Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/P'le Mae Dy Fam?

Oddi ar Wicidestun
Pwy Fu Farw? Yr Hwiangerddi (O M Edwards)

gan Owen Morgan Edwards

Dau Robin

CCI. P'LE MAE DY FAM?

TITW bytaten, i ble'r aeth dy fam?
Hi aeth i lygota a chafodd beth cam;
Gwraig y ty nesaf a'i triniodd hi'n frwnt,
Hi gurodd ei dannedd yng nghaead y stwnt.