Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/Prun?

Oddi ar Wicidestun
Sen i'r Gwas Yr Hwiangerddi (O M Edwards)

gan Owen Morgan Edwards

Damwain


CXXI. PRUN?

Dic Golt a gysgodd yn y cart,
Fe'i speiliwyd o'i geffyle;
A phan ddihunodd, holi wnai,–
"Ai Dic wyf fi, ai nage?
Os Dic wyf fi, ces golled flin,–
Mi gollais fy ngheffyle;
Ac os nad Dic, 'rwy'n fachgen smart,
Enillais gart yn rhywle."