Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/Llyncu Dewr

Oddi ar Wicidestun
Gwennol Fedrus Yr Hwiangerddi (O M Edwards)

gan Owen Morgan Edwards

Y Ddafad yn y Bala


LXXV. LLYNCU DEWR.

MI weles beth na welodd pawb,—
Y cwd a'r blawd yn cerdded,
Y frân yn toi ar ben y ty,
A'r gŵr mor hy a hedeg ;
A hogyn bach, dim mwy na mi,
Yn llyncu tri dyniawed.