Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/Clocs

Oddi ar Wicidestun
Delwedd-Mynd i'r ardd i dorri pwysi Yr Hwiangerddi (O M Edwards)

gan Owen Morgan Edwards

Glaw (2)

CLXXXIV. CLOCS.

MAE gen i bâr o glocs,
A rheini'n bâr go dda,
Fe barant dros y gaea,
A thipyn bach yr ha;
Os can nhw wadnau newydd,
Fe barant dipyn hwy;
A saith a dime'r glocsen,
A phymtheg am y ddwy.