Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/Y Ddafad yn y Bala
Gwedd
← Llyncu Dewr | Yr Hwiangerddi (O M Edwards) gan Owen Morgan Edwards |
Delwedd Pwsi Mew → |
LXXVI., LXXVII. Y DDAFAD YN Y BALA.
'ROEDD gen i ddafad gorniog,
Ac arni bwys o wlan,
Yn pori ar lan yr afon
Ymysg y cerrig mân;
Fe aeth yr hwsmon heibio,
Hanosodd arni gi;
Ni welais i byth mo'm dafad,
Ys gwn i a welsoch chwi?
Mi gwelais hi yn y Bala,
Newydd werthu ei gwlan,
Yn eistedd yn ei chadair,
O flaen tanllwyth mawr o dân;
A'i phibell a'i thybaco,
Yn smocio'n abal ffri,
A dyna lle mae y ddafad,
Gwd morning, Jon, how di!