
  277. Nos Da

Rhagymadrodd

Ambell orig daw hen hwiangerdd, fel su melodaidd o gartref pell a hoff, i'r meddwl. Daw un arall ar ei hol, ac un arall, - a chyda hwy daw atgofion cyntaf bore oes. Daw'r llais mwynaf a glywsom erioed i'n clust yn ôl, drwy stormydd blynyddoedd maith; daw cof am ddeffro a sylwi pan oedd popeth yn newydd a rhyfedd. A daw ymholi ond odid.

Beth yw tarddle swyn yr hen gerddi hwian syml hyn? Pa nifer ohonynt fedraf? Pa nifer sydd ohonynt yn llenyddiaeth Cymru? A ydynt yn llenyddiaeth? Beth fu eu dylanwad ar fy mywyd? A adawsant ryw nod ar lenyddiaeth Cymru?

O ble y daethant? Y mae iddynt ddau darddiad. Yn un peth, - y maent yn adlais o ryw hen bennill genid gyda'r delyn. Cofid y rhannau mwyaf melodaidd, rhyw seiniau fynnai aros yn y glust, gan fam neu forwyn, a byddent yn llais i lawenydd y galon wrth suo'r plentyn i gwsg. A ffynhonnell arall, - yr oedd y fam yn creu cerddi hwian, nid i wneud i'r plentyn gysgu, ond i'w gadw'n ddiddig pan ar ddihun. Ac y mae cof gwlad wedi trysori ymgais y mamau mwyaf athrylithgar. Ar ei fysedd y sylwa plentyn i ddechrau. Hwy ddefnyddia'r fam yn deganau cyntaf. Rhoddir enwau arnynt, - Modryb 'y Mawd, Bys yr uwd, Hirfys, Cwtfys, Bys bach, neu ryw enwau eraill. Gwneir iddynt

chware a'i gilydd; llechant yng nghysgod ei gilydd, siaradant a'i gilydd; ant gyda'i gilydd i chware, neu i hel gwlân, neu i ladd defaid i'r mynydd. Yr oedd yr olaf yn fater crogi'r adeg honno, ac felly yr oedd y chware yn un pur gyffrous. Yr oedd i bob bys gymeriad hefyd; bys yr uwd oedd y cynlluniwr, yr hirfys oedd y gweithiwr cryf eofn, y cwtfys oedd y beirniad ofnus, a'r bys bach, druan, oedd yn gorfod dilyn y lleill neu gario dŵr. Yn llenyddiaeth gyntaf plentyn, y bysedd yw'r actors yn y ddrama.

Wedi'r bysedd, y traed oedd bwysicaf. Eid trwy'r un chware gyda bysedd y traed drachefn. A difyr iawn oedd pedoli, curo gwadnau'r traed bob yn ail, a phedoli dan ganu.

Nodwedd bennaf plentyn iach, effro yw, nas gall fod eiliad yn llonydd. Mae pob gewyn ynddo ar fynd o hyd. Ac y mae mynd yn yr hen hwiangerddi. Gorchest arwrol gyntaf plentyn yw cael ei ddawnsio'n wyllt ar y glin. "Gyrru i Gaer" yw anturiaeth fawr gyntaf dychymyg y rhan fwyaf o blant Cymru. Ac y mae afiaith mawr i fod ar y diwedd, i ddynodi rhyw drychineb ysmala, - dod adre wedi priodi, boddi yn y potes, neu dorri'r pynnaid llestri'n deilchion. Mae'r coesau a'r breichiau bychain i fynd ar eu gwylltaf, ac y mae edyn man dychymyg y plentyn yn chware'n wyllt hefyd. Yr un cerddi hwian, mewn llais distawach, dwysach, a suai'r plentyn i gwsg. Ai'r llong i ffwrdd yn ddistaw, carlamai'r cêl bach yn esmwyth, doi'r nos dros furiau Caer.

A yw'r hwiangerddi'n foddion addysg? Hwy rydd addysg orau plentyndod. Am genedlaethau'n ôl, ceisid dysgu plant yn yr ysgol o chwith. Ceisid eu cadw'n llonydd, a hwythau'n llawn awydd symud. Ceisid eu cadw'n ddistaw, a hwythau'n llawn awydd parablu. Dofi, distewi, disgyblu oedd o hyd. Erbyn hyn deallir egwyddorion dysgu plentyn yn well. Gellid rhoddi rhestr hir o athronyddion dysg plant, a dangos fel y gwelsant, o un i un yn raddol, wir ddull dysgu plant. A'r dull hwnnw yw, - dull yr hwiangerddi. Dysgir y plentyn i astudio'i fysedd. Ca fynd ar drot ac ar garlam yr adeg y mynno. Ac ymhob cerdd, daw rhyw agwedd drawiadol ar y natur ddynol i'r golwg. Ei siglo'n brysur ar y glin i sŵn rhyw hen gerdd hwian, - dyna faban ar ben gwir lwybr ei addysg. Ni fyddaf yn credu dim dweud yr athronwyr am addysg babanod os na fedrir ei brofi o'r hwiangerddi. Ynddynt hwy geir llais greddf mamau'r oesoedd; o welediad clir cariad y daethant, ac o afiaith llawenydd iach.

A yw'r cerddi hwian yn llenyddiaeth? Ydynt, yn ddiamau. Y mae iddynt le mor bwysig mewn llenyddiaeth ag sydd i'r plentyn yn hanes dyn. Y mae llenyddiaeth cenedl yn dibynnu, i raddau mawr, ar ei hwiangerddi. Os mynnech ddeall nodweddion cenedl, y dull chwilio hawddaf a chrymaf a sicraf yw hwn, - darllenwch ei darllenwch ei cherddi hwian. Os ydynt yn greulon ac anonest eu hysbryd, yn arw a chras, yn fawlyd a di-chwaeth, rhaid i chwi ddarllen hanes cenedl yn meddu'r un nodweddion. Os ydynt yn felodaidd a thyner, a'r llawenydd afieithus yn ddiniwed, cewch genedl a'i llenyddiaeth yn ddiwylliedig a'i hanes yn glir oddi wrth waed gwirion. Nis gall y Cymro beidio bod a chlust at felodi, wedi clywed y gair "pedoli" bron yn gyntaf un, a hwn yn gyntaf pennill, -

"Mae gen i ebol melyn,
Yn codi'n bedair oed;
A phedair pedol arian,
O dan ei bedwar troed."

Disgwylir i mi ddweud, mae'n ddiau gennyf, ymhle y cefais yr holl gerddi hwian hyn. Gwaith araf oedd eu cael, bum yn eu casglu am dros ugain mlynedd. Ychydig genir yn yr un ardal, daw'r rhai hyn bron o bob ardal yng Nghymru. Cefais hwy oddi wrth rai ugeiniau o gyfeillion caredig, yn enwedig pan oeddwn yn olygydd Cymru'r Plant. A chefais un fantais fawr yng nghwrs fy addysg, - nid oes odid blentyn yng Nghymru y canwyd mwy o hwiangerddi iddo.

Hyd y gwn i; Ceiriog ddechreuodd gasglu hwiangerddi Cymru, yn yr Arweinydd, yn 1856 ac 1857. Condemnid y golygydd, Tegai, am gyhoeddi pethau mor blentynnaidd. Ond daeth yr hanesydd dysgedig Ab Ithel, oedd wedi cyhoeddi'r Gododdin ac yn paratoi'r Annales Cambriae y Brut y Tywysogion i'r wasg, i'w amddiffyn yn bybyr. Cawr o ddyn oedd Ab Ithel; y mae rhai o ŵyr galluocaf a mwyaf dysgedig Cymru, yn ogystal â phlant ysgol, wedi'm helpu innau i wneud y casgliad hwn. Cyhoeddwyd casgliad Ceiriog wedi hyn yn "Oriau'r Haf." Nid oes ynddo ddim o gerddi hwian y De. Cyhoeddodd Cadrawd rai o gerddi hwian Morgannwg yn ei "History of Llangynwyd Parish" yn 1887. "Yn ddiweddarach cyhoeddwyd casgliad gyda darluniau prydferth yng Nghonwy,[1] a chasgliad gan Cadrawd gyda cherddoriaeth o drefniad Mr Harry Evans ym Merthyr Tydfil.[2]

Nid y lleiaf o arwyddion da am ddyfodol Cymru yw bod yr hen hwiangerddi swynol hyn i'w clywed eto yn ei chartrefi ac yn ei hysgolion.

OWEN M. EDWARDS.

Y Darluniau.

I Bachgen

Y BACHGEN boch-goch,
A'r bochau brechdan,
A'r bais dew,—
O ble doist ti?


II Yr Ebol Melyn

MAE gen i ebol melyn,
Yn codi'n bedair oed,
A phedair pedol arian
O dan ei bedwar troed;
Mi neidia ac mi brancia
O dan y feinir wen,
Fe reda ugain milltir
Heb dynnu'r ffrwyn o'i ben.



III Gyrru i Gaer

GYRRU, gyrru, gyrru i Gaer;
I briodi merch y maer;
Gyrru, gyrru, gyrru adre,
Wedi priodi ers diwrnode.


IV I'r ffair

AR garlam, ar garlam,
I ffair Abergele;
Ar ffrwst, ar ffrwst,
I ffair Lanrwst.


V Dau Gi Bach

DAU gi bach yn mynd i'r coed,
Dan droi'u fferrau, dan droi'u troed;
Dau gi bach yn dyfod adre,
Blawd ac eisin hyd eu coese.



VI Cerdded

DANDI di, dandi do,
Welwch chwi 'i sgidie newydd o?
Ar i fyny, ar i wared,
Bydd y bachgen bach yn cerdded.



VII VIII Y Ceffyl Bach

YMLAEN, geffyl bach,
I'n cario ni'n dau
Dros y mynydd
I hela cnau.

Ymlaen, geffyl bach,
I'n cario ni'n tri
Dros y mynydd
I hela cnu.



IX Sion a Sian

SION a Sian, oddeutu'r tân,
Yn bwyta blawd ac eisin mân.


XI Mynd i Lundain

BETI bach a finnau
Yn mynd i Lundain G'lanmai;
Os na chawn ni'r ffordd yn rhydd,
Mi neidiwn dros y cloddiau.

Beti bach a finne,
Yn mynd i Lundain Glame;
Mae dŵr y mor yn oer y nos,
Gwell inni aros gartre.


XII Gwlad Braf

LODES ei mam, a lodes ei thad,
A fentri di gyda fi allan o'r wlad,
Lle mae gwin yn troi melinau,
A chan punt am gysgu'r borau?



XIII Cysur Llundain

MI af i Lundain Glamai
Os byddai byw ac iach,
Ni 'rosa i ddim yng Nghymru
I dorri 'nghalon bach;
Mae digon o arian yn Llundain,
A swper gyda'r nos,
A mynd i 'ngwely'n gynnar,
A chodi wyth o'r gloch.



XIV Llong yn Mynd

SI hei-li-lwli, 'r babi,
Mae'r llong yn mynd i ffwrdd;
Si hei-li-lwli, 'r babi,
Mae'r capten ar y bwrdd.


XV Dafad Wen[3]

CHWE dafad gorniog,
A chwe nod arni,[4]
Ac ar y bryniau garw,
'Roedd rheiny i gyd yn pori;
Dafad wen, wen, wen,
Ie benwen, benwen, benwen;
Ystlys hir a chynffon wen,
Wen, wen.


XVI Iâr Fach Dlos

IÂR fach dlos
Yw fy iar fach i;
Pinc a melyn,
A choch a du.



XVII Gwcw Fach

GWCW fach, ond 'twyt ti'n ffolog,
Ffal di ral di rw dw ti rei tei O,
Yn canu 'mhlith yr eithin pigog,
Ffal di ral di rw dw ti rei tei O;
Dos i blwy Dolgellau dirion,
Ffal di ral di rw dw ti rei tei O;
Ti gei lwyn o fedw gwyrddion,
Ffal di ral di rw dw ti rei tei O.



Llygod a Malwod

LLYGOD man yn chwythu'r tan,
A'r malfod yn gweu melfed.


XIX I'r Dre

GYRRU, gyrru, drot i'r dre,
Dwad adre erbyn te.


XX I Gaerdydd

GYRRU, gyrru, i Gaerdydd,
Mofyn pwn o lestri pridd;
Gyrru, gyrru'n ol yn glau,
Llestri wedi torri'n ddau.



XXI Y Ceffyl Du Bach

PANDY, pandy, melin yn malu,
Gweydd yn gweu a'r ffidil yn canu;
Ceffyl bach du a'r gynffon wen
Yn cario Gwen a Mari.



XXII I'r Ffair (2)

TOMOS Jones yn mynd i'r ffair,
Ar gefn ei farch a'i gyfrwy aur;
Ac wrth ddod adre cwyd ei gloch,
Ac yn ei boced afal coch.



XXIII Ar Drot

AR drot, ar drot, i dy Shon Pot,
Ar whil, ar whil, i dy Shon Pil;
Ar garlam, ar garlam, i dy Shon Rolant,
Bob yn gam, bob yn gam, i dy f'ewythr Sam.



XXIV Ar Garlam

JOHN bach a finne,
Yn mynd i Lunden Glame;
Ac os na chawn ni'r ffordd yn glir,
Ni neidiwn dros y cloddie.


XXV Y Ddafad Felen[5]

CROEN y ddafad felen,
Yn towlu'i throed allan;
Troed yn ol, a throed ymlaen,
A throed yn towlu allan.


XXVI Cnul y Bachgen Coch

"Ding dong," medd y gloch,
Canu cnul y bachgen coch;
Os y bachgen coch fu farw,
Ffarwel fydd i'r gwin a'r cwrw.



XXVII Dau Fochyn Bach

Dacw tada'n gyrru'r moch,
Mochyn gwyn, a mochyn coch;
Un yn wyn yn mynd i'r cwt,
A'r llall yn goch a chynffon bwt.



XXVIII Colli Esgid

Dau droed bach yn mynd i'r coed,
Esgid newydd am bob troed;
Dau droed bach yn dwad adre
Wedi colli un o'r 'sgidie.



XIX I'r Felin

Dau droed bach yn mynd i'r felin,
I gardota blawd ac eithin;
Dau droed bach yn dyfod adra,
Dan drofera, dan drofera.


XXX Ianto

CARREG o'r Nant,
Wnaiff Iant;
Carreg o'r to,
Wnaiff o—
Ianto.


XXXI Deio Bach

DEIO bach a minne
Yn mynd i werthu pinne;
Un res, dwy res,
Tair rhes am ddime.



XXXII Y Bysedd

MODRYB y fawd,
Bys yr uwd,
Pen y cogwr,
Dic y peipar,
Joli cwt bach.



XXXIII Holi'r Bysedd[6]

"DDOI di i'r mynydd?" meddai'r fawd,
"I beth?" meddai bys yr uwd;
"I hela llwynog" meddai'r hir-fys;[7]
"Beth os gwel ni?" meddai'r canol-fys;
"Llechu dan lechen" meddai bys bychan.


XXXIV Rhodd[8]

BUARTH, baban, cryman, croes;
Modrwy aur i'r oreu 'i moes.


XXXVI XXXVII I'r Ysgol

MI af i'r ysgol fory,
A'm llyfyr yn fy llaw;
Heibio'r Castell Newydd,
A'r cloc yn taro naw;
Dacw mam yn dyfod,
Ar ben y gamfa wen,
"A rhywbeth yn ei barclod,
A phiser ar ei phen.

Mi af i'r ysgol fory,
A'm llyfyr yn fy llaw,
Heibio'r Sgubor Newydd,
A'r cloc yn taro naw;
O, Mari, Mari, codwch,
Mae heddyw'n fore mwyn,
Mae'r adar bach yn canu,
A'r gog ar frig y llwyn.



XXXVII Lle Difyr

MI fum yn gweini tymor
Yn ymyl Ty'n y Coed,
A'dyna'r lle difyrraf
Y bum i ynddo 'rioed;
Yr adar bach yn canu,
A'r coed yn suo ynghyd,--
Fy nghalon fach a dorrodd,
Er gwaetha rhain i gyd.


XXXVIII Colli Blew

PWSI mew, pwsi mew,
Lle collaist ti dy flew?
"Wrth gario tan
I dy modryb Sian,
Yng nghanol eira a rhew."


XXXIX Boddi Cath

SHINCIN Sion o'r Hengoed
Aeth i foddi cath,
Mewn cwd o lian newydd,
Nad oedd e damed gwaeth;
Y cwd a aeth 'da'r afon,
A'r gath a ddaeth i'r lan,
A Shincin Sion o'r Hengoed
Gas golled yn y fan.



XL Wel, Wel

"WEL, wel,"
Ebe ci Jac Snel,
"Rhaid i mi fynd i hel,
Ne glemio."



XLI XLII Pwsi Mew

PWSI meri mew,
Ble collaist ti dy flew?
"Wrth fynd i Lwyn Tew
Ar eira mawr a rhew."

"Pa groeso gest ti yno.
Beth gefaist yn dy ben?"
Ces fara haidd coliog,
A llaeth yr hen gaseg wen."


XLIII. CALANMAI.

LLIDIART newydd ar gae ceirch,
A gollwng meirch o'r stablau;
Cywion gwyddau, ac ebol bach,
Bellach ddaw Calanmai.


XLIV. XLVI. DA.


Mae gen i darw penwyn,
A gwartheg lawer iawn;
A defaid ar y mynydd,
A phedair das o fawn.

Mae gen i gwpwrdd cornel,
A set o lestri te;
A dresser yn y gegin,
A phopeth yn ei le.

Mae gen i drol a cheffyl,
A merlyn bychan twt,
A phump o wartheg tewion,
Yn pori yn y clwt.



XLVII. DACW DY.


DACW dŷ, a dacw do,
Dacw efail Sion y go;
Dacw Mali wedi codi,
Dacw Sion a'i freichiau i fyny.


XLVIII. COFIO'R GATH.


AR y ffordd wrth fynd i Ruthyn,
Gwelais ddyn yn gwerthu brethyn;
Gofynnais iddo faint y llath,
Fod arnaf eisio siwt i'r gath.

XLIX. YSTURMANT[9]

(I ddynwared swn ysturmant.)
DWR glân gloew,
Bara chaws a chwrw.

L. YSGUTHAN.[10]

(I ddynwared Cân Ysguthan.)
Cyrch du, du,
Yn 'y nghwd i.


LI. SIAN.

SIAN bach anwyl,
Sian bach i;
Fi pia Sian,
A Sian pia fi.


LII. SIAN A SION.

PAN brioda Sion a minnau,
Fe fydd cyrn ar bennau'r gwyddau;
leir y mynydd yn bluf gwynion ;
Ceiliog twrci fydd y person.


LIII. SION A SIAN.

SION a Sian yn mynd i'r farchnad,
Sian yn mynd i brynnu iar,
A Sion i werthu dafad.

LIV. Y CROCHAN.

Rhowch y crochan ar y tan,
A phen y fran i ferwi;
A dau lygad y gath goed,
A phedwar troed y wenci.

LV. UST.

UST, O taw! Ust, O taw,
Aeth dy fam i Loeger draw;
Hi ddaw adre yn y man,
A llond y cwd o fara cann.


LVI. CYSGU.

BACHGEN bach ydi'r bachgen gore,
Gore, gore;
Cysgu'r nos, a chodi'n fore,
Fore, fore.


LVII. FFAFRAETH.

HEN fenyw fach Cydweli
Yn gwerthu losin du;
Yn rhifo deg am geiniog,
Ond un ar ddeg i fi.


LVIII. MERCH EI MAM.

MORFUDD fach, ferch ei mham,
Gaiff y gwin a'r bara cann;
Hi gaiff 'falau per o'r berlian,
Ac yfed gwin o'r llester arian.

LIX. MERCH EI THAD

MORFUDD fach, merch ei thad,
Gaiff y wialen fedw'n rhad;
Caiff ei rhwymo wrth bost y gwely
Caiff ei chwipio bore yfory.

LX. COLLED.

WHIC a whiw!
Aeth y barcud a'r ciw;
Os na feindwch chwi ato,
Fe aiff ag un eto.


LXI. ANODD COELIO

MAE gen i hen iar dwrci,
A mil o gywion dani;
Pob un o rheiny yn gymaint ag ych,-
Ond celwydd gwych yw hynny?


LXII. DODWY DA.

MAE gen i iar a cheiliog
A brynnais i ar ddydd Iau ;
Mae'r iar yn dodwy wy bob dydd,
A'r ceiliog yn dodwy dau.


LXIII. BYW DETHEU

MAE gen i iar a cheiliog,
A hwch a mochyn tew;
Rhwng y wraig a finne,
'R ym ni'n ei gwneyd hi'n lew.

LXIV. DA

MAE gen i ebol melyn
A merlen newydd spon,
A thair o wartheg blithion
Yn pori ar y fron:
Mae gen i iar a cheiliog,
Mi cefais er dydd Iau,
Mae'r iar yn dodwy wy bob dydd
A'r ceiliog yn dodwy dau.


LXV. Go-Go-Go!

SHONI Brica Moni
Yn berchen buwch a llo;
A gafar fach, a mochyn,
A cheiliog, go-go-go!



LXVI. CYNFFON.

MI welais nyth pioden,
Fry, fry, ar ben y goeden,—
A'i chynffon hi mas.



LXVII. TAITH DAU

DAFI bach a minne,
Yn mynd i Aberdâr,
Dafi'n mofyn ceiliog,
A minne'n 'mofyn giar.



LXVIII. YSGWRS

"WEL," meddai Wil wrth y wal,
Wedodd y wal ddim wrth Wil.


LXIX. HOFF BETHAU.

MAE'N dda gan hen wr uwd a lla'th
Mae'n dda gan gath lygoden ;
Mae'n dda gan 'radwr flaen ar swch,
Mae'n dda gan hwch y fesen.


LXX. CLOC.

MAE gen i, ac mae gen lawer,
Gloc ar y mur i gadw amser;
Mae gan Moses, Pant y Meusydd,
Gloc ar y mur i gadw'r tywydd.



LXXI. DWY FRESYCHEN.

MI welais ddwy gabetsen,
Yn uwch na chlochdy Llunden;
A deunaw gŵr yn hollti 'rhain,
A phedair cainc ar hugain.



LXXII. TOI A GWAU.

MI welais i beth na welodd pawb,—
Y cwd a'r blawd yn cerdded;
Y frân yn toi ar ben y ty,
A'r malwod yn gwau melfed.



LXXIII. MALWOD A MILGWN.

MI welais innau falwen goch,
A dwy gloch wrth ei chlustiau;
A dau faen melin ar ei chefn,
Yn curo'r milgwn gorau.


LXXIV. GWENNOL FEDRUS.

DO, mi welais innau wennol,
Ar y traeth yn gosod pedol;
Ac yn curo hoel mewn diwrnod,—
Dyna un o'r saith rhyfeddod.


LXXV. LLYNCU DEWR.

MI weles beth na welodd pawb,—
Y cwd a'r blawd yn cerdded,
Y frân yn toi ar ben y ty,
A'r gŵr mor hy a hedeg ;
A hogyn bach, dim mwy na mi,
Yn llyncu tri dyniawed.



LXXVI., LXXVII. Y DDAFAD YN Y BALA.

'ROEDD gen i ddafad gorniog,
Ac arni bwys o wlan,
Yn pori ar lan yr afon
Ymysg y cerrig mân;
Fe aeth yr hwsmon heibio,
Hanosodd arni gi;
Ni welais i byth mo'm dafad,
Ys gwn i a welsoch chwi?

Mi gwelais hi yn y Bala,
Newydd werthu ei gwlan,
Yn eistedd yn ei chadair,
O flaen tanllwyth mawr o dân;
A'i phibell a'i thybaco,
Yn smocio'n abal ffri,
A dyna lle mae y ddafad,
Gwd morning, Jon, how di!

LXXVIII. IAR Y PENMAEN MAWR.

'Roedd gen i iar yn gorri,
Ar ben y Penmaen Mawr,
Mi eis i droed y Wyddfa
I alw arni i lawr;
Mi hedodd ac mi hedodd,
A'i chywion gyda hi,
I ganol tir y Werddon,
Good morning, John! How di?


LXXIX. I BLE?

TROI a throsi, troi i ble ?
I Abergele i yfed te.



LXXX. MORIO.

FUOST ti erioed yn morio?
"Do, mewn padell ffrio ;
Chwythodd y gwynt fi i Eil o Man,
A dyna lle bum i'n crio."



LXXXI. LLONG FY NGHARIAD.

DACW long yn hwylio'n hwylus,
Heibio'r trwyn, ac at yr ynys;
Os fy nghariad i sydd ynddi,
Hwyliau sidan glas sydd arni.


LXXXII. CWCH BACH,

CWCH bach ar y môr,
A phedwar dyn yn rhwyfo;
A Shami pwdwr wrth y llyw
Yn gwaeddi," Dyn a'n helpo."


LXXXIII. GLAN Y MOR.

MAE gen i dy bach del,
O dŷ bach del, O dy bach del,
A'r gwynt i'r drws bob amser;
Agorwch dipyn o gil y ddôr,
O gil y ddôr, o gil y ddôr,
Cewch weld y môr a'r llongau.



LXXXIV. DWR Y MOR.

IOAN bach a finnau
Yn mynd i ddwr y môr;
Ioan yn codi 'i goesau,
A dweyd fod dŵr yn oer.



LXXXV. TRI.

TRI graienyn, tri maen melin,
Tair llong ar fôr, tri môr, tri mynydd ;
A'r tri aderyn a'r traed arian,
Yn tiwnio ymysg y twyni mân.



LXXXVI. WEDI DIGIO.

MAE fy nghariad wedi digio,
Nis gwn yn wir pa beth ddaeth iddo ;
Pan ddaw'r gwibed bach a chywion,
Gyrraf gyw i godi ei galon.


LXXXVII. CARN FADRYN.

MI af oddiyma i ben Carn Fadryn,
Er mwyn cael gweled eglwys Nefyn ;
O ddeutu hon mae'r plant yn chware,
Lle dymunwn fy mod inne.


LXXXVIII. SIGLO'R CRYD.

SIGLO'R cryd â'm troed wrth bobi,
Siglo'r cryd â'm troed wrth olchi ;
Siglo'r cryd ymhob hysywaeth,
Siglo'r cryd sy raid i famaeth.



LXXXIX. Y LLEUAD.

MAE nhw'n dwedyd yn Llanrhaiad,
Mai rhyw deiliwr wnaeth y lleuad;
A'r rheswm am fod goleu drwyddo,
Ei fod heb orffen cael ei bwytho.



LXL. COES UN DDEL.[11]

COES un ddel, ac hosan ddu,
Fel a'r fel, fel a'r fu;
Fel a'r fu, fel a'r fel,
Ac hosan ddu coes un ddel.



LXLI. Y BRYN A'R AFON.

Y BRYN, " Igam Ogam, ble'r ei di ?"
Yr Afon," Moel dy ben, nis gwaeth i ti."
Y Bryn, Mi dyf gwallt ar fy mhen i
Cyn unioni'th arrau ceimion di."


LXLII. DECHREU CANU.

PAN es i gynta i garu,
O gwmpas tri o'r gloch,
Mi gurais wrth y ffenestr,
Lle'r oedd yr hogen goch.


LXLIII. SIGLO.

TRI pheth sy'n hawdd eu siglo,—
Llong ar för pan fydd hi'n nofio,
Llidiart newydd ar glawdd helyg,
A march dan gyfrwy merch fonheddig.



LXLIV. ARFER PENLLYN.

DYMA arfer pobl Penllyn,—
Canu a dawnsio hefo'r delyn,
Dod yn ol wrth oleu'r lleuad,
Dwyn y llwdn llwyd yn lladrad.



LXLV. DILLAD NEWYDD.

CAF finnau ddillad newydd
O hyn i tua'r Pasg,
Mi daflaf rhain i'r potiwr,
Fydd hynny fawr o dasg;
Caf wedyn fynd i'r pentre,
Fel sowldiwr bach yn smart,
A phrynnaf wn a chledde,
I ladd 'rhen Fonipart.



LXLVI. LLE RHYFEDD.

EGLWYS fach Pencarreg,
Ar ben y ddraenen wen;
A chlochdy mawr Llanbydder
Yn Nheifi dros ei ben.


LXLVII. SEL WIL Y PANT.

PAN oedd y ci ryw noson,
Yn ceisio crafu'r crochon,
'Roedd Wil o'r Pant, nai Beti Sian,
Yn cynnal bla'n 'i gynffon.


LXLVIII. CARIO CEILIOG.

TWM yr ieir aeth lawr i'r dre,
A giar a cheiliog gydag e;
Canodd y ceiliog,—"Go-go-go";
Gwaeddodd Twm,—"Halo! Halo!"



LXLIX. FE DDAW.

FE ddaw Gwyl Fair, fe ddaw Gwyl Ddewi,
Fe ddaw'r hwyaden fach i ddodwy.



C. CEL BACH, CEL MAWR.

HEI, gel bach, tua Chaerdydd,
'Mofyn pwn o lestri pridd ;
Hei, gel mawr, i Aberhonddu,
Dwmbwr dambar, llestri'n torri.



CI. I'R DRE.

GYRRU, gyrru, drot i'r dre,
'Mofyn bara cann a the.



CII. I FFAIR HENFEDDAU.

GYRRU, gyrru, i ffair Henfeddau,
'Mofyn pinnau, 'mofyn 'falau.



CIII. I FFAIR Y RHOS.

GYRRU, gyrru, i ffair y Rhos ;
Mynd cyn dydd a dod cyn nos.


CIV. I FFAIR Y FENNI.

GYRRU, gyrru, i ffair y Fenni;
'Mofyn cledd i ladd y bwci.


CV. CEL BACH DEWR.

WELWCH chwi cel bach.
Yn ein cario ni'n dau?
Mynd i ochor draw'r afon
Gael eirin a chnau.



CVI. CEFFYL JOHN JONES.

MAM gu, mam gu, dewch maes o'r ty,
Gael gweld John Jones ar gefn y ci.



CVII. MARI.

MARI lân, a Mari lon,
A Mari dirion doriad,
Mari ydyw'r fwyna'n fyw,
A Mari yw fy nghariad;
Ac onid ydyw Mari'n lân.
Ni wiw i Sian mo'r siarad.



CVIII. TROT, TROT.

TROT, trot, tua'r dre,
'Mofyn pwn o lestri te;
Trot, trot, tua'r dre,
I mofyn set o lestri te;
Galop, galop, tua chartre,
Torri'r pwn a'r llestri'n gate.


CIX. FFIDIL A FFON.

MARI JOHN, ffidil a ffon,
Cyllell a bilwg i chware ding dong.


CX. ENNILL.

SION a Siani Siencyn,
Sy'n byw yn sir y Fflint ;
Sian yn ennill chweugain,
A Sion yn ennill punt.



CXI. DYNA'R FFORDD.

DAFI Siencyn Morgan,
Yn codi'r dôn ei hunan;
A'i isaf en e nesa i fiwn,
A dyna'r ffordd i ddechre tiwn.



CXII. ROBIN A'R DRYW.

ROBIN goch a'r Dryw bach
Yn fy nghuro i fel curo sach;
Mi godais innau i fyny'n gawr,
Mi drewais Robin goch i lawr.



CXIII. Y JI BINC.

JI binc, ji binc, ar ben y banc,
Yn pwyso hanner cant o blant.



CXIV. Y FRAN.

SHINC a Ponc a finne
Yn mynd i ffair y pinne;
Dod yn ol ar gefn y frân,
A phwys o wlan am ddime.


CXV Robin Goch

Robin goch ar ben y rhiniog,
Yn gofyn tamaid heb un geiniog;
Ac yn dwedyd yn ysmala,–
"Mae hi'n oer, mi ddaw yn eira."'

CXVI. JAC Y Do.

SI so, Jac y Do,
Dal y deryn dan y to,
Gwerthu'r fuwch a lladd y llo,
A mynd i Lunde i roi tro,
Dene diwedd Jac y Do.


CXVII. DAWNS.

Y DYRNWR yn dyrnu,
Y ffidil yn canu:
A Robin goch bach
Yn dawnsio'n y beudy.


CXVIII. MYND I GARU

RHOWCH imi fenthyg ceffyl,
I fyned dros y lan,
I garu'r ferch fach ifanc
Sy'n byw 'da 'i thad a'i mham;
Ac oni ddaw yn foddus,
A'i gwaddol gyda hi,
Gadawaf hi yn llonydd,
Waith bachgen pert wyf fi.


CXIX. FY EIDDO.

MAE gennyf dŷ cysurus,
A melin newydd dwt!
A chwpwrdd yn y gornel,
A mochyn yn y cwt.

CXX. SEN I'R GWAS.

Y llepyn llo a'r gwyneb llwyd,
Ti fyti fwyd o'r gore;
Pe torrit gwys fel torri gaws,
Fe fyddai'n haws dy ddiodde.

CXXI. PRUN?

Dic Golt a gysgodd yn y cart,
Fe'i speiliwyd o'i geffyle;
A phan ddihunodd, holi wnai,–
"Ai Dic wyf fi, ai nage?
Os Dic wyf fi, ces golled flin,–
Mi gollais fy ngheffyle;
Ac os nad Dic, 'rwy'n fachgen smart,
Enillais gart yn rhywle."


CXXII. DAMWAIN.

Shigwti wen Shon-Gati,
Mae crys y gŵr heb olchi,
Fe aeth yr olchbren gyda'r nant,
A'r wraig a'r plant yn gwaeddi.


CXXIII. COED TAN.

Gwern a helyg
Hyd Nadolig.
Bedw, os cair,
Hyd Wyl Fair;
Cringoed caeau
O hynny hyd Glamai;
Briwydd y frân
O hynny ymlaen.

CXXIV. FFAIR PWLLHELI.

AETH fy Ngwen i ffair Pwllheli,
Eisio padell bridd oedd arni;
Rhodd am dani saith o sylltau,
Cawswn i hi am dair a dimau.

CXXV. BORE GOLCHI.

AETH fy Ngwen ryw fore i olchi,
Eisio dillad glân oedd arni; T
ra bu Gwen yn 'mofyn sebon,
Aeth y dillad hefo'r afon.


CXXVI. BORE CORDDI.

AETH fy Ngwen ryw fore i gorddi,
Eisio menyn ffres oedd arni;
Tra bo Gwen yn 'mofyn halen,
Aeth y ci a'r menyn allan.


CXXVII. SEREN DDU.

SEREN ddu a mwnci,
Sion y gof yn dyrnu,
Modryb Ann yn pigo pys,
A minnau'n chwys dyferu.


CXXVIII. BENTHYG LLI.

SI so gorniog,
Grot a pheder ceiniog,
Un i mi, ac un i chwi,
Ac un i'r dyn,
Am fenthyg y lli gorniog.


Mae'n dda gan gath llygoden

CXXIX. LLAWER O HONYNT

CEILIOG bach y Wyddfa
Yn canu ar y bryn,
Hwyaid Aber Glaslyn
Yn nofio ar y llyn;
Gwyddau Hafod G'regog
Yn gwaeddi "wich di wach,"
A milgwn Jones Ynysfor
Ar ol y llwynog bach.

CXXX. LLE MAE PETHAU.

MAE yn y Bala flawd ar werth,
Mae'n Mawddwy berth i lechu,
Mae yn Llyn Tegid ddwr a gro,
Mae'n Llundain o i bedoli;
Ac yng Nghastell Dinas Brân
Mae ffynnon lân i ymolchi.


CXXXI. HEN LANC.

BRIODI di?
Na wnaf byth !
Wyt ti'n siwr?
Ydw'n siwr.
Hen lanc yn byw fy hunan
Ydwyf fi;
Yn meddu cwrs o arian,
Ydwyf fi;
Yn meddwl am briodi?
Priodi, na wnaf byth;
Waeth beth fydd gennyf wedyn,
Ond poenau lond fy nyth.


CXXXII. CARU FFYDDLON.

MAE nhw'n dwedyd ac yn son
Mod i'n caru yn sir Fon;
Minne sydd yn caru'n ffyddlon
Dros y dŵr yn sir Gaernarfon.

CXXXIII. CARU YMHELL.

CARU yng Nghaer, a charu yng Nghorwen,
Caru yn Nyffryn Clwyd a Derwen;
Caru 'mhellach dros y mynydd,
Cael yng Nghynwyd gariad newydd.


CXXXIV. ELISABETH.

ELISABETH bach, a briodwch chwi fi?
Dyma'r amser gore i chwi;
Tra bo'r drym yn mynd trwy'r dre,
Tra bo'ch calon bach yn ei lle.


CXXXV. SHONTYN.

SHONTYN, Shontyn, y gwr tynn;
Clywed y cwbl, a dweyd dim.


CXXXVI. GLAW.

MAE'N bwrw glaw allan,
Mae'n hindda'n y ty,
A merched Tregaron
Yn chwalu'r gwlan du.

Cloc ar y mur i gadw amser.

CXXXVII. Y CARWR TRIST.


BACHGEN bach o Ddowles,
Yn gweithio'n ngwaith y tân,
Bron a thorri 'i galon
Ar ol y ferch fach lân;
Ei goesau fel y pibau,
A'i freichiau fel y brwyn,
Ei ben e fel pytaten,
A hanner llath o drwyn.

CXXXVIII. JOHN.


AR y ffordd wrth fynd i Lerpwl,
Gwelais John ar ben y cwpwr;
Gofynnais iddo beth oedd o'n wneyd;
Bwyta siwgwr, paid a deyd."


CXXXIX. BREUDDWYD.


GWELAIS neithiwr, drwy fy hun,
Lanciau Llangwm bod yn un;
Rhai mewn uwd, a rhai mewn llymru.
A rhai mewn buddai, wedi boddI.


CXL. PEDOLI, PEDINC.


PEDOLI, pedoli, pe-dinc,
Mae'n rhaid i ni bedoli
Tae e'n costio i ni bunt;
Pedol yn ol, a phedol ymlaen,
Pedol yn eise o dan y droed ase,-
Bi-dinc, bi-dinc, bi-dinc.


CXLI. PEDOLI, PEDROT.


PEDOLI, pedoli, pedoli, pe drot,
Mae'n rhaid i ni bedoli
Tae e'n costio i ni rot;
Pedol yn ol, a phedol ymlaen,
Pedol yn eise o dan y droed ase,-
Bi-drot, bi-drot, bi-drot.


CXLII. PEDOLI'R CEFFYL GWYN.

PEDOLI, pedoli, pe-din,
Pedoli'r ceffyl gwyn;
Pedoli, pedoli, pe-doc,
Pedoli'r ebol broc.

CXLIII. ROBIN DIR-RIP.

ROBIN dir-rip,
A'i geffyl a'i chwip;
A'i gap yn ei law,
Yn rhedeg trwy'r baw.


CXLIV. GWCW!

"GW-CW!" medd y gog,
Ar y gangen gonglog;
"Gw-cw!" medd y llall,
Ar y gangen arall.


CXLV. GARDYSON.

SHONI moni, coesau meinion,
Cwtws y gath yn lle gardyson.


"Mi gnociais wrth y ffenest
Lle'r oedd yr hogen goch."


CXLVI. ESGIDIAU.

LLE mae 'i sgidie?
Pwy sgidie?
Sgidie John.
Pwy John?
John diti.
Pwy diti?
Diti 'i fam.
Pwy fam?
I fam e'.
Pwy e'?
E' 'i hunan.

CXLVII. ROBIN GOCH.

ROBIN goch ar ben y rhiniog,
A'i ddwy aden yn anwydog;
Ac yn dwedyd yn ysmala,—
Mae hi'n oer, mi ddaw yn eira."


CXLVIII. CHWARE.

CANWCH y gloch!
(Tynnu yn un o'r cudynau gwallt)
Curwch y drws!
(Taro'r talcen a'r bys)
Codwch y glicied!
(Gwasgu blaen y trwyn i fyny)
Dowch i mewn, dowch i mewn, dowch i mewn !
(Rhoi'r bys ar y wefus).


CXLIX. CARIAD.

MAE gen i gariad glân, glân,
Gwrid coch a dannedd mân;
Ei dwy ael fel ede sidan,
Gwallt ei phen fel gwiail arian.


CL. DEWIS OFER.

MYND i'r ardd i dorri pwysi,
Gwrthod lafant, gwrthod lili;
Pasio'r pinc a'r rhosod cochion,
Dewis pwysi o ddanad! poethion.

CLI. LADI FACH BENFELEN.

LADI bach benfelen,
Yn byw ar ben y graig,
Mi bobith ac mi olchith,
Gwnaiff imi burion gwraig;
Mi startsith ac mi smwddith,
Gwnaiff imi burion bwyd,
Fe wnaiff i'r haul dywynnu
Ar ben y Garreg Lwyd.


CLII. CYDYMDEIMLAD.

TRUENI mawr oedd gweled
Y merlyn bach diniwed,
Ac arno fe y chwys yn drwyth,
Wrth lusgo llwyth o ddefed.


CLIII. APEL.

GLAW bach, cerr ffordd draw,
A gad i'r haul ddod yma.


CLIV. SAETHU LLONGAU.

WELSOCH chwi wynt, welsoch chwi law?
Welsoch chwi dderyn bach ffordd draw?
Welsoch chwi ddyn â photasen ledr,
Yn saethu llongau brenin Lloegr?


CLV. CEINIOG I MI.

SI so, si so,
Deryn bach ar ben y to;
Gyrru Gwyddau.
Ceiniog i ti,
Ceiniog i mi,
A cheiniog i'r iar am ddodwy,
A cheiniog i'r ceiliog am ganu.

CLVI. Y TYWYDD.

BYS i fyny, teg yfory;
Bys i lawr, glaw mawr.


CLVII., CLVIII. CALANMAI.

DAW Clame, daw Clame,
Daw dail ar bob twyn,—
Daw meistr a meistres
I edrych yn fwyn.

A minne, 'rwy'n coelio,
Yn hela i'm co,
I'r gunog laeth enwyn
Fod ganwaith dan glo.


CLIX. CATH DDU.

AMEN, person pren,
Cath ddu a chyn ffon wen.


CLX. MYND A DOD.

HEI ding, diri diri dywn,
Gyrru'r gwyddau bach i'r cawn;
Dwad 'nol yn hwyr brynhawn,
A'u crombilau bach yn llawn.


CLXI. GYRU GWYDDAU.

HEN wraig bach yn gyrru gwyddau,
Ar hyd y nos;
O Langollen i Ddolgellau,
Ar hyd y nos;
Ac yn dwedyd wrth y llanciau,
Gyrrwch chwi, mi ddaliaf finnau,"
O Langollen i Ddolgellau,
Ar hyd y nos.

CLXII. BWRW EIRA.

HEN wraig yn pluo gwyddau,
Daw yn fuan ddyddiau'r gwyliau.


CLXIII. BETH SYDD GENNYF.

MAE gen i iar, mae gen i geiliog,
Mae gen i gywen felen gopog;
Mae gen i fuwch yn rhoi i mi lefrith,
Mae gen i gyrnen fawr o wenith.


CLXIV. TAIR GWYDD.

GWYDD o flaen gŵydd,
Gŵydd ar ol gŵydd,
A rhwng pob dwy ŵydd, gŵydd;
Sawl gŵydd oedd yno?


CLXV. , CLXVI. CARIAD Y MELINYDD.

MI af i'r eglwys Ddywsul nesa,
Yn fy sidan at fy sodla;
Dwed y merched wrth eu gilydd,—
"Dacw gariad Wil Felinydd."

Os Wil Felinydd wyf yn garu,
Rhoddaf bupur iddo falu;
Llefrith gwyn i yrru'r felin,
A chocos arian ar yr olwyn.


CLXVII. CARIAD ARALL.

MAE'N dda gen i fuwch,
Mae'n dda gen i oen,
Mae'n dda gen i geffyl
Yn llydan ei ffroen;
Mae'n dda gen i'r adar
Sy'n canu yn y llwyn.
Mae'n dda gen i fachgen
A chrwb ar ei drwyn;
A thipyn bach bach o ol y frech wen,
Yn gwisgo het befer ar ochor ei ben.

CLXVIII. GWRAIG.

MI fynnaf wraig, mi wranta,
Caiff godi'r bore'n nghynta; T
roed yn ol a throed ymlaen,
A throed i gicio'r pentan.


CLXIX. , CLXX. PRY BACH, [12]

PRY bach yn mynd i'r coed,
Dan droi 'i ferrau, dan droi 'i droed;
Dwad adre yn y bore,
Wedi colli un o'i sgidie.

Pry bach yn edrych am dwll,
Yn edrych am dwll, yn edrych am dwll,
Pry bach yn edrych am dwll,
A dyma dwll, dwll, dwll, dwll, dwll.


CLXXI. Y BYSEDD.

BOWDEN,
Gwas y Fowden,
Libar labar,
Gwas y stabal,
Bys bach, druan gŵr,
Dorrodd 'i ben wrth gario dŵr
I mam i dylino.

CLXXII. CHWARE'R BYSEDD.

"I'R coed," medde
Modryb y Mawd,
I be?" medde Bys yr Uwd;
I ladrata," medde Hirfys;
'Beth os dalian ni?" medde'r Canol-fys;
"Dengwn, dengwn, rhag iddo'n dal ni,"
Medde'r Bys Bach.


CLXXIII. BWGAN.

BWGAN bo lol, a thwll yn 'i fol,
Digon o le i geffyl a throl.


CLXXIV. YR ENETH BENFELEN.

MAE geneth deg ben-felen
Yn byw ym Mhen y Graig,
Dymunwn yn fy nghalon
Gael honno imi'n wraig;
Hi fedr bobi a golchi,
A thrin y tamaid bwyd,
Ac ennill llawer ceiniog
Er lles y bwthyn llwyd.


Bachgen bach o Ddowles

CLXXV. Y WYLAN.

Y WYLAN fach adnebydd
Pan fo'n gyfnewid tywydd;
Hi hed yn deg, ar aden wen,
O'r môr i ben ymynydd.

CLXXVI. FY NGHARIAD.

DACW 'nghariad ar y dyffryn,
Llygaid hwch a dannedd mochyn;
A dau droed fel gwadn arad,
Fel dyllhuan mae hi'n siarad.


CLXXVII. DAU DDEWR.

DAU lanc ifanc yn mynd i garu,
Ar noswaith dywell fel y fagddu;
Swn cacynen yn y rhedyn
A'u trodd nhw adre'n fawr eu dychryn.


CLXXVIII. LLANC.

MI briodaf heddyw yn ddi-nam,
Heb ddweyd un gair wrth nhad na mam.


CLXXIX. YMFFROST.CHWARELWR[13]

Chwarelwr oedd fy nhaid,
Chwarelwr oedd fy nhad;
Chwarelwr ydwyf finnau,
Y goreu yn y wlad;
Chwarelwr ydyw'r baban
Sy'n cysgu yn ei gryd,
Ond tydi o'n beth rhyfedd
Ein bod ni'n chwarelwyr i gyd?


CLXXX. Y RHYBELWR BACH.[14]

RHYBELWR bychan ydwyf,
Yn gweithio hefo nhad,
Mi allaf drin y cerrig
Yn well na neb o'r wlad;
'Rwy'n medru naddu Princes,
Y Squares, a'r Counties bach,
Cyn hir caf finnau fargen,
Os byddaf byw ac iach.

CLXXXI. LLIFIO.

LLIFIO, llifio, llifio'n dynn,
Grot y dydd y flwyddyn hyn;
Os na lifiwn ni yn glau,
'Nillwn ni ddim grot yn dau.


CLXXXII. GOLCHI LLESTRI.

DORTI, Dorti, bara gwyn yn llosgi,
Dŵr ar y tân i olchi'r llestrI.


CLXXXIII. CAP.

MORUS y gwynt,
Ac Ifan y glaw,
Daflodd fy nghap
I ganol y baw.


Mynd i'r ardd i dorri pwysi

CLXXXIV. CLOCS.

MAE gen i bâr o glocs,
A rheini'n bâr go dda,
Fe barant dros y gaea,
A thipyn bach yr ha;
Os can nhw wadnau newydd,
Fe barant dipyn hwy;
A saith a dime'r glocsen,
A phymtheg am y ddwy.

CLXXXV. GLAW.

GLAW, glaw, cerdda draw;
Haul, haul, tywynna.


CLXXXVI. MERCHED DOL 'R ONNEN

MAE'N bwrw glaw allan,
Mae'n deg yn y tŷ,
A merched Dol 'r Onnen
Yn cribo'r gwlan du.


CLXXXVII. LLIW'R GASEG.

CASEG winnau, coesau gwynion,
Groenwen denau, garnau duon;
Garnau duon, groenwen denau,
Coesau gwynion, caseg winnau.


CLXXXVIII. BERWI POTEN.

HEI, ding-a-ding, diri,
Mae poten yn berwi,
Shini a Shani yn gweithio tân dani;
Shani'n ei phuro â phupur a fflŵr,
Ychydig o laeth, a llawer o ddŵr.


CLXXXIX. WRTH Y TAN.

DORTI, Dorti, bara gwyn yn llosgi,
Dŵr ar y tân i olchi'r llestri;
Crafwch y crochan gael creifion i'r ci,
A hefyd gwnewch gofio
Rhoi llaeth i'r gath ddu.

CXC.PAWB WRTHI.

Y CI mawr yn pobi,
Y ci bach yn corddi,
A'r gath ddu yn golchi
Ei gwyneb yn lân;
Y wraig yn y popty
Yn gwylio'r bara'n crasu,
A'r llygod yn rhostio
Y cig wrth y tân.


CXCI. , CXCII. TE A SIWGR GWYN.

HEN ferched bach y pentre,
Yn gwisgo capie lasie,
Yfed te a siwgr gwyn,
A chadw dim i'r llancie.

Bara a llaeth i'r llancie,
Ceirch i'r hen geffyle,
Cic yn ol, a chic ymlaen,
A dim byd i'r genod.


Ymofyn gwaith, dim gwaith

CXCIII. SI SO.

SI so, jac y do,
Yn gwneyd ei nyth drwy dyllu'r to,
Yn gwerthu'r mawn a phrynnu'r glo,
Yn lladd y fuwch a blino'r llo,
Yn cuddio'r arian yn y gro,
A mynd i'r Werddon i roi tro,
Si so, jac y do.

CXCIV. I'R SIOP.

MAE gen i ebol melyn
Yn codi'n bedair oed,
A phedair pedol arian
O dan ei bedwar troed;
I'r siop fe geiff garlamu,
I geisio llonnaid sach
O de a siwgr candi
I John a Mari fach.


CXCV. CADW CATH DDU.

MAE gen i gath ddu,
Fu erioed ei bath hi,
Hi gurith y clagwydd,
Hi dynnith ei blu;
Mae ganddi winedd a barf,
A rheini mor hardd,
Hi helith y llygod
Yn lluoedd o'r ardd;
Daw eilwaith i'r ty,
Hi gurith y ci,—
Mi rown i chwi gyngor
I gadw cath ddu.


CXCVI. NEWID BYD.

AR ol bod yn ferch ifanc,
A gwisgo fy ffrog wen,
A'm gwallt i wedi ei blethu
Fel coron ar fy mhen;
A'm sgidiau wedi eu polsio,
A'r rheiny'n cau yn glos,—
Ar ol i mi briodi
Rhaid i mi wisgo clocs.

CXCVII. SIOM.

'ROWN i'n meddwl, ond priodi,
Na chawn i ddim ond dawnsio a chanu;
Ond y peth a ges i wedi priodi,
Oedd siglo'r cryd a suo'r babI.


CXCVIII. RHY WYNION.

MAE mam ynghyfraith, hwnt i'r afon,
Yn gweld fy nillad yn rhy wynion;
Mae hi'n meddwl yn ei chalon
Mai 'mab hi sy'n prynnu'r sebon.


CXCIX. DIM GWAITH.

YSGAFN boced, dillad llwyd,
Mawr drugaredd yw cael bwyd;
Mynd o gwmpas, troi o gwmpas,
Ar hyd y fro;
Ymofyn gwaith, dim gwaith,
Trwm yw'r tro.


CC.PWY FU FARW?

PWY fu farw?
"Sion Ben Tarw."
Pwy geiff y gwpan?
"Sion Ben Tympan."
Pwy geiff y llwy?
"Pobol y plwy."

CCI. P'LE MAE DY FAM?

TITW bytaten, i ble'r aeth dy fam?
Hi aeth i lygota a chafodd beth cam;
Gwraig y ty nesaf a'i triniodd hi'n frwnt,
Hi gurodd ei dannedd yng nghaead y stwnt.


CCII. DAU ROBIN.

CRIO, crio, crio,
Mae Robin ni yn groch;
Canu, canu, canu,
O hyd, mae Robin goch.


CCIII. , CCIV. SION.

SION i fyny, Sion i wared,
Sion i garthu tan y gwartheg;
Sion a ŵyr yn well na'r merched
Pa sawl torth a wneir o beced.

Fe geir pedair torth o phioled,
Fe geir wyth o hanner peced;
Ac os bydd y wraig yn hyswi,
Fe geir teisen heblaw hynny.


CCV. ABER GWESYN.

ABERGWESYN, cocyn coch,
Mae cloch yn Abertawe;
Mae eidion coch yng nghoed Plas Gwent,
A pharlament yn Llunden.

CCVI. CORWEN.

NEIDIODD llyffant ar ei naid
O Lansantffraid i Lunden,
Ac yn ei ol yr eilfed waith
Ar ganllaw pont Llangollen;
Ond yn lle disgynnedd y drydedd waith
Ond ynghanol caerau Corwen.


CCVII. DYFED.

DINCYLL, doncell, yn y Bridell;
Tair cloch arian yng Nghilgeran;
Uch ac och yn Llandudoch;
Llefain a gwaeddi yn Aberteifi;
Llaeth a chwrw yn Eglwys Wrw;
Cario ceffyl pren trwy Eglwys Wen.


CCVIII. RHUDDLAN.

Y COBLER coch o Ruddlan
A aeth i foddi cath,
Mewn cwd o lian newydd
Nad oedd o damed gwaeth;
Y cwd aeth hefo'r afon,
Y gath a ddaeth i'r lan,
Ow'r cobler coch o Ruddlan,
On'd oedd o'n foddwr gwan?


CCIX. , CCX. AMEN.

"JOHN, John, gymri di jin?"
"Cymra, cymra, os ca i o am ddim;"
"Amen," meddai'r ffon,
"Dwgyd triswllt o siop John."

Lleuad yn oleu, plant bach yn chwareu,
Lladron yn dwad dan weu hosanau,
Taflu y 'sanau dros ben y cloddiau;
"Amen," meddai'r ffon,
"Dwgyd sofren o siop John."

CCXI. JINI.

WELSOCH chwi Jini mewn difri?
Yn tydi hi'n grand aneiri?
Heten grand, a bwcwl a band,
Yn tydi hi'n grand, mewn difri?


CCXII. DAFYDD

BACHGEN da 'di Dafydd,
Gwisgo'i sgidie newydd;
Cadw'r hen rai tan yr ha,
Bachgen da 'di Dafydd.


CCXIII. MAM YN DOD.

DACW mam yn dwad
Wrth y garreg wen,
Menyn yn 'i ffedog,
A blawd ar 'i phen;

Mae'r fuwch yn y beudy
Yn brefu am y llo,
A'r llo yr ochr arall
Yn chware banjo.


CCXIV. ROBIN YN DOD.

CLIRIWCH y stryd, a sefwch yn rhenc;
Mae Robin, ding denc, yn dwad.


CCXV. BACHGEN BACH OD.

BACHGEN bach o Felin y Wig,
Welodd o 'rioed damaid o gig;
Gwelodd falwen ar y bwrdd,
Cipiodd ei gap, a rhedodd i ffwrdd.


CCXVI. CAM A FI.

DI-LING, di-ling, pwdin yn brin;
Meistr yn cael tamed, finne'n cael dim.


CCXVII. NED DDRWG.

NEDI ddrwg, o dwll y mŵg,
Gwerthu 'i fam am ddime ddrwg.


CCXVIII. OED Y BACHGEN.

"BE 'di dy oed di?"
Yr un oed a bawd fy nhroed,
A thipyn hŷn na nannedd.


Gwydd ar ol gwydd

CCXIX. Y BYSEDD.

FINI, fini, Fawd,
Brawd y Fini Fawd,
Wil Bibi,
Sion Bobwr,
Bys bach, druan gŵr,
Dal 'i ben o dan y dŵr.

CCXX. SI BEI.

CYSGA bei, babi,
Yng nghôl dadi;
Neu daw'r baglog mawr
I dy mo'yn di'n awr.


CCXXI. GA I FENTHYG CI?

WELWCH chwi fi, a welwch chwi fi?
Welwch chwi'n dda ga i fenthyg ci?
Mae ci modryb Ann
Wedi mynd i'r Llan;
Mae ci modryb Elin
Wedi mynd i'r felin;
Mae ci modryb Catrin
Allan ers meityn;
Mae ci modryb Jane
Wedi mynd yn hen;
Mae ci modryb Sioned
Yn methu a gweled;
Mae ci tad-cu, a chi mam-gu,
Wedi mynd allan hefo'n ci ni;
A chi modryb Ann Ty'n y Coed
Wedi llosgi 'i droed
Mewn padell fawr o bwdin.


CCXXII. CHWALU.

CHWLLIO'r tŷ a chwalu'r to,
A thynnu efo thennyn,
O forfa Caer i furiau Cent,
Nadolig sy yn dilyn;
A dal y lladron cas a hy,
Fu'n torri ym Mhlas y Celyn.

CCXXIII. PONT LLANGOLLEN.

MI weles ddwy lygoden,
Yn cario pont Llangollen;
Yn ol a blaen o gylch y ddôl,
Ac yn eu hol drachefen.


CCXXIV. ROBIN GOCH RHIWABON.

ROBIN goch o blwy Rhiwabon,
Lyncodd bâr o fachau crochon;
Bu'n edifar ganddo ganwaith,
Eisieu llyncu llai ar unwaith.


CCXXV. MEDR ELIS.

TRI pheth a fedr Elis,—
Rhwymo'r eisin sil yn gidys,
Dal y gwynt a'i roi mewn coden,
Rhoi llyffethair ar draed malwen.


"Waith bachgen smart wyf fi."

CCXXVI. BWCH Y WYDDFA.

'ROEDD bwch yn nhroed y Wyddfa
Yn rhwym wrth aerwy pren,
A'r llall yn Ynys Enlli,
Yn ymryson taro pen;
Wrth swn y rhain yn taro,
Mae hyn yn chwedl chwith,
Fe syrthiodd clochdy'r Bermo,
Ac ni chodwyd mohono byth.

CCXXVII. CEFFYL JOHN BACH.

HEI gel, i'r dre; hei gel, adre,—
Ceffyl John bach mor gynted a nhwnte.


CCXXVIII. DADL DAU.

SION a Gwen sarrug,
Ryw nos wrth y tân,
Wrth son am eu cyfoeth,
I ymremian yr aen;
Sion fynnai ebol
I bori ar y bryn,
A Sian fynnai hwyaid
I nofio ar y llyn.


CCXXIX. YR HAFOD LOM.

MI af oddiyma i'r Hafod Lom,
Er ei bod hi'n drom o siwrne,
Mi gaf yno ganu cainc
Ar ymyl mainc y simdde;
Ac, ond odid; dyna'r fan
Y bydda i tan y bore.


CCXXX. COED Y PLWY.

HELYG a bedw, gwern a derw,
Cyll, a mall, a bocs, ac yw;
A choed shirins[15] a gwsberins,[16]
A chelynen werddlas wiw.

CCXXXI. HEN WRAIG SIARADUS.

HEN wraig o ymyl Rhuthyn,
Aeth i'r afon i olchi pwdin;
Tra bu'n siarad â'i chymdogion,
Aeth y pwdin efo'r afon,
Ar ol y cwd.


CCXXXII. MOCHYN BACH.

JIM Cro crystyn,
Wan, tw, and ffôr;
Mochyn bach yn eistedd
Yn ddel ar y stol.


CCXXXIII. RHYFEDD IAWN.

AETH hen wraig i'r dre i brynnu pen tarw,
Pan ddaeth hi'n ol 'roedd y plant wedi marw;
Aeth i'r llofft i ganu'r gloch,
Cwympodd lawr i stwnd y moch.


"Tailiwr oedd fy nhaid.
Tailiwr oedd fy nhad."


CCXXXIV. Y STORI.

HEN wraig bach yn y gornel,
A phib yn ei phen;
Yn smocio llaeth enwyn,—
Dyna'r stori ar ben.

CCXXXV. CARLAM.

CALAP ar galap, a'r asyn ar drot,
A finne'n clunhercan yn ddigon o sport.


CCXXXVI. CALENNIG.

CALENNIG i mi, calennig i'r ffon,
Calennig i fwyta, y noson hon;
Calennig i'm tad am glytio'm sgidiau,
Calennig i'm mam am drwsio'm sanau.


CCXXXVII. CARTREF.

Dacw nhad yn naddu,
A mam a nain yn nyddu,
Y naill a'r droell fawr, a'r llall a'r droell fach,
A nhaid yn y gornel yn canu.


CCXXXVIII. DAFAD.

DAFAD ddu [17]
Finddu, fonddu,
Felen gynffonddu,
Foel, a chudyn a chynffon ddu.


CCXXXIX. ADERYN Y BWN.

ADERYN y bwn a bama,
A aeth i rodio'r gwylia,
Ac wrth ddod adra ar hyd y nos,
Fe syrthiodd i ffos y Wyddfa.

CCXL.TAITH.

MALI bach a finna,
Yn mynd i ffair y Bala;
Dod yn ol ar gefn y frân,
A phwys o wlan am ddima.


CCXLI. CYFOETH SHONI.

SHONI o Ben y Clogwyn
Yn berchen buwch a llo,
A gafar bach a mochyn,
A cheiliog,—go-go-go!


CCXLII. A DDOI DI?

A DDOI di, Mari anwyl,
I'r eglwys gyda mi?
Fy nghariad, a fy nghoron,
A'm calon ydwyt ti.


CCXLIII. GWLAN CWM DYLI.

FAINT ydyw gwlan y defaid breision,
Hob y deri dando,
Sydd yn pori yn sir Gaernarfon?
Dyna ganu eto.
"Ni gawn goron gron eleni,"—
Tewch, taid, tewch,—
"Am oreu gwlan yn holl Eryri. "
Hei ho! Hali ho!
Gwlan Cwm Dyli, dyma fo.


Os na lifiwn ni'n glau,
Nillwn ni ddim grot yn dau."


CCXLIV. CCXLV. BUM YN BYW.

BUM yn byw yn gynnil, gynnil,
Aeth un ddafad imi'n ddwyfil;
Bum yn byw yn afrad, afrad,
Aeth y ddwyfil yn un ddafad.

Bum yn byw yn afrad, afrad,
Aeth y ddwyfil yn un ddafad;
Bum yn byw yn gynnil, gynnil,
Aeth un ddafad imi'n ddwyfil.

CCXLVI. PEN Y MYNYDD DU.

PLE mae mam-gu?
"Ar ben y Mynydd Du."
Pwy sydd gyda hi?
"Oen gwyn a myharen ddu.
Fe aeth i lan dros yr Heol Gan,
Fe ddaw i lawr dros yr Heol Fawr."


CCXLVII. GWAITH TRI

'ROEDD Sion, a Sian, a Siencyn,
Yn byw yn sir y Fflint;
Aeth Sion i hela'r cadno,
A Sian i hela'r gwynt;
A Siencyn fu
Yn cadw'r ty.


CCXLVIII. LADIS.

LADIS bach y pentre,
Yn gwisgo cap a leise;
Yfed te a siwgwr gwyn,
A chadw dim i'r llancie;
A modrwy aur ar ben pob bys,
A chwrr eu crys yn llapre.

CCXLIX. Y DARAN.

CLYWCH y tarw coch cethin,
Yn rhuo draw yn y cae eithin;
Clywir o bell, ni welir o byth.


CCL.ENWAU.

MAE gennyf edefyn sidan,
Mi dorraf f' enw f hunan;
M ac A ac O ac U,
A dybl U for William.


CCLI. PADELL FFRIO.

DU, du, fel y frân,
Llathen o gynffon, a thwll yn ei blaen.

"Cobler Coch o Ruddlan
A aeth i foddi cath."


CCLII. COES Y FRAN.

CWCW Glame, cosyn dime,
Coes y frân ar ben y shime.

CCLIII. —CCLVII. CALENNIG.[18]

CALENNIG yn gyfan
Ar fore dydd Calan,
Unwaith, dwywaith, tair.

Mi godais yn fore,
Mi gerddais yn ffyrnig,
At dŷ Mr Jones i ofyn calennig;
Os gwelwch yn dda,
Am swllt a chwecheiniog,
Blwyddyn newydd dda
Am ddimai neu geiniog.

Dydd Calan, cynta'r flwyddyn,
'Rwy'n dyfod ar eich traws,
I ymofyn am y geiniog,
Neu glwt o fara a chaws;
Edrychwch arna i 'n siriol,
Newidiwch ddim o'ch gwedd,
Cyn daw Dydd Calan nesaf
Bydd llawer yn y bedd.

Mi godes heddi mas o 'nhy,
A'm ffon a'm cwdyn gyda fi;
A thyma'm neges ar eich traws,
Y:w llanw 'nghwd o fara a chaws.

Dydd Calan yw heddy, onite?
N:a rowch chwi ddim i blant y dre;
Ond rhowch galennig pert dros ben
I blant Cwm Coi a phlant Dre Wen.


CCLVIII. DWY WYDD RADLON.[19]

DWY ŵydd radlon,
Yn pori'n nglan yr afon,
Yn rhadloned a'r rhadlonaf ŵydd,
Dwy ŵydd radlon.

CCLIX. IAR DDA.

'ROEDD gen i iar yn gori
Ar ben y Frenni Fawr;
A deg o wyau dani,—
Daeth un ar ddeg i lawr.


CCLX. PLE'R A'R ADAR.

B'LE ti'n mynd, b'le ti'n mynd,
Yr hen dderyn bach?
I sythu cyn bo ti'n marw?
Pwy mor uchel wyt ti'n byw,
Gael dweyd wrth Ddafydd Huw?
O, trueni am yr hen dderyn bach.


Lleuad yn oleu, plant bach yn chwareu

CCLXI. WEL, WEL.

MI weles ferch yn godro,
A menyg am ei dwylo,
Yn sychu'r llaeth yng nghwrr ei chrys,
A merch Dai Rhys oedd honno.

CCLXII. TEIMLAD DA.

MAE'N dda gen i ddefaid, mae'n dda gen i ŵyn,
Mae'n dda gen i feinwen a phant yn ei thrwyn;
A thipyn bach bach o ol y frech wen,
Yn gwisgo het befar ar ochr ei phen.


CCLXIII. DAU GANU.

MAE gen i ganu byrr bach,—
Ffiol a llwy, a sucan a llaeth;
Mae gen i ganu byrr bach sy hwy,—
Ffiol a llaeth, a sucan a llwy.


CCLXIV. TARW CORNIOG.

TARW corniog, torri cyrnau,
Heglau baglog, higlau byglau;
Higlau byglau, heglau baglog,
Torri cyrnau tarw corniog.


CCLXV. PE TASAI.

PE tasai'r Wyddfa i gyd yn gaws,
Fe fuasai'n haws cael enllyn;
A Moel Eiddia'n fara gwyn,
A'r llyn yn hufen melyn.


CCLXVI. TRO FFOL.

FY modryb, fy modryb, a daflodd ei chwd,
Dros bont Aber Glaslyn, i ganol y ffrwd;
Cnau ac afalau oedd ynddo fo'n dynn,
Mi wn fod yn 'difar i'w chalon cyn hyn.

CCLXVII. FEL DAW TADA ADRE.

DYDD Gwener a dydd Sadwrn
Sydd nesa at ddydd Sul;
Daw dada bach tuag adre,
Mewn trol a bastard mul.


CCLXVIII. BUWCH.

MAE gennyf fuwch a dau gorn arian,
Mae gennyf fuwch yn godro'i hunan;
Mae gennyf fuwch yn llanw'r stwcau,
Fel mae'r môr yn llanw'r beiau.


CCLXIX. LLE PORI.

MARC a Meurig, b'le buoch chwi'n pori?
"Ar y Waen Las, gerllaw Llety Brongu."
Beth gawsoch chwi yno yn well nag yma?
"Porfa fras, a dŵr ffynhonna."


CCLXX. O GWCW.

O GWCW, O gwcw, b'le buost ti cyd
Cyn dod i Benparce? Ti aethost yn fud.
"Meddyliais fod yma bythefnos yn gynt,
Mi godais fy aden i fyny i'r gwynt;
Ni wnes gamgymeriad, nid oeddwn mor ffol,
Corwynt o'r gogledd a'm cadwodd i'n ol."

"Si bei, babi,
Yng nghôl dadi.


CCLXXI. LLIFIO.

LLIFIO â llif,
Am geiniog y dydd;
Llifio pren bedw,
Yng nghoed yr hen widw;
Bocs i John, a bocs i finne,
Bocs i bawb drwy'r tŷ 's bydd eise.

CCLXXII. AR OL Y LLYGOD.[20]

WIL ffril ffralog
A'i gledde tair ceiniog,
Yn erlid y llygod trwy'r llydi;
Aeth y llygod i'r dowlad,
Aeth Wil i 'mofyn lletwad;
Aeth llygod i'r ddol.
Aeth Wil ar eu hol,
Aeth y llygod i foddi,
Aeth Wil i gysgu.


CCLXXIII. ELRINEN.

HEN wraig bach, den, den,
Pais ddu, a het wen,
Calon garreg, a choes bren.


CCLXXIV. CREMPOG.

OS gwelwch chwi'n dda, ga'i grempog?
Mae mam yn rhy dlawd
I brynnu blawd,
A nhad yn rhy ddiog i weithio;
Halen i'r ci bach,
Bwyd i'r gath bach,
Mae ngheg i'n grimpin eisiau crempog.

CCLXXV. YR AWYR.

DOL las lydan,
Lot o wyddau bach penchwiban,
A chlagwydd pen aur, a gwydd ben arian


CCLXXVI. NYTH Y DRYW.

Y NEB a dynno nyth y dryw,
Ni wel ddaioni tra bo byw.


CCLXXVII. NYTH YR EHEDYDD.

Y NEB a dynno nyth ehedydd,
Cyll oddiar ei ben ei fedydd.


CCLXXVIII. NYTH ROBIN.

OS tynni nyth y robin,
Ti gei gorco yn dy goffin.


CCLXXIX. CARU CYNTAF.

PAN eis i gynta i garu,
Nid own ond bachgen bach,
Yn methu cyrraedd cusan
Heb fynd i ben stol fach;
Pan es i garu wedyn,
Yr own yn fachgen mawr,
Yn gallu cyrraedd cusan
A 'nwy droed ar y llawr.

CCLXXX. CHWYTHU.

Y GWYNT ffalwm ar fawr hwthrwm,
Chwyth dy dŷ di'n bendramwgwm.


CCLXXXI. CAMGYMERIAD.

PAN own i'n mynd â brâg tua'r felin,
Meddylies i fi gwrdd â brenin;
Erbyn edrych, beth oedd yno?
Hen gel gwyn oedd bron a thrigo.


CCLXXXII. CAN IAR.[21]

A GLYWAIST ti
Gân ein iar ni?—
"Dodwy, dodwy 'rioed,
Heb un esgid am fy nhroed;
A phe bawn yn dodwy byth,
Ni chawn ond _un_ wy yn fy nyth."
"Taw'r ffolog," ebai'r ceiliog,
"Wnaeth y crydd 'rioed esgid fforchog."


CCLXXXIII. CAN IAR ARALL.[22]

"MI ddodwas wy heddyw, mi ddodwas wy ddoe;
Mi wn i'r lle'r aeth,—
Morwyn y tŷ holws, gwraig y ty triniws,
Gŵr y ty bytws,—a dyna lle'r aeth."

CCLXXXIV. MYND.

AR garlam, ar garlam, i ffair Abergele,
Ar ffrwst, ar ffrwst, i ffair Lanrwst,
Ar dith, ar dith, i ffair y Ffrith,
Ar drot, ar drot, i ffair Llan-mot,
O gam i gam i dŷ Modryb Ann.


CCLXXXV. AMSER CODI.

MAE'R ceiliog coch yn canu,
Mae'n bryd i minne godi,
Mae'r bechgyn drwg yn mynd tua'r glo,
A'r fuwch a'r llo yn brefu.


CCLXXXVI. IAR FACH.

IAR fach bert yw ngiar fach i,
Gwyn a choch a melyn a du;
Fe aeth i'r coed i ddodwy wy, {110b}
Cwnmws ei chwt, a ffwrdd â hI.


Llygod i foddi, Wil i gysgu.

CCLXXXVII. —CCXCI. MEDDE BIBYN WRTH BOBYN.

"A ddoi di i'r coed?" medde Bibyn wrth Bobyn,
"A ddoi di i'r coed?" medde Richard wrth Robin,
"A ddoi di i'r coed?" medde'r bachgen ei hun,
"A ddoi di i'r coed?" medde nhw bod yg un.

"Beth wnawn ni yno?" medde Bibyn wrth Bobyn,
"Beth wnawn ni yno?" medde Richard wrth Robin,
"Beth wnawn ni yno?" medde'r bachgen ei hun,
"Beth wnawn ni yno?" medde nhw bod yg un.

"Hela'r dryw bach," medde Bibyn wrth Bobyn,
"Hela'r dryw bach," medda Richard wrth Robin,
"Hela'r dryw bach," medde'r bachgen ei hun,
"Hela'r dryw bach," medde nhw bod yg un.

"Beth wnawn ni wedyn?" medde Bibyn wrth Bobyn,
"Beth wnawn ni wedyn?" medde Richard wrth Robin,
"Beth wnawn ni wedyn?" medde'r bachgen ei hun,
"Beth wnawn ni wedyn?" medda nhw bod yg un.

"Gwneyd potes â fo," medde Bibyn wrth Bobyn,
"Gwneyd potes â fo," medde Richard wrth Robin,
"Gwneyd potes â fo," medde'r bachgen ei hun;
A boddi mewn potes ddaru nhw, bod yg un.


CCXCII. STORIAU HEN GASEG.

MI ddeuda i ti stori,—
Hen gaseg yn porI.
Mi ddeuda i ti ddwy,—
Hen gaseg ar y plwy.
Mi ddeuda i ti dair,—
Hen gaseg yn y ffair.
Mi ddeuda i ti beder,—
Hen gaseg yn colli pedol.
Mi ddeuda i ti bump,—
Hen gaseg ar ei phwmp.
Mi ddeuda i ti chwech,—
Hen gaseg frech.
Mi ddeuda i ti saith,—
Hen gaseg fraith.
Mi ddeuda i ti wyth,—
Hen gaseg yn rhoi pwyth.
Mi ddeuda i ti naw,—
Hen gaseg yn y baw.
Mi ddeuda i ti ddeg,—
Hen gaseg ar y clwt teg.

CCXCIII. GYNT.

PAN oeddwn yn ferch ifanc,
Ac yn fy ffedog wen,
Yn gwisgo'm cnotyn sidan
Yn uchel ar fy mhen,
Mi neidiwn gainc yn wisgi,
Mi ddaliwn 'nghorff yn syth,
Meddyliais y pryd hynny,—
"Ddaw henaint ata i byth."

CCXCIV. Y DERYN BACH SYW.

I ble ti'n mynd heddy 'deryn bach syw?
I mofyn bara, os bydda'i byw;
I beth ti'n mo'yn a bara, 'deryn bach syw?
I ddodi yn 'y nghawl, os bydda'i byw;
I beth ti'n mo'yn a cawl, 'deryn bach syw?
I ddodi yn 'y mola, os bydda'i byw;
I beth ti'n mo'yn a bola, 'deryn bach syw?
Wel, ond bai bola, byddwn ni ddim byw.

CCXCV. TLODI.

Nid oes gen i na buwch na dafad,
Na giar na cheiliog wrth fy ngalwad,
Ond bwth o dŷ, a hwnw'n fudur,
A thwll o ffenast heb un gwydyr.


CCXCVI. UNO.

Gwelais neithiwr trwy fy hun,
Dair gwlad yn mynd yn un;
Fala'n tyfu ar friga'r brwyn,
A phob hen wraig yn eneth fach, fwyn.


CCXCVII. PRIODI FFOL.

Mae mwy ysywaeth yn priodi,
Nag sydd a chig at Sul i ferwI.


CCXCVIII. BRITH Y FUCHES.

MAE nhw'n dwedyd am yr adar,
Nad oes un o'r rhain heb gymar;
Gwelais dderyn brith y fuches,
Heb un cymar na chymhares.

CCXCIX. CALON DROM.

MAE'M calon i mor drymed
A'r march sy'n dringo'r rhiw,
Wrth geisio bod yn llawen,
Nis medraf yn fy myw;
Mae'r esgid fach yn gwasgu
Mewn man nas gwyddoch chwi,
A llawer gofid meddwl
Sy'n torri 'nghalon i.


CCC.NOS DA.

DOS i'th wely 'rwan,
Dos i'th wely 'rwan;
Dos i'th wely fel yr wyt,
Dos i'th wely 'rwan.

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.

 
  1. Hwiangerddi Cymru. Rhan I. Darluniau gan Winifred Hartley. 2s. 6d. Conwy: R. E. Jones a’i Frodyr.
  2. Welsh Nursery Rhymes. Collected by Cadrawd. Arranged by Harry Evans. 2s. The Educational Publishing Company, Merthyr.
  3. Ychwaneger dafad ddu, lwyd, goch, felen, frech, fraith, &c., hyd nes y bydd y bychan wedi huno.
  4. Weithiau cenid "A chwe nichog ynddi."
  5. Wrth ddawnsio efo coes ysgub
  6. Cyffyrddid â’r fawd a’r bysedd wrth enwi pob un.
  7. Os dymunid gwneud y ddrama yn fwy cyffrous, dywedid yma,—"I ladd defaid." Yr oedd crogi am ddwyn defaid.
  8. Rhoddid blaen gwialen yn y tân, a throid hi'n gyflym i ddarlunio buarth, cryman, &c., wrth ddweyd y geiriau.
  9. Mae'n gofyn medr i wneyd y swn priodol. Medd golygydd Llyfr Coch Hergest, gan yr hwn y cefais hwy, y medr hwn.
  10. Mae'n gofyn medr i wneyd y swn priodol. Medd golygydd Llyfr Coch Hergest, gan yr hwn y cefais hwy, y medr hwn.
  11. Gellir trefnu geiriau'r pennill mewn llu o ffyrdd.
  12. Dywedir y rhain wrth gerdded un neu ddau fys ("Dau bry bach") fyny corff y plentyn. Gorffennir dan ei oglais dan ei ên.
  13. Dyweder "ffarmwr," "bugail," "glowr," "gweithiwr," &c., yn ol fel y bydd eisieu.
  14. Un yn dysgu dod yn chwarelwr yw rhybelwr. Enwau ar lechau o wahanol faint yw Princes, Squares, a Counties.
  15. Cherries, ceirios.
  16. Gooseberries, eirin Mair.
  17. Newidier yn wen, goch, lâs, fraith, frech, &c., hyd nes y cysgro'r baban
  18. Nid wyf yn sicr ai priodol galw caneuon Calan yn ganeuon hwian. Ond hyn a wn, cenid hwy ar yr hen aelwydydd fel caneuon hwian.
  19. I brofi y medrai’r plentyn ddweyd y seiniau anhawddaf yn groew.
  20. Cefais hwn, ac amryw o hwiangerddi Dyfed welir trwy'r llyfr, gan gyfieithydd (Daniel Rees 1855-1931) Dwyfol Gân Dante i'r Gymraeg.
  21. O gasgliad Ceiriog yn "Oriau’r Bore."
  22. O gasgliad Cadrawd yn yr "History of Llangynwyd Parish"