Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/Y Rhybelwr Bach

Oddi ar Wicidestun
Ymffrost Yr Hwiangerddi (O M Edwards)

gan Owen Morgan Edwards

Llifio

CLXXX. Y RHYBELWR BACH.[1]

RHYBELWR bychan ydwyf,
Yn gweithio hefo nhad,
Mi allaf drin y cerrig
Yn well na neb o'r wlad;
'Rwy'n medru naddu Princes,
Y Squares, a'r Counties bach,
Cyn hir caf finnau fargen,
Os byddaf byw ac iach.

  1. Un yn dysgu dod yn chwarelwr yw rhybelwr. Enwau ar lechau o wahanol faint yw Princes, Squares, a Counties.