Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/Caru Cyntaf

Oddi ar Wicidestun
Nyth Robin Yr Hwiangerddi (O M Edwards)

gan Owen Morgan Edwards

Chwythu

CCLXXIX. CARU CYNTAF.

PAN eis i gynta i garu,
Nid own ond bachgen bach,
Yn methu cyrraedd cusan
Heb fynd i ben stol fach;
Pan es i garu wedyn,
Yr own yn fachgen mawr,
Yn gallu cyrraedd cusan
A 'nwy droed ar y llawr.