Yr Hwiangerddi (O M Edwards)/Cariad y Melinydd

Oddi ar Wicidestun
Tair Gwydd Yr Hwiangerddi (O M Edwards)

gan Owen Morgan Edwards

Cariad Arall

CLXV. , CLXVI. CARIAD Y MELINYDD.

MI af i'r eglwys Ddywsul nesa,
Yn fy sidan at fy sodla;
Dwed y merched wrth eu gilydd,—
"Dacw gariad Wil Felinydd."

Os Wil Felinydd wyf yn garu,
Rhoddaf bupur iddo falu;
Llefrith gwyn i yrru'r felin,
A chocos arian ar yr olwyn.