Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/Camgymeriad

Oddi ar Wicidestun
Chwythu Yr Hwiangerddi (O M Edwards)

gan Owen Morgan Edwards

Can Iar

CCLXXXI. CAMGYMERIAD.

PAN own i'n mynd â brâg tua'r felin,
Meddylies i fi gwrdd â brenin;
Erbyn edrych, beth oedd yno?
Hen gel gwyn oedd bron a thrigo.