Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/Ymffrost

Oddi ar Wicidestun
Llanc Yr Hwiangerddi (O M Edwards)

gan Owen Morgan Edwards

Y Rhybelwr Bach

CLXXIX. YMFFROST.CHWARELWR[1]

Chwarelwr oedd fy nhaid,
Chwarelwr oedd fy nhad;
Chwarelwr ydwyf finnau,
Y goreu yn y wlad;
Chwarelwr ydyw'r baban
Sy'n cysgu yn ei gryd,
Ond tydi o'n beth rhyfedd
Ein bod ni'n chwarelwyr i gyd?


  1. Dyweder "ffarmwr," "bugail," "glowr," "gweithiwr," &c., yn ol fel y bydd eisieu.